David Melding: Leanne Wood.
David Melding: Brif Weinidog, mae arweinydd Rhondda Cynon Taf wedi dweud bod y model cytundeb dinas yn allweddol erbyn hyn i wella seilwaith trafnidiaeth a hybu adfywiad economaidd. A fydd eich Llywodraeth, yn y tymor i ddod, yn gweithio'n effeithiol gyda’r holl bartneriaid i sicrhau bod y model cytundeb dinas yn cael ei roi ar waith yn effeithiol?
David Melding: Brif Weinidog, rwyf yn gobeithio y caf gyflwyno dymuniadau da sydd ychydig yn llai pigog i chi a'ch Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod er budd pob un ohonom bod y Llywodraeth hon yn gweithio mor effeithiol â phosibl, ac edrychaf ymlaen at gefnogi llawer o'r hyn yr ydych yn ei wneud. Bydd nifer o wahaniaethau a byddaf yn egnïol iawn wrth fynd i’r afael â’r rheiny. A gaf i groesawu yn...
David Melding: Brif Weinidog, rwy’n gwybod bod gennych gysylltiad teuluol agos iawn â Gogledd Iwerddon a thybed, ar eich ymweliadau â Gogledd Iwerddon, a ydych wedi sylwi ar bolisi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gydgrynhoi cymaint o adeiladau gweinyddol, llywodraeth leol a chyfreithiol, ac adeiladau gwasanaethau cyhoeddus, ag y bo modd, fel y gallant gael canolfannau sy’n cynnal mynediad i’r...
David Melding: A gaf fi groesawu tôn y Prif Weinidog, a hefyd ei uchelgais i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni darn cynhwysfawr iawn o gyfraith gyfansoddiadol yn awr? Os aiff y Bil hwn ymlaen i’r llyfr statud, dyma fydd y bedwaredd Ddeddf Cymru mewn 20 mlynedd, ac rwy’n meddwl fy mod wedi dweud o’r blaen nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn newid eu ceir mor gyflym â hynny, felly nid yw cael...
David Melding: Brif Weinidog, efallai eich bod wedi gweld darllediad 'gadael' yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud y byddai cyfraniadau UE Prydain yn cael eu gwario ar y GIG pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd wedi clywed eu bod yn mynd i gael eu gwario ar warantu cymorth rhanbarthol i Gymru, maent hefyd yn gwarantu taliadau i ffermwyr, ac yn awr, o ryfeddod, o ryfeddod arian hud, mae'n...
David Melding: Ddirprwy Lywydd, a gaf i ychwanegu fy llongyfarchiadau ichi ar eich swydd? Nid wyf yn siŵr y byddech eisiau ailgylchu dim byd a wnaeth y dyn diwethaf, ond gwn y bydd gennych eich personoliaeth eich hun yn y swydd, ac rwyf yn gobeithio y byddwch yn anghofio'n fuan yr ambell achlysur pan fu inni wrthdaro pan oeddwn i’n eistedd yn y Gadair honno, yn enwedig os digwydd imi heclo braidd yn...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth o bob ochr i’r Cynulliad yn yr ymdrechion hyn? Oherwydd yr hyn y mae ynni’r llanw yn ei gynnig i ni yw cyfle i fod yn flaengar, arwain y byd yn y pen draw ar harneisio’r ffynhonnell bwerus hon o ynni, a’r beirianneg a’r sgiliau sydd eu hangen i’w ddatblygu. Ac yn arbennig, os na fwrir ymlaen â’r morlyn yn...
David Melding: Rwyf eisiau dweud ychydig eiriau am y farchnad sengl, gan fy mod yn credu ei bod yn gyflawniad Prydeinig hynod ac yn rhywbeth sy’n parhau i gynnig cyfleoedd gwych i Gymru, a hyd yn oed yn fwy wrth iddi ehangu mwy i gynnwys gwasanaethau, ar ôl bod yn seiliedig ar nwyddau i ddechrau. Clywsom lawer o sôn ynglŷn â sut y bydd pethau bron yr un fath rywsut pe baem yn gadael, ond y bydd gennym...
David Melding: Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Steffan Lewis ar araith hynod o glir? Rwy’n meddwl y bydd unrhyw un sy’n dyfynnu Robert Peel yn dod o hyd i rywfaint o gefnogaeth ar y meinciau hyn. Efallai fod yna gydymdeimlad â’r Torïaid yn llechu’n ddwfn yn eich enaid gwleidyddol. Dim ond awgrymu hynny rwyf fi, gyda llaw; rwy’n gobeithio nad yw’n lleihau’r awdurdod a...
