Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n eich llongyfarch ar eich ailethol, ac yn dymuno'r gorau i chi. Prif Weinidog, rwy'n dymuno'r gorau i chithau hefyd ar eich ailethol yn Brif Weinidog. Prif Weinidog, ym mis Mawrth, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer metro bae Abertawe a gorllewin Cymru. Un o fanteision arfaethedig metro bae Abertawe yw manteisio i'r eithaf ar y potensial i...
Altaf Hussain: Sut mae strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru i ddarparu swyddi sy'n talu'n well wedi newid yn sgil y pandemig?
Altaf Hussain: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn triniaeth yn y GIG?
Altaf Hussain: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn ystod y pandemig? OQ56588
Altaf Hussain: Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod ffigurau ynglŷn â marwolaethau yn ymwneud ag alcohol yn benodol ddim ond yn cynnwys y rhai hynny lle mae pob marwolaeth o ganlyniad uniongyrchol i gamddefnyddio alcohol—hynny yw, achosion y gellir eu priodoli yn llwyr i alcohol, er enghraifft clefyd alcoholig yr afu. Systemau sgrinio ac atgyfeirio mewn ysbytai cyffredinol a mynediad di-dor at...
Altaf Hussain: Yr wythnos diwethaf, datgelodd BBC Cymru ddiwylliant o fwlio ymhlith staff y GIG. Dywedodd datganiad Llywodraeth Cymru, 'Mae unrhyw fath o wahaniaethu, bwlio ac aflonyddu o fewn y GIG yn gwbl annerbyniol ac rydym ni'n cymryd y materion hyn o ddifrif.' A wnaiff y Gweinidog busnes drefnu dadl i'r Senedd archwilio sut y caiff y materion hyn eu cymryd o ddifrif a pha fesurau y mae angen eu rhoi...
Altaf Hussain: Daw'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru i ben ar 15 Gorffennaf, gan fod y Senedd ar fin dechrau'r toriad. Mae hwn yn amlwg yn ddarn pwysig o waith, felly a wnaiff y Gweinidog drefnu datganiad llafar gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer yr wythnos gyntaf yn ôl yn nhymor yr hydref?
Altaf Hussain: Rwy'n croesawu'r datganiad. Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod inni am y protocol ar gyfer pobl a gafodd eu brechiad AstraZeneca cyntaf gan ddatblygu cymhlethdodau fel thrombosis nad ydyn nhw ar y rhestr i gael ail frechiad AstraZeneca? A ddylen nhw gael pigiad atgyfnerthu gan ddefnyddio Pfizer? Os felly, pryd? Diolch.
Altaf Hussain: 2. A wnaiff y Gweinidog nodi ymagwedd Llywodraeth Cymru at bolisi cynllunio yng Nghymru? OQ56589
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Llongyfarchiadau ar gael eich ailethol, Weinidog, ac ar eich penodiad.
Altaf Hussain: Diolch. Weinidog, am ormod o ddegawdau, roedd ein system gynllunio’n seiliedig ar y syniad o adeiladu cymaint o gartrefi â phosibl i bobl eu meddiannu'n unig, ond heb ystyried yr hyn y byddai ei angen ar bobl i fyw yn llawn. Nod 'Polisi Cynllunio Cymru 10' yw sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn gwella bywydau cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, tra bo’r cysyniad o greu lleoedd yn...
Altaf Hussain: Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae gennyf ddau awgrym. Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn traddodi araith ar 5 Gorffennaf i amlinellu cynlluniau ar gyfer sgwrs genedlaethol ar ein dyfodol cyfansoddiadol. A wnaiff y Gweinidog busnes drefnu datganiad yn y fan hon, cyn ei araith, er mwyn iddo allu rhannu ei gynlluniau gyda ni yn gyntaf?...
Altaf Hussain: Diolch, Dirprwy Lywydd, diolch Gweinidog. Nid yw hiliaeth yn hawdd ei gweld, ei deall na'i chollfarnu. Pe na bai hynny'n wir, byddai'r dasg o adnabod gwrth-hiliaeth yn syml. Mae pobl yn teimlo nad yw rhywbeth yn hiliol os nad yw ymosodiad hiliol wedi digwydd, neu os nad yw'r gair 'N' neu 'P' wedi'u defnyddio. Credwn na all pobl dda fod yn hiliol, credwn mai dim ond yng nghalonnau pobl ddrwg y...
Altaf Hussain: Dirprwy Weinidog, pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith economaidd peidio â bwrw ymlaen â chynlluniau a gynigiwyd eisoes ar gyfer adeiladu, y gadwyn gyflenwi a manteision economaidd lleol? Pa ddatblygiadau sy'n dibynnu ar ffyrdd, cyffyrdd neu bontydd newydd fydd yn cael eu hatal yn awr o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn, yn arbennig, yr effaith ar y ganolfan ganser newydd...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio sicrhau £5 miliwn o'i gronfeydd wrth gefn ar gyfer yr ardal leol, wrth inni ddod allan o'r pandemig. Rydym ni i gyd yn gwybod bod cynghorau ledled Cymru wedi dangos arweiniad ac arloesedd lleol yn ystod y pandemig, ac, wrth inni ddod allan ohono nawr, a fyddai'r Gweinidog yn trefnu datganiad i'r Senedd archwilio sut y byddai modd...
Altaf Hussain: Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yma a dweud cymaint yr ydym yn croesawu'r camau y mae hi wedi eu cymryd i gefnogi'r gymuned LHDTC+. Mae angen i ni wneud mwy i sicrhau nad dim ond lle diogel i fyw ynddo yw Cymru, ond lle yr ydym yn dathlu amrywiaeth o bob math, felly rwy'n croesawu'r cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw, yn enwedig ar...
Altaf Hussain: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo cydraddoldeb o fewn gweithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OQ56675
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn. Weinidog, fel un o nifer fach iawn o'r Aelodau o'r Senedd hon o'r gymuned ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yn y gweithle hwn, oherwydd eu hethnigrwydd, eu rhywedd a'u cyfeiriadedd rhywiol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymdeithas Feddygol Prydain siarter i ysgolion meddygol er mwyn atal a mynd i'r afael ag...
Altaf Hussain: Weinidog, nid yw profi mai ni yw pwy a ddywedwn ydym ni mor anarferol â hynny, boed er mwyn profi ein hoedran i brynu diod neu dân gwyllt o siop, neu brawf i agor cyfrif banc, neu drwydded yrru i logi car, mae'n rhan o fywyd modern ac yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn gyfarwydd â'i wneud. Os yw'n ddigon da ar gyfer y gweithgareddau hynny, pam ddim ar gyfer rhywbeth mor bwysig â...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae llawer o bobl yn aros nid yn unig am driniaeth ond am apwyntiad gyda chlinigydd i asesu difrifoldeb eu cyflwr. Wrth gyflwyno rhaglen frechu COVID, daethpwyd a llawer o glinigwyr a oedd wedi ymddeol i mewn i ychwanegu capasiti pellach yr oedd wir ei angen i helpu i frechu pobl. A yw'r Llywodraeth wedi ystyried pa un a ellid dod â chlinigwyr sydd wedi ymddeol i mewn dros dro...