Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Llongyfarchiadau i chi, gyda llaw, ar eich etholiad i'r rôl, a llongyfarchiadau i chi, Drefnydd, ar eich apwyntiad i'r rôl bwysig yma yn y Cabinet. Gaf i ddweud i gychwyn faint o anrhydedd ydy fy mod i yma yn eich plith chi fel Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd? Diolch i bobl ac etholwyr Dwyfor Meirionnydd am roi eu ffydd ynof fi. Gaf i hefyd gymryd y...
Mabon ap Gwynfor: Prynhawn da. Os teithiwch chi drwy Ddwyfor Meirionnydd, fe welwch chi'n anffodus amryw o adeiladau cyhoeddus sydd wedi'u cau ac yn eistedd yn wag, boed yn dafarndai neu'n gapeli neu'n eglwysi ac yn y blaen. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch pa gymorth ychwanegol medrwch chi ei roi i sicrhau bod cymunedau yn medru cymryd perchnogaeth ar yr adnoddau hynny er mwyn medru datblygu...
Mabon ap Gwynfor: Dwi'n falch clywed eich bod chi wedi dweud eich bod chi'n awgrymu ac yn argymell i bobl sy'n teithio i Gymru y dylen nhw gael eu testio, ond dwi ddim yn gwybod am lawer o bobl ym Manceinion sydd yn edrych ar newyddion BBC Cymru, felly dwi ddim yn gwybod sut maen nhw fod i gael yr argymhellion yna. Ond y ffaith ydy, yn wahanol i'r hyn oedd y Prif Weinidog wedi dweud ddydd Gwener diwethaf, sef...
Mabon ap Gwynfor: Os ydym ni am gael rhwydwaith trafnidiaeth sydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yna mae'n rhaid iddo wasanaethu'r cerbydau fydd yn teithio ar hyd y ffyrdd hynny. Hyd yma, nid yw'r rhwydwaith yn addas i'r pwrpas hwnnw. Nid oes yna ddigon o bwyntiau gwefru, heb sôn am orsafoedd hydrogen. Dwi'n nodi bod eich rhaglen ddeddfwriaethol, y byddwch chi'n cyfeirio ati yn nes ymlaen...
Mabon ap Gwynfor: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reoleiddio eiddo gosod tymor byr?
Mabon ap Gwynfor: Llongyfarchiadau i chi, Weinidog, ar eich apwyntiad, ac i'r is-Weinidog—Dirprwy Weinidog, dylwn i ddweud—ar yr apwyntiad hefyd. Un o'r pethau roedd yn rhaid i awdurdodau lleol eu cynnwys fel ystyriaeth graidd wrth ddatblygu'r cynlluniau datblygu lleol oedd rhagamcanion twf poblogaeth y Llywodraeth. Mae pob un o'r cynlluniau datblygu, felly, yn seiliedig ar y data yma, gan adlewyrchu y...
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni'n byw mewn oes o argyfyngau, ac mae’r argyfyngau yma yn cydblethu. Mae yna argyfwng amgylcheddol a newid hinsawdd—rydyn ni wedi clywed amdano heddiw yn barod; mae yna argyfwng iechyd cyhoeddus; ac mae yna argyfwng economaidd. Rŵan, pam fy mod i’n sôn am yr argyfyngau yma mewn dadl am argyfwng tai? Oherwydd bod tai yn ffactor cyffredin sy'n perthyn i...
Mabon ap Gwynfor: Yn ogystal â hyn, mae nifer o'n cymunedau yn dioddef diboblogi, ond eto, er hynny, yn parhau i weld tai mawr moethus yn cael eu codi yn eu plith. Yn sicr, felly, dydy'r farchnad yma ddim yn ateb galw lleol. Os ydy’r farchnad rydd yn ateb y galw, yna pam fod yna 67,000 o bobl ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru? Mae’r farchnad rydd yn gweithio yn erbyn pobl Cymru—dyna'r gwir...
Mabon ap Gwynfor: Mae'r tymor ymwelwyr eto yn ein cyrraedd ni, a nifer fawr o bobl yn mynd i ddod i'n cymunedau ni dros yr wythnosau nesaf. Eisoes, mae gwylwyr y glannau, timau achub mynydd, parafeddygon a gwasanaethau brys eraill wedi bod yn ofnadwy o brysur. Mae'r galw ar y gwasanaethau yma, yn enwedig gwasanaethau iechyd, yn cynyddu'n sylweddol adeg gwyliau, ac eleni yn mynd i fod yn fwy prysur nag arfer,...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch, Weinidog, hefyd, am y datganiad yma. Dwi'n falch gweld y camau sy'n cael eu cymryd yn hyn o beth. Roeddwn i eisiau cymryd y cyfle yma i nodi yn benodol y ffaith ei bod hi'n Fis Hanes y Roma, y Sipswn a Theithwyr, ac roeddwn i'n falch iawn eich clywed chi'n cyfeirio at hynny yn eich datganiad chi. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod hiliaeth yn erbyn y...
