Rhun ap Iorwerth: Rydw i’n enwebu Leanne Wood fel Prif Weinidog Cymru.
Rhun ap Iorwerth: Leanne Wood.
Rhun ap Iorwerth: Lywydd, gyda’ch caniatâd, wythnos yn ôl, mi enwebais i arweinydd Plaid Cymru ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru. Heddiw, ar ran y prif wrthblaid, ac ar ôl llwyddo i ddangos i’r blaid fwyaf yma yn y Cynulliad Cenedlaethol nad oes ganddyn nhw fwyafrif, a bod angen adlewyrchu ar hynny, rydw i yn tynnu enwebiad Leanne Wood yn ôl.
Rhun ap Iorwerth: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnbwn Llywodraeth Cymru i ddatblygiad Wylfa Newydd? OAQ(5)0013(FM) [W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Mae cyfnod y pumed Cynulliad yn mynd i fod yn gyfnod allweddol iawn, wrth gwrs, o ran datblygiad Wylfa Newydd. Nid Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu pa un ai a fydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen, er bod popeth yn edrych fel petai’n symud i’r cyfeiriad hwnnw ar hyn o bryd, ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig iawn, iawn i’w chwarae o ran sicrhau bod y datblygiad yn dod...
Rhun ap Iorwerth: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waddol Pencampwriaethau Pêl-droed Ewropeaidd 2016 i Gymru? OAQ(5)0037(FM)[W]
Rhun ap Iorwerth: Mi wnaf i ategu’r geiriau yna gan y Prif Weinidog wrth i ni droi at fater Ewropeaidd yr ydym ni i gyd yma yn y Siambr yn gallu cytuno arno fo. Rwy’n gwybod ein bod ni i gyd yma yn dymuno’n dda iawn i’r tîm cenedlaethol. Mi fyddech chi’n ei gweld hi’n od iawn pe na bawn i’n cyfeirio at y cyfraniadau arbennig gan y rhai o Ynys Môn i’r tîm cenedlaethol, ac rwy’n falch iawn o...
Rhun ap Iorwerth: Ymhlith blaenoriaethau Plaid Cymru yn y Cynulliad yma bydd gwthio am fesurau gwirioneddol i daclo recriwtio o fewn y gwasanaeth iechyd, fel sy’n cael ei adlewyrchu, wrth gwrs, yn y cytundeb ar ôl yr etholiad. Ond a wnaiff y Prif Weinidog gydnabod, ynghyd â mi, yn y cyfamser, y cyfraniad sy’n cael ei wneud gan weithwyr iechyd proffesiynol o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd i ddelio...
Rhun ap Iorwerth: Yn ogystal â defnyddio’r cyfle cyntaf hwn yn y Senedd i longyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei benodiad a diolch iddo, wrth gwrs, am y datganiad yma, a gaf i longyfarch pob un sydd wedi’i gwneud hi’n bosibl inni gyrraedd y pwynt yma o ran rhoi organau yng Nghymru? Mi glywn ni, rwy’n gwybod, gan fy nghyd-Aelod i, Dr Dai Lloyd, yn y man. Rwy’n gwybod fod ganddo fo ychydig o...
Rhun ap Iorwerth: 8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ddatblygiad croesiad y Fenai? OAQ(5)0006(EI)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Mae’r Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn gwthio yn gyson am fuddsoddiad mewn trydydd croesiad neu ddeuoli y Britannia, yn dibynnu pa ffordd rydych chi eisiau ei weld o. Mi oeddwn i’n ddiolchgar iawn o weld y Llywodraeth yn cytuno i fwrw ymlaen â’r astudiaeth fusnes yn ddiweddar ac rwy’n siŵr y bydd y cynlluniau yn dod rhagddyn nhw yn fuan. Rŵan, heddiw...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Ddwy flynedd yn ôl, mi wnaeth Plaid Cymru dynnu sylw at amseroedd aros brawychus ar gyfer sganiau MRI yng Nghymru o’u cymharu efo Lloegr a’r Alban. Roedd dros 40 y cant o gleifion bryd hynny yn aros dros chwech wythnos yma, o’u cymharu efo 1 y cant yn Lloegr a 2 y cant yn yr Alban. Rŵan, yn dilyn hynny a chryn sylw yn y wasg ar y pryd, mi wnaethoch chi ymdrech i...
Rhun ap Iorwerth: Beth mae’r gwelliant, wrth gwrs, yn ei ddangos yw bod ymdrechu yn talu, ac na ddylen ni fyth dderbyn rywsut fod cyfyngiadau cyllidol, neu gynnydd mewn galw, yn arwain yn anochel at amseroedd aros hirach. Fel y dywedais i, fe gafodd sganiau MRI dipyn o sylw yn y wasg gwpwl o flynyddoedd yn ôl. Mae profion diagnostig eraill sydd ddim mor ddeniadol mewn penawdau, efallai, lle mae problemau...
Rhun ap Iorwerth: Ond mae yna gamau arloesol y gellid eu cymryd wrth gwrs. Wythnos diwethaf, mi wnaeth sefydliad Cancer Research gyhoeddi adroddiad ar y camau nesaf y maen nhw’n dymuno eu gweld yn cael eu cymryd ar gyfer strategaeth canser i Gymru. Maen nhw’n gofyn am gyflwyno targed pendant 28 diwrnod fel ein bod ni’n gallu gwella cyfraddau goroesi a, drwy hynny, maen nhw’n ychwanegu at y corws o...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: A ydych yn mynd i sôn am Gymru o gwbl yn ystod eich araith, neu a ydych chi’n bradychu’r ffaith nad ydych ond yn defnyddio Cymru fel cerbyd i wthio eich agenda eich hun?
Rhun ap Iorwerth: Nid yw’n anarferol i feddyg teulu fethu â sylwi ar symptomau o ganser ar yr ymweliad cyntaf. Ond, os yw diagnosis yn dod yn y pen draw yn dilyn ail neu drydydd ymweliad, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylai’r cloc ddechrau tician, o ran pa bryd y dylai’r driniaeth ddigwydd, o bryd yr oedd yr ymweliad cyntaf, achos triniaeth gyflym i’r claf sydd bwysicaf, nid taro targedau’r...
Rhun ap Iorwerth: Dim ond ychydig o eiriau gen i a chwestiwn, y ddau fel un a fu’n gyflogai i’r BBC am 20 mlynedd, a hynny i atgoffa am yr hyn y dylai’n darlledwyr ni fod yn ei gynnig i wylwyr yng Nghymru. Mae S4C, wrth gwrs, yn gwneud dwy job o waith, mewn ffordd. Un, mae’n darlledu yn y Gymraeg i gynulleidfa sydd eisiau rhaglenni yn y Gymraeg. Ond, drwy wneud hynny, mae’n darlledu am Gymru i bobl...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad. Mae hwn yn arolwg pwysig iawn. Rwy’n gwerthfawrogi, wrth gwrs, mai dim ond penawdau rydym ni’n eu trafod heddiw ac rwy’n edrych ymlaen am ddadansoddiad mwy cyflawn maes o law. Mae yna arwyddion cadarnhaol yma ar y ganran sy’n ysmygu, er enghraifft efo gostyngiad yn parhau ond, wrth gwrs, efo llawer iawn o ffordd i fynd....
Rhun ap Iorwerth: 7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynllun datblygu gwledig? OAQ(5)0012(ERA)[W]