Carwyn Jones: Carwyn Jones. [Chwerthin.]
Carwyn Jones: Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau gyda gair o longyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu hethol i’r Cynulliad hwn, ac, wrth gwrs, drwy eich llongyfarch chi ar eich etholiad fel Llywydd, sy’n swydd newydd, wrth gwrs? Rwy’n credu ei bod hi’n iawn i ddweud eich bod wedi cael bedydd tân, ond rydych chi’n barod wedi dangos bod gyda chi’r llonyddwch a hefyd y rheolaeth sydd eu heisiau ar...
Carwyn Jones: Diolch am y cwestiwn. A gaf i, wrth gwrs, groesawu yr Aelod, a phob Aelod sydd yn mynd i wneud eu cyfraniadau cyntaf heddiw? Fel rhan o’r cytundeb i symud Cymru ymlaen, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, byddwn yn canolbwyntio ein ffocws ar gynyddu niferoedd y meddygon teulu a gweithwyr iechyd yn y sector gofal sylfaenol yng Nghymru.
Carwyn Jones: Mae hwn yn rhywbeth i’w ystyried, wrth gwrs, ac rwy’n edrych ymlaen i weithio o dan dermau’r cytundeb, er mwyn sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen i sicrhau bod mwy o weithwyr yn y sector gofal a hefyd weithwyr iechyd, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Mae’n bwysig dros ben nad ydym ni’n canolbwyntio ddim ond ar ddoctoriaid, pwysig ag y maen nhw, ond yn ystyried ffyrdd i helpu pob...
Carwyn Jones: Gwnaf yn wir, a gwn y bydd y Gweinidog newydd yn ystyried hyn fel mater o frys yn rhan o'i bortffolio i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. Rydym yn gwybod bod hyfforddi mwy o weithwyr proffesiynol o bob math yn y sector iechyd yn bwysig, ond hefyd eu recriwtio, gan nad yw eu hyfforddi o reidrwydd yn golygu eu bod yn aros yng Nghymru neu yn y DU yn wir. Ac, fel y mae’r Aelod yn...
Carwyn Jones: Mae peidio â chael streic meddygon iau yn ddechrau da, rwy’n credu, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym yn bwriadu ei wneud. Ond bydd yn gwybod, wrth gwrs, bod menter gydweithredol y canolbarth yn edrych yn ofalus iawn ar hyn—ar y ddarpariaeth o wasanaeth iechyd—nid yn unig yn ei ardal ef, ond mewn ardaloedd eraill ar draws canol ein gwlad, ac mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo'n dda...
Carwyn Jones: Rwy’n credu bod hynny’n synhwyrol. Wrth gwrs, pan fydd yna newid mewn gwasanaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae pobl yn pryderu weithiau o achos y ffaith, efallai, bod nhw’n ffaelu teithio’n rhwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae’n bwysig dros ben bod y byrddau iechyd ac, wrth gwrs, practisys unigol yn sicrhau eu bod nhw’n gallu darparu a gweithredu systemau trafnidiaeth...
Carwyn Jones: Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi ein buddsoddiad ar gyfer seilwaith trafnidiaeth hyd at 2020.
Carwyn Jones: Rwy'n gyfarwydd â'r darn hwn o ffordd, wrth gwrs, ac mae'n ddarn o ffordd prysur. Mater i Gyngor Bro Morgannwg ei ystyried yw hwn. Ni fyddai'n gefnffordd; byddai'n ffordd sy’n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol, ond, wrth gwrs, byddem yn hapus i archwilio unrhyw gynigion yr hoffent eu cyflwyno.
Carwyn Jones: Wel, dyma’r sefyllfa: bydd y cyfleuster benthyca ar gael yn gyffredinol ond mae’n bosibl ei gael yn gynnar ar gyfer yr M4. Wrth gwrs, ni fyddem yn cytuno i sefyllfa lle byddem yn gweld sefyllfa barhaol lle byddai amodau’n gysylltiedig ag unrhyw bwerau benthyca a fyddai'n cael eu harfer, ond dyna'r sefyllfa bresennol—ar gyfer yr M4 yn unig y ceir defnyddio’r arian.
Carwyn Jones: Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig cael ymchwiliad cyhoeddus. Heb ragfarnu’r mater, dyna’n sicr yw fy marn i. Rwy’n meddwl bod angen i’r ymchwiliad cyhoeddus fod mor eang â phosibl. Mae angen iddo fod yn ymchwiliad cyhoeddus lleol, ac rwy’n credu y byddai angen i’r ymchwiliad ystyried amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys cynigion amgen. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig fel y...