Mabon ap Gwynfor: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynllun Glastir?
Mabon ap Gwynfor: Prynhawn ddoe, fe glywsom ni am farwolaeth dyn a chwaraeodd ran mor bwysig ym mywydau nifer ohonom ni. Bu farw David R. Edwards yn 56 mlwydd oed. Ffurfiodd Dave y band Datblygu pan yn yr ysgol yn Aberteifi yn 1982, a datblygodd y band i fod yn un o'r mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru. Roedd o'n gyfansoddwr ac yn fardd, a'i farddoniaeth yn ffraeth, yn dyner, yn ddoniol...
Mabon ap Gwynfor: Rwy'n croesawu'r ddadl yma a'r drafodaeth yma'n fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi dod ag o ger ein bron. Dwi'n awyddus i weld y Gweinidog a'r Llywodraeth yma'n edrych yn benodol ar wasanaethau bysus yn ein cymunedau gwledig ni, ac eisiau ategu ychydig o'r hyn roedd Alun Davies yn ei ddweud ynghynt, oherwydd mae'n ymddangos bod disconnect rhwng yr hyn mae'r Llywodraethau yn ei ddweud a'r...
Mabon ap Gwynfor: Gaf i gynnig Llyr Gruffydd, os gwelwch yn dda?
Mabon ap Gwynfor: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bolisi dadfeddiannu Llywodraeth Cymru? TQ557
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod brynhawn yma, mae'r rheoliadau sy'n gwarchod pobl rhag dadfeddianaeth yn dirwyn i ben yn rhannol heddiw. Mae'r newyddion am y grant i gynorthwyo pobl sy'n cael trafferth talu rhent i'w groesawu, ond mae peryg y bydd hwn yn gwbl annigonol i ateb y galw go iawn. Ond hefyd does gan y Llywodraeth yma ddim record da o...
Mabon ap Gwynfor: Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Dwi'n ffodus fy mod i'n cynrychioli etholaeth sy'n gyforiog o fywyd gwyllt; meddyliwch am fforestydd glaw Celtaidd Maentwrog, llonyddwch Enlli neu Gors Barfog Cwm Maethlon. Mae'r ardal yn gartref i gasgliad rhyfeddol o fywyd gwyllt, o'r falwen lysnafeddog yn Llyn Tegid i lili'r Wyddfa, ond maen nhw o dan fygythiad. Dwi am ganolbwyntio’n...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i James am yr amser i gyfrannu i'r ddadl, a diolch am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw. Wrth gwrs, mae llygredd dŵr yn fater sydd angen mynd i'r afael ag ef, ac mae angen gwneud hynny gyda chydweithrediad y rhanddeiliaid. Yr hyn dŷn ni wedi ei weld yma, serch hynny, ydy Cyfoeth Naturiol Cymru yn adnabod problem ond yn methu â chydweithio gyda rhanddeiliaid i ganfod...
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Drefnydd. Fel dŷch chi wedi sôn yn barod, fferyllwyr oedd yr unig broffesiwn gofal sylfaenol a gadwodd eu drysau’n agored yn ystod y pandemig yma. Roedd hyn, felly, yn golygu asesiad wyneb-yn-wyneb yn ystod y pandemig. Bellach, mae ymgynghori wyneb-yn-wyneb gan fferyllwyr cymunedol wedi cael ei normaleiddio yng ngwaith y gwasanaeth iechyd. Oni ddylai’r cytundeb fferyllwyr newydd...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Dwi innau eisiau rhoi ar y record hefyd pa mor siomedig oeddwn i i ffeindio fod y datganiad yma wedi cael ei wneud yn gyhoeddus i'r cyfryngau neithiwr, ac eich bod chi wedi bod yn Nhyddewi yn ffilmio ddoe, ac ein bod ni ddim wedi clywed dim byd amdano fo tan heddiw. Ond hyderaf na fydd hynny yn digwydd eto. Os caf i yn gyntaf edrych,...