Mandy Jones: Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda.
Mandy Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n edmygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar Barc Gwyddoniaeth Menai, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cyfleuster gwych hwn ar agor ac yn weithredol cyn gynted â phosibl. Nawr, rwy'n cofio'r canolfannau technium a sefydlwyd gan y Cynulliad cyn y diwethaf, ond ni ddenodd y busnes. A allwch roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd y cyfleuster gwych hwn yn denu'r busnes, y...
Mandy Jones: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am les anifeiliaid yng Nghymru? OAQ51554
Mandy Jones: Diolch i chi am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae RSPCA Cymru yn credu y byddai cofrestr cam-drin anifeiliaid yn gweithredu fel rhwystr i unigolion a allai fod wedi cyflawni gweithredoedd o greulondeb fel arall, a gallai helpu hefyd i atal dioddefaint i anifeiliaid eraill dan law troseddwyr cyson. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cofrestr cam-drin anifeiliaid?
Mandy Jones: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hyn os gwelwch yn dda?
Mandy Jones: O'r hyn rwy'n ei gasglu, rydym yn sôn am y cyffur Sativex, ac rwy'n ei gefnogi'n llwyr. Rwy'n cytuno â chi ar hyn. Pan ydych yn sôn am—mae hwn yn ymyriad dieithr i mi; rwy'n newydd, iawn. Pan ydych yn sôn am ysmygu canabis, nid yw'n fater o ysmygu canabis fel pe baech yn ysmygu sigarét.
Mandy Jones: Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf. Ceir cyffuriau eraill sy'n seiliedig ar ganabis, fel olew canabis a'r holl ganabinoidau hynny ac—.
Mandy Jones: Diolch yn fawr i chi. Nid ag ysmygu'n unig y mae'n ymwneud.
Mandy Jones: 6. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51616
Mandy Jones: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad ynghylch cyflymderau band eang cyflym iawn ar draws rhanbarth Gogledd Cymru?
Mandy Jones: Diolch, Gomisiynydd. Gomisiynydd, cefais fy nyfynnu yn y wasg pan ddychwelais fel Aelod Cynulliad yn dweud bod pobl yng ngogledd Cymru yn credu'n gyffredinol na ddylai Cynulliad Cymru fodoli. [Torri ar draws.] Peidiwch â chynhyrfu. Mynegir y farn hon gan lawer o etholwyr ar sawl llwybr ymgyrchu. A minnau yma bellach, gallaf weld effaith y Cynulliad ar fywydau pobl sy'n byw yn fy rhanbarth...
Mandy Jones: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drin cyflyrau cronig yng Ngogledd Cymru? OAQ51648
Mandy Jones: Diolch. Prif Weinidog, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau cymunedol ar gyfer cyflyrau cronig yn dal i fod ar gael ar ddiwrnodau gwaith yn unig, ac mae angen cydgysylltu'n well gwaith y gwahanol grwpiau a thimau staff sy'n gofalu am gleifion â chyflyrau cronig. Pa ymdrech y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn?
Mandy Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu ysgolion yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ51751
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, dim ond 5 y cant o gig oen Cymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu cig oen Cymru yng Nghymru a'r DU yn ehangach?
Mandy Jones: A gaf fi ymyrryd, os gwelwch yn dda? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng undeb tollau a'r ardal masnach rydd?
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl yng Nghymru?
Mandy Jones: 13. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu economaidd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51847
Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, dros y penwythnos, tynnwyd sylw at y bwlch rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn y DU, a gorllewin Cymru oedd perthynas dlawd y DU. Rwyf wedi bod yn edrych ar ffyniant cymharol fy rhanbarth, ac rwyf wedi dod o hyd i fwlch mawr o tua £50 yr wythnos mewn enillion cyfartalog rhwng y rhai sy'n byw yno a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghanol...