Mick Antoniw: Carwyn Jones.
Mick Antoniw: 7. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi galwadau glowyr Cymru ac undeb NUM De Cymru am ymchwiliad i ddigwyddiadau Orgreave ym mis Mehefin 1984? OAQ(5)0026(FM)
Mick Antoniw: Brif Weinidog, yn y sesiwn ddiwethaf buom yn trafod y rhaglen gau llysoedd a thynnais eich sylw’n benodol at fater llys ynadon Pontypridd, yn fwy o safbwynt yr hyn sydd, o amgylch Cymru, yn ymarfer torri costau gyda llysoedd, ond mae’n fater sy’n cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder i rai o’r cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed. Brif Weinidog, tybed ai nawr yw’r amser i Lywodraeth...
Mick Antoniw: Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Cyfarfûm â’r Ysgrifennydd Cartref fel aelod o’r Orgreave Truth and Justice Campaign ac mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod cadarnhaol iawn gyda hi ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Ers hynny, rhoddwyd cyflwyniadau manwl iawn gerbron. Wrth gwrs, ers hynny, cafwyd dyfarniad Hillsborough ac wrth gwrs, y cysylltiad uniongyrchol rhwng digwyddiadau yn...
Mick Antoniw: Brif Weinidog, rwy’n meddwl bod rhaid i ni groesawu tôn datganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ei fod yn dangos parodrwydd i weithio i wella er mwyn cyflawni amcan cyffredin sef deddfwriaeth sy’n gweithio mewn gwirionedd. Os bydd hynny’n digwydd mewn gwirionedd, yna bydd hynny’n beth da. A gaf fi ddweud fod gennyf bryderon sylweddol am yr ymagwedd tuag at fater awdurdodaeth?...
Mick Antoniw: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cysylltiad rhwng heriau damweiniau ac achosion brys a’r cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion wedi’i hen sefydlu. Gwelsom yr argyfwng sydd wedi digwydd o ran niferoedd derbyniadau damweiniau ac achosion brys yn Lloegr oherwydd toriad o 8 y cant mewn termau real yn y cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn...
Mick Antoniw: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, gwrandewais ar y cyfweliad a wnaeth y person hwnnw mewn gwirionedd, a phan gafodd ei herio yn ei gylch dywedodd na allai roi unrhyw sicrwydd. A ydych yn dweud y gallai roi sicrwydd neu a ydych yn cytuno ag ef na all roi sicrwydd, dim ond rhestr o ddymuniadau?
Mick Antoniw: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, un o’r dadleuon nad ydych wedi crybwyll yw pwysigrwydd diogelu hawliau gweithwyr drwy Ewrop. Roeddech yn aelod o Lywodraeth Thatcher yn yr 1980au a aeth ati i ddinistrio undebau llafur, i chwalu hawliau gweithwyr, a malu Undeb Cenedlaethol y Glowyr a’r diwydiant glo; cyn y gellir sicrhau unrhyw hyder neu gred y bydd eich ymgyrch yn gwneud...
Mick Antoniw: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Felly, os mai eich dadl, yn gyfansoddiadol, yw eich bod yn cefnogi DU annibynnol, a ydych hefyd felly yn cefnogi Cymru annibynnol ac ar wahân?
Mick Antoniw: Diolch i chi am y cyfle i siarad ar hyn eto. Mae hwn yn destun y byddwn yn ddi-os yn ei drafod fesul llinell yn fanwl, gan ei fod yn eithriadol o bwysig mewn gwirionedd. Os nad ydym yn gwybod beth yw fframwaith y pwerau y gweithredwn o’u mewn, sut yn y byd y gallwn ddatblygu polisi priodol ar gyfer y dyfodol a chynrychioli’r bobl sy’n ein hethol? Rwy’n croesawu’r Bil hwn, yn yr...
Mick Antoniw: Rwy’n credu bod yr Aelod yn llygad ei lle fod yna adrannau wedi’u cadw yn y Bil nad yw’n gwbl amlwg beth y maent yn ei olygu. Er enghraifft, pam, yn adran 175, y byddai gennych fagu plant, cyfrifoldeb rhiant, trefniadau plant a mabwysiadu fel materion a gedwir yn ôl, er ei bod yn amlwg fod gennym gyfrifoldebau mawr sy’n gorgyffwrdd yn y meysydd hynny? A cheir nifer o’r rheini. Dyna...
