Jeremy Miles: Carwyn Jones.
Jeremy Miles: Mae’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar hwyluso gweld meddygon teulu i’w groesawu. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylid annog practisys gofal cynradd i gydweithio gyda darparwyr trafnidiaeth lleol i’w hybu ymhellach fyth, yn enwedig mewn ardaloedd pellach allan?
Jeremy Miles: A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddymuno’n dda i ganolfan iaith Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe yn fy etholaeth i, sydd newydd lansio gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru? A yw’n cytuno bod rôl sylfaenol i ganolfannau iaith i ddatblygu’r galw yn ein cymunedau am wasanaethau cyhoeddus a busnes wedi’u darparu trwy’r Gymraeg?
Jeremy Miles: Diolchaf i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Croesawodd y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad gasgliadau ac argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, dan gadeiryddiaeth Andrew Davies. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad yn amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd yn y pumed Cynulliad i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny?
Jeremy Miles: A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad—datganiad mor gadarnhaol? Cyfeiriodd at y 30,000 o swyddi posibl yn y sector hwn. Fel y gŵyr hi efallai, mae Castell-nedd Port Talbot, yn fy ardal i, wedi sicrhau'r ail nifer uchaf o swyddi mewn ailbrosesu dan raglen ARID WRAP Cymru a ariennir gan yr UE, sy'n tynnu sylw at realiti ymarferol y potensial i greu swyddi yma. Pa asesiad y mae...
Jeremy Miles: Diolch, Weinidog, am y datganiad. Gan ddychwelyd at gwestiwn yr ardoll brentisiaeth am eiliad, cyfeiriasoch ato fel treth cyflogwr yn eich datganiad. A oes unrhyw ddadansoddiad o'r risg bosibl i swyddi yng Nghymru a achosir gan yr ardoll hon ar gyflogwyr, gan gofio mai pwynt prentisiaeth, wrth gwrs, yw cael pobl i mewn i swyddi sgiliau uchel, am gyflog gweddus?
Jeremy Miles: Ymhlith y cwestiynau yn y Mesur hwn a fydd yn teimlo yn bell o fywyd pob dydd yw’r cwestiwn o awdurdodaeth. I lawer, bydd yn teimlo fel pryder i gyfreithwyr ac academyddion yn unig, ond mae agweddau ymarferol iddo y dylid mynd i’r afael â nhw yn y Mesur hwn os ydym o ddifri am gryfhau cynseiliau datganoli i ddelio â’r cynnydd yn y pwerau a ddaw i’r Siambr hon. In the debate over the...
Jeremy Miles: Diolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Mae llwyddiant Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno band eang cyflym iawn drwy Cyflymu Cymru i'w groesawu fel buddsoddiad allweddol mewn seilwaith modern hanfodol. Fodd bynnag, er gwaethaf lefelau uchel iawn y ddarpariaeth, mae manteision band eang cyflym iawn yn ddeuaidd, os mynnwch chi —naill ai y mae gennych neu ddim. Felly, a wnaiff y Gweinidog...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. Diolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Mae'n sector mor bwysig i ni yng Nghymru, felly mae'n wych clywed am y twf cyflym yn y sector. I'r rhai hynny ohonom sy'n mwynhau bwyd, mae’r dadeni cynhyrchu bwyd lleol yng Nghymru yn fater o lawenydd mawr, hyd yn oed os yw'n arwain at dwf cyflym o fath sydd ychydig yn llai derbyniol efallai. [Chwerthin.] Rydych chi wedi siarad...
Jeremy Miles: Rwyf ychydig yn betrusgar wrth godi i siarad ynghylch integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, o ystyried y cyfraniad enfawr a wnaed yn y maes polisi penodol hwn yng Nghymru gan fy rhagflaenydd, Gwenda Thomas, yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, ac yn enwedig mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, manteisiaf ar y cyfle hwn i dalu teyrnged iddi am...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd, am y cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig hon. The result of the referendum last week was a profound disappointment. The fact that Wales should choose to reject the relationship that has been so clearly in its interests is a challenge to all of us in this place, and we must respond tangibly, and not with easy rhetoric. The loss to Wales of hundreds of millions of pounds of...
Jeremy Miles: Diolch am yr ymyriad hwnnw. Rwy’n derbyn y pwynt y bu sylwadau di-fudd iawn mewn rhywfaint o'r wasg ar ymateb ein cymunedau. Nid wyf yn derbyn y pwynt arall a godwyd gennych, ond rwy’n derbyn pwynt hwnnw, yn sicr. Mewn gwirionedd, gwnaed addewidion yn ystod yr ymgyrch hon, ac maen nhw wedi cael eu crybwyll eto heddiw ar sawl achlysur, ac yn fy marn i, yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru...
Jeremy Miles: Rwy’n enwebu Lee Waters.
Jeremy Miles: A gaf i groesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, a’r sylwadau yn benodol ynglŷn â’r fframwaith gyllidol, a’r ymroddiad y bydd gan y Senedd hon gyfle i drafod a chytuno ai peidio y fframwaith maes o law? O edrych ar y cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth yr Alban, mae’n amlwg ei fod e’n ffrwyth llafur sylweddol iawn, ac rwy’n falch o glywed eich bod chi...
Jeremy Miles: A gaf i yn gyntaf ganmol y Llywodraeth ar ei dull o weithredu’r cynllun cyflawni, ac yn benodol yr ymgynghoriad ffurfiol helaeth a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau? Fel y soniodd llawer o bobl heddiw, un o'r cyfraniadau mwyaf sylweddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl oedd hynt Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac, yn benodol, rwyf am gyfeirio at rwyddineb...
Jeremy Miles: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu manteision morlyn llanw Bae Abertawe i Gastell-nedd?
Jeremy Miles: 1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Cymru Greadigol? OAQ(5)0035(EI)
Jeremy Miles: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r diwydiannau creadigol yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn economi Cymru ac mae wedi gweld cynnydd aruthrol mewn cyflogaeth. A wnaiff nodi a yw’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn debygol o effeithio ar ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’w chronfa fuddsoddi yn y cyfryngau a chymhellion cynhyrchu eraill, ac...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i gloi’r ddadl gyfoethog a phwysig hon, fel y dywedodd y Gweinidog. Rhan o’r rheswm pam y mae mor bwysig, fel yr amlinellodd Bethan Jenkins yn ei sylwadau agoriadol, yw’r gwerth a roddwn ar y BBC fel ased, ased cenedlaethol, i ni yma yng Nghymru ac ar draws y DU yn gyffredinol. Cyfeiriodd Jenny Rathbone at gryfder brand y BBC, a chredaf fod hynny’n...
Jeremy Miles: Rwyf am ddefnyddio’r funud sydd gennyf, rwy’n meddwl, i dynnu sylw’r Siambr at werthusiad o ddatblygiadau tai cydweithredol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth. Edrychai’n benodol ar y cyfnodau datblygu cynnar ym maes tai cydweithredol, gan adleisio beth y mae Mike wedi’i ddweud, a byddaf yn defnyddio fy amser i barhau i ddadlau dros dai cydweithredol. Mae hefyd yn edrych...