Mark Isherwood: Leanne Wood.
Mark Isherwood: Sefydlwyd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl a gynigir gan sawl prosiect graddfa fawr sydd ar y gweill yn y gogledd, a Wylfa Newydd yw'r mwyaf o’r rheini. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan gynnwys pob un o'r chwe chyngor sir, cyngor busnes gogledd Cymru a'r trydydd sector, wedi croesawu cynnig Llywodraeth y DU o gytundeb twf...
Mark Isherwood: Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, Spencer Harris: ‘Mae cael Cymru yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn enfawr i glwb fel ni... Cymru mewn pencampwriaeth yw’r cyfle perffaith i helpu ein clwb.’ Felly, sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio gyda phobl fel Spencer Harris i sicrhau bod yr etifeddiaeth honno—etifeddiaeth Ewro 2016—yn...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwydiant yng Ngogledd Cymru?
Mark Isherwood: Diolch. Wel, wrth gwrs, nid yw cynlluniau datblygu lleol yn adeiladu unrhyw dai. O gofio, yn Lloegr, bod cynlluniau lleol a lunnir mewn ymgynghoriad â'r gymuned wedi bod yn gonglfaen i ddiwygiadau cynllunio, sut y bydd eich Llywodraeth yn ymgysylltu â'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ynghylch y datganiad yn ei bapur etholiad Cymru, 'Adeiladu Cymunedau, Hybu Buddsoddi', oherwydd y...
Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad unigol ar gymorth i gyn-filwyr lluoedd arfog Cymru, yn dilyn yr adroddiad 'Galw i Gof: Cymru', a gyhoeddwyd ar ddechrau'r mis hwn, a ddangosodd fod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru. Rhan fechan iawn yn unig o'r 10,000 o gyn-filwyr yr amcangyfrifir sydd yn byw â salwch meddwl o ryw fath yng Nghymru, sy’n cael eu...
Mark Isherwood: Rwy’n falch o ymuno â chi i glodfori'r cyfraniad gwych a wneir gan bron i filiwn o wirfoddolwyr yng Nghymru. Nodaf fod Wythnos Gwirfoddoli wedi’i hymestyn eleni o 1-12 Mehefin ac mae'n rhaid i ni hefyd ddathlu’r estyniad sy'n gysylltiedig â phen-blwydd y Frenhines yn naw deg a’i chyfraniad hithau, fel noddwr mwy na 600 o elusennau a sefydliadau. Fel y dywedasoch, gall pob un ohonom...
Mark Isherwood: Diolch—diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi galw ers amser, am flynyddoedd lawer, am fathodynnau glas dros dro, wrth gynrychioli barn etholwyr a sefydliadau, ac, yn amlwg, mae'r rheoliadau diwygio a fwriedir yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell o lawer, ac rwyf am esbonio hynny'n fyr. Rwyf wedi derbyn llawer o eitemau o ohebiaeth gan etholwyr dros y blynyddoedd sydd...
Mark Isherwood: Diolch. Yn amlwg, byddai'r cyfle i gael trafodaeth bellach yn cael ei groesawu os bydd hyn yn mynd drwodd. Yn anffodus, unwaith eto, ni fydd hynny'n cynrychioli ymrwymiad. Rwy'n gobeithio y gwnewch gadarnhau, os bydd y dadleuon y byddwch yn eu clywed—rhai ohonynt yr wyf fi wedi eu cyflwyno heddiw—yn argyhoeddiadol, y gallai hynny mewn gwirionedd arwain at Lywodraeth Cymru yn ailedrych...
Mark Isherwood: Yn wir, mae tair blynedd ers i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn y Llywodraeth flaenorol gyhoeddi ei llwybr diwygiedig a ffefrir, gan barhau i ymchwilio i asesiad effaith ar fusnes, er gwaethaf pryderon a fynegwyd gan fusnesau a chyflogwyr lleol y byddai’r llwybr diwygiedig a ffefrir a’i ragflaenydd yn niweidio busnesau a swyddi lleol, ac roedd yna lwybr arall na...