Mick Antoniw: Os mai amcan yr argymhelliad yw dinistrio’r Deyrnas Unedig, ai nod datganoli plismona i Fanceinion yw dinistrio strwythur Lloegr?
Mick Antoniw: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diogelwch a roddir i weithwyr Cymru o ganlyniad i’n haelodaeth o’r DU? OAQ(5)0070(FM)
Mick Antoniw: Brif Weinidog, ym 1975, fe wnaethom ni ymuno â'r UE. Ym 1977, cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb i ddiogelu gweithwyr sy'n trosglwyddo o un ymgymeriad i un arall, a ddaeth, ym 1981, yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, sydd wedi rhoi diogelwch i gannoedd o filoedd o weithwyr yng Nghymru dros y sawl degawd hynny. Yn wir, pan ddaeth i’r amlwg nad oedd Llywodraeth...
Mick Antoniw: A gaf fi ddiolch i chi yn gyntaf am y cwestiwn—y ddau gwestiwn a gyflwynwyd gennych mewn gwirionedd? Rwyf am ddweud fy mod wedi sylwi, ers i mi gael fy mhenodi, fod nifer y cwestiynau wedi haneru mewn gwirionedd. Rwy’n credu ein bod wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn meddwl am ffyrdd creadigol o ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ennyn ateb a gwnaf fy ngorau i...
Mick Antoniw: Wrth gwrs, mae’r confensiwn a Deddf Hawliau Dynol 1998 yn hawliau sy’n rhaid i ni eu hymgorffori yn ein deddfwriaeth Gymreig ein hunain. Mewn gwirionedd, rhaid i Lywodraeth y DU wneud yr un peth gyda’i deddfwriaeth ei hun. Wrth gwrs, cawsom y sylwadau heddiw gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod deddf hawliau dynol yn mynd i gael ei chyflwyno. Tybiaf eich bod chi hefyd, ynghyd â llawer o...
Mick Antoniw: Rwy’n credu y bydd yr Aelod yn sylweddoli mai saith diwrnod yn unig sydd yna ers i mi ddechrau yn y swydd, felly ni fydd yn syndod nad wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith eraill ar y mater hwn, ond mae’n amlwg bod gadael yr UE yn newid cyfansoddiadol enfawr i’r DU. Bydd iddo oblygiadau pellgyrhaeddol hefyd o ran y setliad datganoli.
Mick Antoniw: Rydych yn gofyn cwestiwn atodol pwysig iawn. Gwn fod adrannau Llywodraeth Cymru eisoes yn dechrau ar y broses benodol hon, ac rwyf innau hefyd, oherwydd mae yna lawer o agweddau a chymhlethdodau ynghlwm wrth yr holl broses hon. Er enghraifft, ni wyddom pa agwedd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i’w mabwysiadu tuag at adael yr UE—er enghraifft, beth fyddai’r drefn ar gyfer galw erthygl 50...
Mick Antoniw: Bydd yr Aelodau’n deall bod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith, sy’n bodoli i ddiogelu cyfrinachedd fy rôl fel cynghorydd cyfreithiol. Felly, er nad wyf yn gallu dweud a wyf wedi cael unrhyw drafodaethau, gallaf yn sicr ddweud wrthych ei bod yn gynnar iawn, ac nid wyf wedi cael unrhyw gyfarfodydd o gwbl eto ar unrhyw fater. Ond gallaf ddweud bod...
Mick Antoniw: Mae’n werth ailadrodd yr hyn y mae erthygl 50 yn ei ddweud. Mae’n darparu ar gyfer aelod-wladwriaeth yn hysbysu’r Cyngor Ewropeaidd o’i bwriad i adael. Yna, ceir cyfnod o ddwy flynedd i lunio cytundeb gadael, a fydd yn galw am fwyafrif cymwysedig yn y Cyngor Ewropeaidd, a chaniatâd y Senedd Ewropeaidd wedyn. Os na cheir cytundeb, caiff yr aelodaeth a chytundebau eu terfynu’n...