Laura Anne Jones: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae heddiw, i mi, yn ddiwrnod o emosiynau cymysg. Rwy’n hynod o falch wrth gwrs, ac yn teimlo anrhydedd o gael sefyll yma eto i gynrychioli pobl de-ddwyrain Cymru yn y Siambr hon. Ond mae'r teimladau hyn yn gymysg â thristwch mawr. Hoffwn yn fawr pe bawn wedi cael y cyfle hwn i wasanaethu, ac y gallwn ei gyflawni, heb fod wedi colli ein hannwyl gyfaill, Mohammad...
Laura Anne Jones: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn chwerthinllyd ac yn ddryslyd cael ymagwedd wahanol y naill ochr a’r llall i'r ffin, yn enwedig pan ystyriwch gymaint o bobl sy'n teithio’n ddyddiol o un ochr i'r llall? A all y Prif Weinidog fy sicrhau y bydd yn rhoi’r gorau i fod yn wahanol a’i angen i fod yn wahanol i Loegr heb unrhyw reswm mwy nag i fod yn wahanol, a gwneud yr hyn y mae'r...
Laura Anne Jones: Drefnydd, erbyn mis Medi, tri diwrnod yn unig fydd ein plant wedi'u cael yn yr ysgol mewn chwe mis. Mae eu haddysg yn dioddef, ac mae eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol yn dioddef hefyd. Mae plant agored i niwed ar ei hôl hi mewn sgiliau allweddol, ac os nad yw ein plant yn mynd yn ôl yn llawn ym mis Medi, gallai rhieni golli swyddi hefyd, am na fyddant yn gallu dychwelyd i'r gwaith....
Laura Anne Jones: Weinidog Addysg, rwy'n cydnabod bod y rhain yn benderfyniadau anodd i'r Llywodraeth, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth gydbwyso anfanteision a manteision unrhyw bolisi. Ac er fy mod yn gweld eich bod yn ceisio cadw ein plant yn ddiogel, ac yn parchu hynny, mae'n amlwg ei fod, yn eironig, yn cael effaith andwyol ar ein plant a'u bod yn dioddef, ac rwyf wedi gweld hynny drosof fy hun, gan fod...
Laura Anne Jones: Gobeithio y gwnewch chi faddau i mi am sefyll a chyfrannu at y ddadl hon. Yn amlwg, dyma fy niwrnod cyntaf, ond roeddwn yn llefarydd Ceidwadol dros chwaraeon yn 2003 felly roeddwn yn teimlo'r angen i sefyll a dweud rhywbeth. Yn gyntaf oll, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad fy hun; roeddwn yn credu ei fod yn—. Yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones; hoffwn ddiolch iddi am hynny a diolch i'r...
Laura Anne Jones: Prif Weinidog, un ffordd o gefnogi chwaraeon proffesiynol yng Nghymru fyddai llacio'r rheolau cadw pellter cymdeithasol a chaniatáu i stadia Cymru ailagor. Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Lloegr yn gwneud y pwynt bod lleihau mesurau cadw pellter cymdeithasol i 1m, sef argymhelliad a chanllaw Sefydliad Iechyd y Byd, yn arwain at gapasiti o 40,000 o bobl mewn stadiwm sydd ag 80,000 o seddau,...
Laura Anne Jones: Gweinidog Trafnidiaeth, a ydych chi'n fy nghlywed i?
Laura Anne Jones: Iawn, reit dda. Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd. Gweinidog Trafnidiaeth, roeddwn i'n cytuno â Paul Davies yn gynharach fod angen i fusnesau Cymru o bob maint, yn fwy nag erioed o'r blaen wedi'r cyfnod cloi, gael yr holl gymorth y gallan nhw ei gael gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu'n gryf bod seilwaith trafnidiaeth addas yn allweddol i adfywio unrhyw economi. Felly, i adfywio ein...
Laura Anne Jones: Prif Weinidog, tybed a allwch chi egluro rhywbeth i mi, os gwelwch yn dda. O gofio bod ein prif gynghreiriau pêl-droed yma yng Nghymru bellach wedi cael dyddiadau i ailafael ynddi a dechrau gemau, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, a allech chi roi gwybod i ni am y dyddiadau y gall gweddill y byd pêl-droed, pêl-droed ar lawr gwlad—rydym ni'n sôn am ein cynghreiriau is a phêl-droed...
Laura Anne Jones: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl? OQ55510
Laura Anne Jones: Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae'r elusen gwrth-gaethwasiaeth, Unseen UK, wedi rhybuddio ein bod ni'n debygol, oherwydd y dirywiad economaidd oherwydd yr argyfwng presennol, o weld cynnydd i fasnachu pobl—gan fod y ddau beth yn mynd law yn llaw fel rheol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog fy sicrhau y bydd hi'n cymryd camau i geisio atal hyn, i godi ymwybyddiaeth o arwyddion caethwasiaeth fodern ac...