Mark Isherwood: O, diar. Diolch. Ymddiheuriadau, Lywydd. Nid oes angen i ni fod yn yr UE i gydweithredu gyda phartneriaid Ewropeaidd. Rhaid i Gymru ym Mhrydain fod yn bartner sofran i Ewrop nid yn dalaith o’r UE fel rhan o gymuned fyd-eang sy’n edrych tuag allan. Os byddwn yn gadael, nid oes newid yn digwydd ar unwaith yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Byddai cymorth ffermio a chyllido strwythurol wedyn yn...
Mark Isherwood: Fel Gweinidog gall gyflwyno cynigion ac os yw Tŷ’r Cyffredin yn ei basio fel corff sofran gyda gwleidyddion etholedig, fe fydd yn digwydd, ac mae’r Prif Weinidog ei hun wedi gneud yr ymrwymiad hwnnw. Wedi’r cyfan, mae gwledydd y tu allan i’r UE fel y Swistir a Norwy yn rhoi mwy o gymorth i’w ffermwyr mewn gwirionedd nag y mae’r DU a Chymru yn ei wneud. Mae’r UE yn farchnad...
Mark Isherwood: Mae hepgor datganoli plismona o Fil Cymru yn rhywbeth i’w groesawu. Cymerais ran mewn dau adolygiad pwyllgor o strwythur yr heddlu ddegawd yn ôl yma. Adroddodd nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol. Wrth sôn am alwadau i ddatganoli’r heddlu ym Mil Cymru, dywedodd fy nghysylltiadau yn Heddlu Gogledd Cymru a Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru fod...
Mark Isherwood: Unwaith, gwnaf.
Mark Isherwood: Cawn weld am hynny pan fyddant wedi cael eu traed danynt yn eu swyddi, oni chawn? Fe addasodd y pedwar blaenorol eu barn rywfaint am hyn. Byddai galwad Llafur am ddatganoli plismona, a gefnogir gan yr ymwahanwyr, yn cyflawni’r gwrthwyneb i ddatganoli go iawn mewn gwirionedd. Mae’r Prif Weinidog yn cyfeirio at yr argymhelliad i ddatganoli plismona i faer Manceinion yn y dyfodol fel model...
Mark Isherwood: Rwyf fi wedi gorffen fy araith mewn gwirionedd. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’].
Mark Isherwood: Mae’n ddrwg gennyf os rhoddais yr argraff fy mod wedi dweud ei bod yn ddadl ymwahanol. Nid oeddwn yn dweud ei bod yn ddadl ymwahanol. Dywedais efallai mai dyna’r cymhelliad i’r blaid ymwahanol, yn hytrach na’r hyn sy’n eich cymell chi o bosibl.
Mark Isherwood: Diolch. Rwy’n meddwl, pan oedd y portffolio hwn gennych ddiwethaf, mai gennyf i oedd portffolio’r wrthblaid, ac rwy'n dal i fod y llefarydd ar ran fy mhlaid ar y mater hwn. A gaf i ddechrau drwy roi clod i bobl nad ydynt yma: Jocelyn Davies, a arweiniodd ar hyn dros Blaid Cymru yn y Cynulliad diwethaf, a Peter Black, dros y Democratiaid Rhyddfrydol, a weithiodd gyda mi i gryfhau'r Bil...
Mark Isherwood: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(5)0008(CC)
Mark Isherwood: Diolch. Dyna’r tro cyntaf i mi gael fy nisgrifio fel cwestiwn, ond rwy’n hapus iawn i gael fy nisgrifio gan berson mor huawdl â chi. Cynlluniodd y Comisiwn Ewropeaidd i ddyrannu cronfeydd strwythurol ar gyfer y cyfnod 2014-20 i Gymru, gan gynnwys toriad o 27 y cant, sy’n dangos diffyg gwybodaeth am Gymru. Dyrannodd Llywodraeth y DU rywfaint o’r cyllid o Loegr i ailgydbwyso rhywfaint...