Jack Sargeant: Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i chi yn gyntaf am ganiatáu i mi wneud y datganiad hwn heddiw? Mae wir yn golygu llawer iawn i mi. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl Aelodau ar draws y Siambr hon am eu llongyfarchiadau yn dilyn yr is-etholiad diweddar yn Alun a Glannau Dyfrdwy. O aelodau'r tîm diogelwch, y staff arlwyo, staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, heb anghofio'r...
Jack Sargeant: Ysgrifennydd y Cabinet, mae trafodaethau rhynglywodraethol yn amlwg yn hanfodol os ydym yn dymuno sicrhau'r fargen orau i Gymru, yn arbennig ar gyfer diwydiant. Fe fyddwch yn gwybod bod fy etholaeth i’n gartref i ardal fenter Glannau Dyfrdwy, ac yn gartref i lawer o gwmnïau, gan gynnwys Airbus a Toyota. Mae fy etholwyr yn dibynnu ar nifer o gwmnïau fel hyn, a rhai fel Tata Steel, am eu...
Jack Sargeant: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ51792
Jack Sargeant: Diolch. Arweinydd y tŷ, rydym ni'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn darparu buddsoddiadau gweddnewidiol yn Alun a Glannau Dyfrdwy, o ailddatblygu gorsaf Shotton i'r buddsoddiad o £250 miliwn yn y ffyrdd a gwelliant ar draws coridor Glannau Dyfrdwy. Mae'r buddsoddiad hwn yn sicr yn cael ei groesawu gan fy etholwyr, ond rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y gallwn ni wneud mwy ac y dylem ni...
Jack Sargeant: Mae gen i ddau beth yr hoffwn eu codi gydag arweinydd y tŷ, os yw hynny'n bosibl. Yn gyntaf, cefais y pleser o ddychwelyd i'm hen ysgol, ysgol uwchradd Cei Connah, i gwrdd â grŵp o ddisgyblion sy'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth F1 mewn ysgolion. Mae'r gystadleuaeth yn ymwneud â dylunio a gweithgynhyrchu ceir rasio model wedi'u pweru gan garbon deuocsid, a hynny gan ddefnyddio...
Jack Sargeant: Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Gyda chaniatâd, hoffwn i roi ar y cofnod ein bod, bedwar mis yn ôl i heddiw, wedi colli gwir eiriolwr dros hawliau menywod a rhywun a safodd dros fenywod sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dydw i ddim yn meddwl nad oes yr un o siwtiau fy nhad nad oes arni fathodyn pin rhuban gwyn arni, ac rwy'n falch iawn o fod yn...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Rwy'n falch, fel aelod ifanc o'r Cynulliad hwn, fy mod yn gallu cyfrannu at y ddadl hon am bobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n mynd i ddefnyddio fy amser heddiw yn y ddadl hon i ganolbwyntio ar gyflogaeth a dysgu gydol oes a sut y gallwn sicrhau ein bod yn parhau i gael pobl ifanc sy'n cyfrannu at gymunedau Cymru....
Jack Sargeant: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fetro gogledd Cymru? OAQ52073
Jack Sargeant: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb. Fel y gwyddoch, mae system fetro gogledd-ddwyrain Cymru a'r system drafnidiaeth integredig well yn gynllun uchelgeisiol yr wyf fi, a fy etholwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy, yn sicr yn ei groesawu. Roeddwn yn falch iawn o'ch croesawu i Lannau Dyfrdwy fis diwethaf i weld a dysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth gwell, yn...
Jack Sargeant: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod ein Llywydd bob amser yn ceisio bod yn ddiduedd yn ei rôl yn y Siambr hon. Fodd bynnag, efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd eithriadol i gynnal y safon honno ddydd Sul pan fydd tîm pêl-droed Aberystwyth yn chwarae Nomads Cei Connah yn 131ain rownd derfynol Cwpan Cymru JD. Edrychaf ymlaen at fynychu'r gêm...
Jack Sargeant: Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i siarad yn y ddadl hon heddiw. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r pwyllgor a'i holl aelodau am yr adroddiad pwysig hwn. Er nad wyf yn aelod o'r pwyllgor hwn, bydd yr Aelodau'n gwybod fod gennyf ddiddordeb mawr mewn prentisiaethau, ar ôl bod yn brentis fy hun cyn dod i'r Cynulliad. Gyda hynny mewn golwg, gallwn dreulio amser hir heddiw yn...
