Elin Jones: Prynhawn da. Prynhawn da, bawb. Prynhawn da. Welcome to the National Assembly for Wales. A chroeso i gyfarfod cyntaf y pumed Cynulliad.
Elin Jones: Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw ethol Llywydd, o dan Reol Sefydlog 6. Felly, rwy’n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6. A oes gennym unrhyw enwebiadau? Ac mae'n rhaid i ni gael Aelod o blaid wleidyddol wahanol i eilio unrhyw enwebiad. Felly, eich enwebiadau os gwelwch yn dda.
Elin Jones: Mae'n ddrwg gennyf. Diolch i chi, Dai Lloyd—nid oeddwn yn eich gweld yn y fan honno. Elin Jones. A oes eilydd o blaid wleidyddol wahanol?
Elin Jones: Diolch i chi, Jane Hutt. A oes unrhyw enwebiadau eraill?
Elin Jones: Dafydd Elis-Thomas. A oes eilydd o blaid arall?
Elin Jones: A ydych chi’n siŵr?
Elin Jones: Iawn, diolch. Mae'n helpu os tynnwch eich clustffonau, wyddoch chi—nid ydych yn clywed eich hun. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Dim enwebiadau eraill ar gyfer y Llywydd. Gan fod gennym ddau enwebiad, hoffwn wahodd y ddau ymgeisydd i sefyll a dweud ychydig o eiriau amdanynt eu hunain, ac rwy’n gobeithio nad oes rhaid i mi arfer hawl y Llywydd i ddatgan bod eich amser ar ben y prynhawn...
Elin Jones: Diolch, Lywydd. Croeso, bawb, i’r Cynulliad—y rhai ohonoch chi sydd yn newydd-ddyfodiaid, a’r rhai ohonoch chi sydd yn dychwelyd. A gaf i ddweud fy mod i’n ei ffeindio hi’n anrhydedd fawr i gael fy nghynnig fel darpar Lywydd ac i roi fy enw ymlaen ger eich bron chi ar gyfer pleidlais? Mae rhai ohonoch chi yn fy adnabod i yn dda iawn, ac nid yw rhai ohonoch chi yn fy adnabod i o...
Elin Jones: Diolch. Galwaf yn awr ar Dafydd Elis-Thomas.
Elin Jones: Diolch yn fawr iawn. Gan fod gennym ddau ymgeisydd, fe gynhaliwn bleidlais gudd. Felly, gohiriwn y cyfarfod yn awr er mwyn caniatáu i’r bleidlais honno ddigwydd. Bydd yr Aelodau’n cael 30 munud i fwrw eu pleidlais. Bydd y pleidleisio’n digwydd yn ystafell briffio 13 ac mae tywyswyr wrth law i gyfeirio'r Aelodau at yr ystafell honno. Amlinellir canllawiau ar y weithdrefn hon yn y...
Elin Jones: Dyma ailddechrau trafodion y Cynulliad, ac mae canlyniad y bleidlais gudd fel a ganlyn. Pleidleisiodd pob un o'r 60 o Aelodau: Elin Jones, 34, Dafydd Elis-Thomas 25, ac 1 yn ymatal. Felly, rwy’n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Elin Jones wedi’i hethol yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwy’n ei gwahodd i gymryd y Gadair. [Cymeradwyaeth.]
Elin Jones: Rydych i gyd yn edrych yn wahanol iawn o fyny fan hyn. [Chwerthin.] It is an honour and a privilege to have been elected to this role and I thank the Assembly very much for your support. Before we proceed to the election of a Deputy Presiding Officer, I would like to place on record this Assembly’s thanks to the former Presiding Officer, Dame Rosemary Butler. She has been an excellent...
Elin Jones: Fe symudwn ni nawr at ethol y Dirprwy Lywydd. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, hoffwn atgoffa Aelodau mai dim ond os yw enwebiad o grŵp gwleidyddol gwahanol i fy un i ac o grŵp â rôl Weithredol y bydd enwebiadau ar gyfer Dirprwy Lywydd yn ddilys yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, gellir datgymhwyso’r rheol hon gyda chefnogaeth dwy ran o dair o’r Aelodau unwaith y bydd yr enwebiadau yn...
Elin Jones: A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio’r enwebiad yna?
Elin Jones: Diolch. A oes unrhyw enwebiadau eraill?
Elin Jones: A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio’r enwebiad yna?
Elin Jones: Diolch am hynny. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Gwelaf felly nad oes unrhyw enwebiad arall. Cynigiaf felly yn unol â Rheol Sefydlog 6.8—na. Dyna fy nghamgymeriad cyntaf. Os oes mwy nag un enwebiad—olréit. Felly, mae yna ddau enwebiad ar gyfer y swydd, ac fe gynhelir pleidlais gudd o dan Reol Sefydlog 6.8. Cyn hynny, byddaf nawr yn gwahodd yr ymgeiswyr a enwebwyd i annerch y Cynulliad,...
Elin Jones: Ac Ann Jones.
Elin Jones: Byddwn nawr felly yn gohirio’r cyfarfod er mwyn caniatáu i’r bleidlais gudd gael ei chynnal. Bydd yr Aelodau unwaith eto’n cael 30 munud i fwrw eu pleidlais, ac, unwaith eto, bydd y pleidleisio yn digwydd yn ystafell friffio 13. Rwyf felly yn gohirio y cyfarfod.
Elin Jones: Gynulliad, rwyf nawr mewn sefyllfa i adrodd ar ganlyniad y bleidlais gudd ar gyfer y Dirprwy Lywydd. Fe gafodd John Griffiths 29 pleidlais ac Ann Jones 30 pleidlais. Rwy’n datgan, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Ann Jones wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Unwaith eto, cyn symud ymlaen, rwy’n credu ei bod hi’n briodol ein bod ni’n cydnabod gwaith y...