Hannah Blythyn: Carwyn Jones.
Hannah Blythyn: Diolch. Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf, Brif Weinidog. Mae llawer o fy etholwyr mewn cymunedau ar draws Sir y Fflint yn pryderu’n ddealladwy am ddyfodol y safle yn Shotton ac yn ofni ei fod yn aml yn mynd ar goll yn yr holl benawdau. Mae gan Shotton ddau fusnes llwyddiannus, hyfyw a phroffidiol sydd wedi codi, bron fel ffenics o ludw’r diswyddiadau torfol yn y 1980au na welwyd eu...
Hannah Blythyn: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithredu cymorth gofal plant ar gyfer rhieni yng Nghymru sy'n gweithio? OAQ(5)0050(FM)
Hannah Blythyn: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwyf yn croesawu eich ymrwymiad i rieni sy'n gweithio. Gwn fod hwn yn fater pwysig i'm hetholwyr; mae wedi ei godi gyda mi dro ar ôl tro mewn gohebiaeth ac mewn sgyrsiau hefyd. Er ei bod yn wych ein bod yn cynnig y cymorth gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn y DU, mae'n bwysig ei fod yn gweithio'n dda ac yn cyd-fynd â bywydau rhieni sy'n gweithio heddiw. Pa...
Hannah Blythyn: Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn gwybod cystal â minnau, er mwyn i ogledd Cymru ffynnu yn economaidd, mae angen cysylltiadau trafnidiaeth cryf ac effeithiol ar draws y rhanbarth, ac ar draws y ffin gyda’n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr hefyd. Mae gwella cysylltiadau ffordd fel yr A55 a’r A494 yn hanfodol, ond mae angen cynllun trafnidiaeth ehangach arnom i gefnogi...
Hannah Blythyn: Diolch. Jo Cox AS—gweithredydd angerddol, a dyngarwraig ddiwyro, ymgyrchydd egnïol a ffeminist ymrwymedig, ffrind, merch, chwaer, gwraig, mam, ac yn falch o fod yr AS dros Batley a Spen, y gymuned yn Swydd Efrog lle y magwyd hi. Roedd Jo Cox yn un ohonom ni, ac rydym ni i gyd wedi cael ein hysgwyd, ein cynhyrfu a'n digaloni i'r carn gan lofruddiaeth Jo. Ond diwrnod i gofio'r cyfraniad...
Hannah Blythyn: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer o rannau o ogledd-ddwyrain Cymru wedi dioddef llifogydd sydyn ar ôl glaw trwm a pharhaus dros yr wythnosau diwethaf. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thrigolion a busnesau ym Magillt sydd wedi’u hanrheithio gan lifogydd, ac mae’n destun pryder fod hon yn ardal sydd eisoes wedi dioddef llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf. Pa...
Hannah Blythyn: 1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016? OAQ(5)0009(FLG)
Hannah Blythyn: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel undebwr llafur balch, rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddiddymu agweddau ar y darn niweidiol hwn o ddeddfwriaeth ideolegol na roddwyd ystyriaeth briodol iddi, deddfwriaeth sy’n achosi mwy, nid llai, o aflonyddwch diwydiannol. Gallai’r Ddeddf danseilio’r berthynas waith gynhyrchiol sydd gennym yn seiliedig ar bartneriaeth, perthynas...
Hannah Blythyn: Diolch i chi, a diolch i’r Aelod dros Islwyn am y cyfle hwn i siarad am y ganolfan ddysgu newydd wych sy’n cael ei hadeiladu yn Nhreffynnon, gwaith sy’n agosáu at ei gamau olaf, yn fy etholaeth i. Yn wir, roeddwn yn meddwl tybed a ddylwn ddatgan buddiant bach damweiniol am fod y safle’n bwysig iawn i mi gan mai dyna ble roedd hen Ysgol Ramadeg Treffynnon lle y cyfarfu fy rhieni yn y...
