Janet Finch-Saunders: Rwy’n eilio John Griffiths AC.
Janet Finch-Saunders: Leanne Wood.
Janet Finch-Saunders: Brif Weinidog, rydym ni’n croesawu eich ymrwymiad maniffesto eich hun o £80 miliwn ar gyfer cronfa driniaeth newydd. Mae hyn wrth gwrs yn dilyn galwad y Ceidwadwyr Cymreig ers blynyddoedd lawer am gronfa cyffuriau trin canser i roi terfyn ar yr anghydraddoldeb a'r loteri cod post sy'n bodoli yma yng Nghymru. A wnewch chi addo ar goedd yma heddiw, Brif Weinidog, na fyddwn yn gweld unrhyw...
Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol?
Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys?
Janet Finch-Saunders: Brif Weinidog, mae gwasanaethau rheoleiddio, wrth gwrs, yn wasanaeth pwysig iawn ac yn faes allweddol werthfawr o lywodraeth leol—iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, diogelwch bwyd, diogelu'r cyhoedd, darpariaethau tai rheoleiddiol, i enwi dim ond rhai. Ond mae llawer o'r ddeddfwriaeth newydd a basiwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad, mewn gwirionedd, wedi rhoi hyd yn oed mwy o...
Janet Finch-Saunders: Brif Weinidog, mae cysondeb wedi’i integreiddio a chydweithredu i ddarparu gwasanaethau yn nodau allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac eto, y gwir amdani yng Nghymru, yma, yw bod 34 y cant o gleifion yn aros ymhell dros chwe wythnos i ddychwelyd adref o wely GIG. Rwy’n gwybod yn uniongyrchol, o faterion gwaith achos sydd wedi codi, ac o brofiad personol...
Janet Finch-Saunders: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch ar eich rôl newydd? Mae’n bleser mawr gennyf arwain dadl grŵp gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a diolch, wrth wneud hynny, i arweinydd fy ngrŵp yn y Cynulliad, Andrew R.T. Davies AC, am ei hyder yn fy ailbenodi’n llefarydd yr wrthblaid ar lywodraeth leol. Hoffwn...
Janet Finch-Saunders: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar daliadau’r Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr? OAQ(5)0083(FM)
Janet Finch-Saunders: Diolch. Mae’n rhaid i mi godi’r cwestiwn hwn, a dweud y gwir, yn sgil fy mhryderon dwys fy hun am y ffordd y mae taliadau sylfaenol sy'n dal heb eu talu i'n ffermwyr wedi eu trin, a phroses eich adran Llywodraeth eich hun. Cyflwynodd dwy fil ar bymtheg a chwe deg a thri o ffermwyr eu ceisiadau ym mis Mehefin 2015, ond 12 mis yn ddiweddarach, mae tua 171 yn dal i fod heb gael unrhyw...
Janet Finch-Saunders: Rwyf yn enwebu Mark Isherwood.
Janet Finch-Saunders: Rwyf yn enwebu Mark Isherwood.
Janet Finch-Saunders: Er ein bod yn cefnogi proses gaffael SquID yn gyffredinol mae’n deg dweud mai un o’r rhesymau pam, yn ôl pob tebyg, mai saith yn unig o’r 22 awdurdod lleol sy’n ei ddefnyddio—y pwynt a wnaed gan fy nghyd-Aelod Mike Hedges—oedd y ffaith fod llawer o fiwrocratiaeth yn dal i fod yno mewn gwirionedd i gwmnïau bach sy’n ceisio tendro am gyfrannau gwaith sydd i’w cael gan awdurdod...
Janet Finch-Saunders: Rwy’n falch iawn i gyfrannu at y ddadl hon er mwyn ceisio siarad dros anghenion y plant sy’n derbyn gofal yma yng Nghymru ac i dalu teyrnged i’r nifer o unigolion gwych sy’n gweithio gyda hwy, sy’n eu caru ac yn eu cefnogi. Oni bai am eu hymroddiad anhygoel i’n plant mwyaf agored i niwed, byddai llawer yn colli’r cysur a’r cariad unigol na all neb ond rhiant neu ofalwr ei roi....
Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflog cyfartal?
Janet Finch-Saunders: Brif Weinidog, fel Aelod etholaeth yn Aberconwy, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd gwerthfawr Airbus ym Mrychdyn gyda’r swyddi—6,000 o swyddi—y maen nhw’n eu darparu. Gwn eu bod wedi dweud mewn datganiad ar ôl refferendwm eu bod wir yn gobeithio gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth i’w gweithwyr ac, yn wir, i barhau â'u gweithrediadau yma. Sut y byddwch...
Janet Finch-Saunders: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0107(FM)
Janet Finch-Saunders: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, i rai, pan gaiff ysgol newydd ei chrybwyll, y gall fod pryderon, yn enwedig pan fo plant a rhieni yn hapus iawn â'r ysgol y maen nhw’n ei mynychu. Nawr, o dan adran 5.4 cod trefniadaeth ysgolion statudol Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr holl wrthwynebiadau a gyflwynir yn gydwybodol, a pheidio â gwneud...
Janet Finch-Saunders: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru? OAQ(5)0027(HWS)
Janet Finch-Saunders: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mater sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, yn sicr yn fy etholaeth fy hun, yw natur y cwestiynau a oedd y cael eu gofyn gan y bobl sy’n ateb y galwadau ar ôl deialu 999 am y tro cyntaf, pan fo rhywun yn galw am ambiwlans ar ran rhywun nad ydynt yn eu hadnabod yn bersonol. Mae wedi digwydd ddwywaith i mi yn yr wythnosau diwethaf lle nad oeddwn yn...