David Melding: 12. Pa flaenoriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar bolisïau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal? OAQ(5)0003(CC)
David Melding: Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n dymuno’n dda i chi gyda’ch portffolio newydd. Rwy’n edrych ymlaen at eich cysgodi yn y maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus. Rwy’n ofni bod rhaid i mi gychwyn ar nodyn sur, yn anffodus. Rwyf wedi sylwi nad yw ansawdd aer wedi’i restru fel un o’ch cyfrifoldebau ar wefan swyddogol Llywodraeth Cymru—nid yw wedi cael ei restru’n...
David Melding: Rwy’n siŵr eich bod yr un mor bryderus â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â’r dystiolaeth wyddonol gynyddol sy’n dangos bod gronynnau diesel yn peri risg sylweddol iawn i iechyd y cyhoedd. Rydym wedi arfer sôn am beryglon ysmygu goddefol, er enghraifft, ond mae’n fwy na thebyg fod y gronynnau hyn yn creu perygl mwy difrifol i ystod eang o’r boblogaeth. Pa fesurau sy’n cael...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch o nodi hynny, ond a ydych yn credu, mewn ystyr fwy ymarferol, ei bod hi’n bryd i ni yng Nghymru, ac ym Mhrydain yn gyffredinol, wynebu rhai o ganlyniadau ymarferol cludo plant i’r ysgol, er enghraifft? Rwy’n credu ein bod yn perthyn i’r un genhedlaeth, ac yn fy amser i, y rhai a oedd yn sâl neu’n dueddol o gamymddwyn a gâi eu cludo i’r...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwella a chynnal a chadw cwlfertau yn allweddol i amddiffyn rhag llifogydd yn effeithiol, ac os oes unrhyw un yn ardaloedd cymoedd fel Cwm Cynon wedi gweld pa mor gyflym y gall y cyrsiau dŵr hynny symud, mae’n wirioneddol frawychus. Mae yna lawer y gallwn ei wneud i gynnal cwlfertau drwy ddefnyddio technoleg newydd a chamerâu. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n...
David Melding: A gaf fi ganmol ei ddatganiad cyffredinol: y dylai ein disgwyliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal fod yn debyg, os nad yn union yr un fath, â’r hyn ydynt ar gyfer gweddill y boblogaeth? Rwyf wedi bod yn y Cynulliad hwn bellach ers ychydig dros 17 mlynedd, ac rwyf wedi clywed Gweinidogion yn dweud dro ar ôl tro ein bod ar fin torri tir newydd mewn perthynas â phlant sy’n derbyn...
David Melding: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio? Rwy’n ofni bod yn rhaid i mi geisio’i helpu gan iddo gyfeirio at grŵp y Ceidwadwyr. Nid wyf yn siarad ar ei ran; rwy’n siarad fel unigolyn yn unig. Ond wrth siarad am fanteision yr Undeb Ewropeaidd, mae’r ochr sy’n ffafrio gadael yn dweud ei bod wedi ildio sofraniaeth hanfodol ac nad yw’n werth y pris, ond os ydym wedi ildio sofraniaeth...
David Melding: Brif Weinidog, y ffaith amdani yw mai economi Cymru yw'r mwyaf agored yn y DU i unrhyw ddirywiad posibl mewn masnach â'r UE neu ddirywiad i fewnfuddsoddiad sy’n ceisio mynediad at y farchnad sengl, ac mae’n rhaid dweud hynny wrth y rhai sydd nawr yn gyfrifol am y trafodaethau Brexit.
David Melding: Wel, mae’r hyn a ddigwyddodd ddydd Iau yn bwysig. Mae'n bwysig, gorff ac enaid, a bydd y goblygiadau yn ymestyn ar hyd y cenedlaethau. Mae'n bwysig yma, mae'n bwysig yn Ewrop, ac mae hefyd yn dweud llawer iawn am gyflwr democratiaethau’r Gorllewin. Roedd hefyd yn siarad am rywbeth penodol iawn, sef ein haelodaeth o'r UE, ond rwy’n meddwl bod yna wersi ehangach i bob un ohonom sydd yn...
David Melding: Rwyf yn enwebu Russell George.