Carwyn Jones: Yn sicr, a dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni’r cynigion ar gyfer y metro. Rydym ni’n gwybod na all ffyrdd fod yn ateb i bopeth; mae'n rhaid iddyn nhw redeg ochr yn ochr â gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna y bwriedir i’r metro yn y de-ddwyrain ei gyflawni. Mae'n fodel yr ydym yn bwriadu ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o Gymru, fel y gogledd-ddwyrain, yn y...
Carwyn Jones: A gaf i’n gyntaf gydymdeimlo â theulu Annie? Mae'n gyfnod anodd iawn iddyn nhw, rwy'n gwybod. Gallaf, gallaf gadarnhau, wrth gwrs, o dan delerau'r compact a gytunwyd rhwng ein pleidiau, mai ein bwriad, wrth gwrs—. Wel, byddwn yn cyflwyno cronfa triniaethau newydd, ond, yn ogystal â hynny, byddwn yn ystyried a oes ffordd well o ymdrin â cheisiadau cyllido cleifion unigol ac wrth gwrs...
Carwyn Jones: Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid fy mod i wedi cwrdd ag Irfon a Rebecca Williams. Cefais gyfarfod â nhw yng Nghyffordd Llandudno yn wir, yn y swyddfeydd yno. Roedd yn gyfarfod defnyddiol iawn. Roedd materion a godwyd ganddynt nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt ac maen nhw wedi fy helpu i geisio penderfynu sut y dylid llunio polisi yn y dyfodol. Hefyd, cyn yr etholiad,...
Carwyn Jones: Wel, yn sicr, mae angen archwilio’r system bresennol o ran a ddylid cael panel cenedlaethol neu baneli lleol ar gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol—rydym ni’n agored i hynny—ac, wrth gwrs, y defnydd o'r gair 'eithriadoldeb '. Mae'n rhaid cael rhywbeth, neu fel arall byddai anawsterau o ran penderfynu sut y byddai cyffuriau’n cael eu neilltuo, ond, heb ragfarnu unrhyw beth,...
Carwyn Jones: Gallaf.
Carwyn Jones: Wel, rwy'n hyderus y bydd yr ymchwiliad yn dod i ben erbyn rhan olaf y flwyddyn nesaf. Ni allwn ragfarnu’r hyn y bydd yr ymchwiliad yn ei ddweud. Rwy’n derbyn y bu llawer o ddadlau yn y Siambr hon a'r tu allan am y llwybr du yn erbyn y llwybr glas, neu lwybr arall efallai. Rydych chi wedi fy nghlywed i’n dweud bod y llwybr glas yn peri problemau mawr o ran y ffaith mai ffordd ddeuol...
Carwyn Jones: Na, rwy’n credu y bydd yr etholiadau hynny’n cael eu cynnal. Ni allaf ragweld sefyllfa lle na fyddent. Felly, i ateb ei gwestiwn, byddant, mi fyddant yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. O ran ad-drefnu llywodraeth leol, mae'n amlwg i mi na fyddai'r map yn ennill cefnogaeth yn y Siambr hon, ond rwyf yn gwybod, yn y Siambr hon, bod cefnogaeth i ad-drefnu llywodraeth leol. Felly, mae'n...
Carwyn Jones: Gwnaf, mi wnaf, a bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn gwybod mai Llywodraeth y DU, yn anffodus, a wrthwynebodd codi’r tariffau hynny. Nid yr UE oedd yn ei wrthwynebu; roedd yn safbwynt a fabwysiadwyd ar y pryd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi rhoi esboniad am hynny, ond, rwy’n meddwl, yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd ar draws y byd, bod angen i ni weld tegwch i’n cynhyrchwyr dur ein hunain.
Carwyn Jones: Yr anhawster, wrth gwrs, â'r ddadl y mae’n ei gwneud yw, pe byddai’r UE yn codi tariffau yn erbyn dur a'r DU yn gadael yr UE, byddai'r tariffau hynny’n berthnasol ar gyfer dur y DU. Felly, byddem yn canfod ein hunain yn wynebu rhwystr tariff enfawr wedyn pe byddem yn dymuno allforio i mewn i'r UE, ac mae 30 y cant o'r dur a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei allforio.