Laura Anne Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hefyd i groesawu eich sylwadau a'ch sylwadau agoriadol chi am eich dyhead i gadw ein hysgolion ni'n agored yn ystod y cyfnod dyrys hwn. Roedd clywed yr wythnos hon bod nifer o blant wedi cael eu hanfon adref gan fod eu trwynau'n rhedeg yn destun rhywfaint o bryder, ac yn amlwg, oherwydd yr oedi gyda phrofion, roedd...
Laura Anne Jones: Yn ddiweddar, ymwelais ag Ynysgynwraidd yn Sir Fynwy gyda’r Aelod Seneddol lleol, David Davies, i weld drosof fy hun yr effeithiau dinistriol y mae llifogydd wedi’u cael ar eu pentref. Cafodd llifogydd y gaeaf diwethaf effaith ddinistriol ar gynifer o drigolion lleol, ac mae pryderon ynghylch hynny’n digwydd eto y gaeaf hwn yn peri nosweithiau di-gwsg i lawer o drigolion, yn amlwg, ac...
Laura Anne Jones: Diolch, Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod y cyhoeddiad diweddaraf am arian i lywodraeth leol i'w groesawu'n fawr wrth gwrs. Dylid rhoi clod lle mae'n ddyledus—credaf fod y ffaith y bydd yn cael ei roi allan ar sail hawliadau yn syniad gwych. Roeddwn am wybod a all y Gweinidog roi hyder inni heddiw y caiff hawliadau eu hasesu'n deg, o gofio bod rhai cynghorau llai, fel Sir Fynwy,...
Laura Anne Jones: Yn amlwg, mae pethau wedi symud ymlaen ers cyflwyno hyn, ond mae'n amlwg yn ystod digwyddiadau'r dyddiau diwethaf fod Cymru'n parhau i wynebu argyfwng iechyd na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Ac rwyf fi, wrth gwrs, yn croesawu'r ddadl hon, oherwydd—efallai ei bod ychydig ar ei hôl hi yn awr, ond mae'n bwysig inni gael y cyfle hwn i ofyn ein cwestiynau a mynegi ein pryderon ynghylch yr hyn...
Laura Anne Jones: Ydw. Yn olaf, a allai ddweud wrthym am ein maes awyr, ein hunig faes awyr yng Nghymru, Weinidog, a allwch chi wedyn, os gwelwch yn dda—? Rydym wedi cael achos ar ôl achos o bobl yn dod yn ôl o dramor gan ddod â'r coronafeirws gyda hwy. A allwch ddweud wrthym pa gamau rydych chi'n eu cymryd mewn gwirionedd? Diolch. [Torri ar draws.] Masnachol, mae'n ddrwg gennyf.
Laura Anne Jones: Diolch am y datganiad, Gweinidog. Bu pryder dealladwy gan rieni, felly croesawaf hyn heddiw. Hoffwn innau ddiolch ar ran yr wrthblaid swyddogol i'n holl ofalwyr meithrin a phlant, sy'n gwneud gwaith gwych nid yn unig yn gofalu am ein plant, ond yn helpu i'w meithrin a'u helpu i dyfu fel unigolion. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y system bellach yn cael ei hadfer, ar ôl cael ei hatal yn ystod y...
Laura Anne Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sefydliadau treftadaeth ac atyniadau hanesyddol yng Nghymru y mae'r achosion o'r coronafeirws wedi effeithio arnynt?
Laura Anne Jones: Ddirprwy Weinidog, gwn fod llawer o'r Siambr, fel finnau, yn dilyn Joe Wicks ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n siŵr ei fod yn arwr iechyd corfforol a meddyliol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud cenedlaethol. Cyflwynodd fideo y bore yma ar sut y mae'r holl reoliadau coronafeirws a phethau felly'n effeithio arno'n feddyliol, ac roedd hynny'n ddewr iawn yn fy marn i, a dywedodd hefyd sut y...
Laura Anne Jones: Diolch, Weinidog. Mae galluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod misoedd y gaeaf yn gwbl hanfodol. Mae bob amser wedi bod yn hanfodol, ond mae'n fwy hanfodol nag erioed yn awr yn ystod y pandemig hwn. Mae ardaloedd gwledig, sy'n aml yn cael eu hystyried yn gefnog gan Lywodraeth Cymru, yn ddifrifol o dlawd mewn llawer o ardaloedd o ran cyfleusterau chwaraeon, yn enwedig y rhai y...