Caroline Jones: Leanne Wood.
Caroline Jones: Brif Weinidog, mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd datblygedig, a'r prif reswm yw cyfraddau gwael o ran canfod ac ymyrraeth gynnar. Sut wnaiff eich Llywodraeth wella diagnosis a thriniaeth, ac a ydych chi’n cytuno â fy mhlaid i y dylai pawb sy’n cael diagnosis o ganser fod â chynllun gofal ysgrifenedig llawn?
Caroline Jones: Brif Weinidog, er mwyn i’r dinas-ranbarth weithio yn y modd mwyaf effeithiol, mae gofyn am fwy o gydweithredu ymhlith y partneriaid llywodraeth leol. Roedd eich cynigion ad-drefnu llywodraeth leol blaenorol yn anghydnaws â map y dinas-ranbarth. A fydd eich cynigion newydd ar gyfer uno llywodraeth leol yn ystyried yr angen i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gydweithio’n agosach â Sir...
Caroline Jones: Hoffwn innau hefyd eich llongyfarch ar eich penodiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch ichi am eich datganiad. Mae'n newyddion da yn wir fod cydsyniad tybiedig wedi creu 10 yn rhagor o roddwyr a gyfrannodd at hanner y trawsblaniadau yn y chwe mis diwethaf. Rhoi organau yw’r weithred fwyaf o haelioni a thrugaredd y gall person ei gyflawni. Yn anffodus, mae gennym dros 200 o bobl sy’n...
Caroline Jones: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol yng Nghymru?
Caroline Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yn ystod tymor y Cynulliad hwn?
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am help ar gyfer salwch meddwl, beth fydd y Llywodraeth newydd yn ei wneud i wella amseroedd aros ar gyfer mynediad at ofal iechyd meddwl?
Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae rhan o’r broblem gydag amseroedd aros am ofal iechyd meddwl yn ymwneud â chyllid. Iechyd meddwl yw’r perthynas tlawd yn ein GIG. A ydych yn cytuno y dylid clustnodi cyllid iechyd meddwl ar lefel lawer uwch na’r gwariant presennol?
Caroline Jones: Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae toriadau i wariant awdurdodau lleol yn bygwth gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gymell cynghorau yng Nghymru i ddiogelu’r gwasanaethau iechyd meddwl a ddarparant, ac i wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector?
Caroline Jones: Brif Weinidog, fel rhywun sydd wedi goroesi canser, gallaf ddweud wrthych o brofiad uniongyrchol bod diagnosis cynnar yn allweddol i oroesi. Mae meddygon teulu yn y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn canser, ac maen nhw’n hollbwysig ar gyfer diagnosis cynnar. Brif Weinidog, canfu Cancer Research UK fod amrywiaeth enfawr o ran mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion diagnostig yng...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r data arolwg iechyd Cymru unwaith eto yn tynnu sylw at yr angen i wella negeseuon iechyd cyhoeddus. Wrth gwrs, nid yw’r heriau o lefelau gordewdra cynyddol yn unigryw i Gymru. Fodd bynnag, mae'n gwbl syfrdanol i ddysgu bod bron 60 y cant o oedolion Cymru dros eu pwysau neu'n ordew. Ysgrifennydd y Cabinet,...
Caroline Jones: 14. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno taliadau gwasanaeth ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol? OAQ(5)0011(CC)
Caroline Jones: Mynychais gyfarfod y cefais wahoddiad iddo yng ngogledd Corneli—diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, roeddent yn pryderu bod taliadau gwasanaeth megis torri gwair a chodi sbwriel yn cael eu cynnwys yn eu rhent. Yn ddiweddar, roeddent wedi derbyn, gan Valleys to Coast, y taliadau gwasanaeth a gyflwynwyd ar gyfer codi sbwriel. Mae hyn wedi achosi llawer o ofid i’r...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Hoffwn hefyd ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig iawn hon ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae fy ngwelliant yn ceisio ychwanegu at y ddadl heb dynnu dim oddi wrth y cynnig yn gyffredinol. Credaf yn gryf fod ysbytai bwthyn neu ysbytai cymunedol yn rhan o’r ateb i leihau’r baich ar ein hadrannau achosion brys, lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal a lleihau’r...
Caroline Jones: Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Yfory bydd cyfle i bob dinesydd dros 18 oed o bob rhan o’r DU benderfynu a ydym yn parhau i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu a ydym yn dod yn annibynnol unwaith eto. Democratiaeth yw hyn. Gall pobl benderfynu a gallant ddewis drostynt eu hunain. Ni fydd yn fawr o syndod i neb fy mod yn credu bod Cymru yn well ei byd allan o’r UE. Bydd...
Caroline Jones: Na, Huw, am fy mod i’n ceisio mynd drwy rywbeth. A yw hynny’n iawn? Fodd bynnag, a yw’n iawn fod pobl y tu allan i’r Deyrnas Unedig nad ydynt yn talu treth ac yswiriant gwladol yn cael parhau i fanteisio ar ein gwasanaeth gofal iechyd rhad ac am ddim, neu a ddylem fynnu y dylai’r rhai sy’n byw y tu allan i’r DU gael yswiriant iechyd? A’r bygythiad mwyaf i’n GIG yw...
Caroline Jones: Yn ddiweddar rhybuddiodd ‘The British Medical Journal’ mai’r risg i’r GIG fyddai na allai byth fforddio dod â gwasanaeth yn ôl yn fewnol ar ôl ei roi allan ar gontract ac mae uwch-gwnsleriaid y frenhines wedi rhybuddio bod TTIP yn creu risg real a difrifol i benderfyniadau Llywodraeth y DU yn y dyfodol mewn perthynas â’r GIG. Os ydym yn parhau i fod yn yr UE, golyga hyn y bydd...
Caroline Jones: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0080(FM)
Caroline Jones: Brif Weinidog, y datblygiad mwyaf cyffrous yn y driniaeth o ganser yn ddiweddar fu datblygu meddyginiaethau haenedig, lle mae triniaeth yn cael ei theilwra’n benodol i'r claf yn seiliedig ar gyfansoddiad genetig ei ganser penodol. Roeddwn i’n bryderus iawn o glywed, yng Nghymru, ein bod yn profi ar gyfer dim ond dau farciwr genetig. A wnaiff eich Llywodraeth ddatblygu strategaeth...
Caroline Jones: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthym ein bod angen 400 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn erbyn 2020 os ydym ni’n mynd i gynnig mynediad da at yr holl ofal sylfaenol. Mae'n destun pryder, felly, ein bod yn hyfforddi ychydig dros 100 o feddygon teulu y flwyddyn yng Nghymru, a dim ond 13 y cant o feddygon dan hyfforddiant sy’n...