Jack Sargeant: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw'r wythnos hon hefyd a phrif bwyslais yr ymgyrch eleni yw straen. Rwy'n hynod falch o fod yn gwisgo fy rhuban gwyrdd heddiw yn y Siambr i gefnogi'r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau o ar draws y Siambr, ac i'w staff cynorthwyol a staff y Cynulliad, am ymuno â mi y tu allan yn gynharach ar risiau'r...
Jack Sargeant: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i arweinydd y tŷ am gyflwyno'r datganiad hynod o bwysig hwn heddiw. Bydd hi'n gwybod bod hwn yn fater pwysig i'm hetholwyr i yn Alun a Glannau Dyfrdwy ac fy mod i wedi codi materion sy'n ymwneud â chysylltedd digidol o'r blaen yn y Siambr hon. Yn amlwg, mae'n bwysig cael cysylltedd digidol yn iawn os yw Cymru a'r DU yn mynd i fod ar flaen y gad o ran technoleg...
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad pwysig iawn hwn heddiw a'i ganmol am y gwaith y mae wedi ei wneud hyd yma ar y mater hwn? Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddod i fy etholaeth i yr wythnos diwethaf i uwchgynhadledd swyddi a ffyniant, a gynhaliais yng nghanolfan chweched Glannau Dyfrdwy. Roedd yn gyfle gwych i drafod gyda'r gymuned fusnes leol ac...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. John Atkinson, Courtney Boyle, Philip Tron, Kelly Brewster, Georgina Callander, Olivia Campbell-Hardy, Liam Curry, Chloe Rutherford, Wendy Fawell, Martyn Hett, Alison Howe, Lisa Lees, Megan Hurley, Nell Jones, Michelle Kiss, Angelika Klis, Marcin Klis, Sorrell Leczkowski, Eilidh MacLeod, Elaine McIver, Saffie Rose Roussos a Jane Tweddle: hwy oedd y 22 o bobl ddiniwed...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i'r Llywydd am gyflwyno'r datganiad gwirioneddol bwysig hwn heddiw? A diolch i chi, Gareth, yn fyr, am y sylw yno. Mae gwaith y pwyllgor llywodraeth leol a'r ymchwiliad sy'n mynd i ddigwydd yn hollbwysig i ddeall y rheswm pam y mae pobl wedi ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth i'r fath raddau, ac rwy'n credu, yn drawsbleidiol yn y...
Jack Sargeant: Yn gyntaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle i groesawu Ysgol Bryn Deva i'r oriel i fyny'r grisiau. Fy ysgol gynradd i ydyw mewn gwirionedd, felly mae'n wych eu gweld nhw yma heddiw. Hoffwn symud ymlaen, arweinydd y tŷ, at y penwythnos hwn, a'r penwythnos hwn, fel y mae llawer ohonoch yn gwybod, cynhelir y Great Get Together, sef diwrnod sydd wedi'i ysbrydoli gan y diweddar Jo Cox AS. Byddaf i'n...
Jack Sargeant: Credaf fod Jenny Rathbone wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn yno ar oblygiadau Brexit i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Mae fy etholaeth i yn enghraifft berffaith, mewn gwirionedd, gydag etholaeth a bleidleisiodd i adael, ond sy'n un â diwydiant yn ganolog iddi, a diwydiant pwysig iawn hefyd. Mae sicrhau'r cydbwysedd cywir hwnnw rhwng gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau'r fargen orau...
Jack Sargeant: Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol erbyn hyn fod ASau wedi pleidleisio neithiwr o blaid cynlluniau i adeiladu trydedd rhedfa ym Maes Awyr Heathrow Llundain. Rwy'n dal o blaid y prosiect hwn ac rwy'n falch iawn â chanlyniad ddoe, yn enwedig oherwydd y buddion rhanbarthol, y manteision i Alun a Glannau Dyfrdwy fel etholaeth ar y ffin a'r manteision ehangach i Gymru...
Jack Sargeant: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad eithriadol o bwysig hwn heddiw? O'r cychwyn cyntaf, rwy’n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod nad yw’r rhybudd hwn yn unigryw i Airbus—mae'n rhybudd ledled holl sectorau a diwydiannau Cymru, a ledled Ewrop yn ogystal. Dros y penwythnos mae BMW a llawer o rai eraill, gan gynnwys Ferrovial heddiw, a SMMT; fe...