Hannah Blythyn: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â chwmnïau angor, fel Airbus, yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE? OAQ(5)0094(FM)
Hannah Blythyn: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel Aelod Cynulliad yn y gogledd-ddwyrain, mae llawer o’m hetholwyr yn cael eu cyflogi mewn gweithleoedd mawr fel Airbus. Mae’r bleidlais i adael yr UE wedi creu ansicrwydd i'r bobl hyn a'u teuluoedd yn ogystal â’r cannoedd a gyflogir drwy'r gadwyn gyflenwi sy'n ddibynnol ar y safle awyrofod hefyd. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i'r gweithlu a'u...
Hannah Blythyn: Byddai'n esgeulus imi beidio dechrau drwy groesawu'r gwaith y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud a'u hymrwymiad i wella iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl, boed hynny drwy gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau, cefnogaeth i ymgyrchoedd i roi diwedd ar stigma, neu’r Mesur iechyd meddwl. Ond, fel y soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, a dylai bob amser fod yn wir ym mhopeth a wnawn mewn...
Hannah Blythyn: Rwyf am ddechrau drwy nodi teitl diwygiedig y ddadl hon ac rwy’n croesawu’r sylweddoliad fod ein diwydiant dur yng Nghymru yn llawer mwy na dim ond un safle. Er fy mod yn cydnabod pwysigrwydd ein diwydiant sylfaen, nid yn unig i’n heconomi, ond i gymdeithas yn gyffredinol yng Nghymru, ni fydd yn syndod i’r Aelodau fy mod yn dymuno canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar Shotton. Ni...
Hannah Blythyn: Diolch, Lywydd—byddaf mor gryno ag y bo modd. Gan edrych ymlaen at fasnachfraint Cymru a'r gororau yn y dyfodol, mae angen i ni yn y gogledd fod wedi ein cysylltu’n well â’n prifddinas. Rwyf yn cydnabod ein bod wedi ein cyfyngu gan seilwaith a rhwydwaith a etifeddwyd, ond ni all fod yn iawn ei bod, o'r brif orsaf yn y Fflint yn fy etholaeth i, yn gynt mynd i Lundain nag ydyw i...
Hannah Blythyn: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno band eang yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Hannah Blythyn: Mae twristiaeth yn sector hanfodol yn natblygiad economaidd gogledd Cymru, a chyda hynny rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i greu coridor diwylliant yr A55 sy’n cysylltu atyniadau ar draws y rhanbarth. Roedd castell y Fflint yn sicr yn atyniad mawr dros y penwythnos diwethaf, wrth i ddraig ddisgyn ar feili allanol y castell gan ddenu ymwelwyr yn eu miloedd. Roedd yn wych gweld yn...
Hannah Blythyn: Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno bod rhoi mynediad cyflymach i gleifion at y gwasanaeth neu’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael eu trin cyn gynted â phosibl? Felly, pa gamau sy’n cael eu rhoi ar waith yng ngogledd Cymru i sicrhau bod gan gleifion y dewis i gael eu trin gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cywir, gan gefnogi...
Hannah Blythyn: Hoffwn gyfrannu’n fyr iawn at y ddadl gan Aelodau unigol heddiw, dadl sy’n cyflwyno nifer o faterion allweddol sy’n ymwneud â darlledu yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar un agwedd ar y cynnig fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ‘Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i’w chwarae o ran adlewyrchu bywydau, uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.’ Pan fyddwn yn sôn am adlewyrchu bywydau,...
Hannah Blythyn: Rwy’n falch o’r cyfle i siarad yn y ddadl hon ac rwyf am ddechrau drwy groesawu rhaglen goffa’r Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer Cymru a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol, gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r lluoedd arfog eu hunain. Rydym eisoes wedi gweld ac yn parhau i weld amrywiaeth o ddigwyddiadau coffa i nodi dechrau’r rhyfel a’r...