Heledd Fychan: Diolch, Llywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am ei groeso i ninnau fel Aelodau newydd sbon. Mae gan Lywodraeth yr Alban Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am ddiwylliant ac un sy'n gyfrifol am chwaraeon. Mae gan Lywodraeth San Steffan Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ddiwylliant a chwaraeon. Ond, er gwaethaf eich sylwadau am ddiwylliant a chwaraeon ar ddechrau'r sesiwn hon, unwaith eto,...
Heledd Fychan: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglyn â’r camau sydd wedi eu cymryd i atal llifogydd yng Nghanol De Cymru yn dilyn llifogydd 2020? OQ56563
Heledd Fychan: Diolch ichi, Brif Weinidog, am amlinellu'r cymorth. O ran y rhai yr effeithiwyd arnynt, boed hynny o ran eu cartrefi neu eu busnesau, er eu bod yn ddiolchgar am yr arian a'r cymorth, dydyn nhw'n dal ddim wedi derbyn yr atebion sydd eu hangen arnynt o ran beth ddigwydd a pham, ac os oedd yna unrhyw beth y gellid bod wedi'i wneud yn wahanol i atal y llifogydd dinistriol. Os ydym o ddifrif...
Heledd Fychan: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r addunedau amlinellwyd yn y maniffesto diwylliannol ar gyfer adferiad gan What Next? Cymru? OQ56564
Heledd Fychan: Diolch o galon i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb, a hoffwn gymryd y cyfle i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio'n adeiladol efo chi fel llefarydd y blaid ar ddiwylliant. Yn ganolog i ymgyrch What Next? Cymru oedd yr angen i gryfhau y dimensiwn diwylliannol ar draws Llywodraeth Cymru, a dwi'n croesawu'n fawr y bydd yna strategaeth ddiwylliannol. Ond roedden...
Heledd Fychan: Hoffwn ganolbwyntio, fel rhan o fy nghyfraniad i’r ddadl, dros yr angen i ddatganoli darlledu. Mae’n faes sydd wedi ei ddatganoli mewn gwledydd datganoledig eraill, megis Gwlad y Basg a Chatalwnia, ac mae’r pwerau wedi cael eu defnyddio er lles eu hieithoedd nhw. Darganfu pwyllgor trawsbleidiol comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, ynghyd ag arolwg barn YouGov yn...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Delyth, am godi'r pwnc hynod o bwysig yma.
Heledd Fychan: Yn 2020, gwelais yn uniongyrchol effaith ddinistriol newid hinsawdd a llifogydd ar fy nghymuned fy hun ym Mhontypridd. Un rheswm yr ymgyrchais mor angerddol dros ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yw na cheir adroddiad statudol yn edrych ar yr effaith ar iechyd a llesiant. Hoffwn ddefnyddio'r amser sy'n weddill i rannu geiriau un o ddioddefwyr y llifogydd gyda chi, geiriau sy'n crynhoi pam y...
Heledd Fychan: Rwyf innau hefyd yn falch iawn o weld y bwriad i sicrhau diogelwch tomenni glo drwy gyflwyno deddfwriaeth, a hefyd wedi darllen papur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith, a oedd yn frawychus, a dweud y gwir. Ond, fel rydyn ni'n gwybod, mae’n cymryd amser i gyflwyno deddfwriaeth ac mae yna bryder gwirioneddol mewn nifer o gymunedau y gellid gweld tirlithriadau pellach, fel y gwelwyd yn Tylorstown...
Heledd Fychan: Hoffwn ategu'r pwyntiau a godwyd gan Rhun ap Iorwerth.
Heledd Fychan: Heddiw, cysylltodd rhieni cwpl ifanc sydd i fod i briodi ar 22 Mehefin â mi. Mae'r cwpl eisoes wedi gohirio eu priodas ddwywaith ar ôl cael eu harwain i gredu, o ddatganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog ar 14 Mai, y byddai'r rheoliadau'n newid o 7 Mehefin i ganiatáu i 50 o bobl fod yn bresennol mewn gwledd briodas dan do, yn hytrach na 30, fel y mae ar hyn o bryd. Maen nhw bellach yn...
Heledd Fychan: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu'r argymhellion a restrwyd yn ei adroddiad ar lifogydd 2020? OQ56603
Heledd Fychan: 8. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn hygyrch i bob plentyn a chymuned, yn arbennig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru? OQ56602
Heledd Fychan: Diolch am eich ymateb. Mae'n amlwg o'r adroddiad bod lefelau staffio Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gyfan gwbl annigonol i ymdopi â llifogydd dinistriol 2020, fel sydd wedi'i gadarnhau gan y ffaith bod 41 yn fwy o staff ganddynt yn gweithio i reoli'r risg o lifogydd ers hynny, sydd dal yn dipyn llai na'r hyn y mae'r adroddiad yn datgelu sydd ei angen. Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth...
Heledd Fychan: Diolch i chi. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o ymgyrch yn fy ardal o ran addysg cyfrwng Cymraeg, yn benodol yng ngogledd Pontypridd, lle ceisiodd ymgyrchwyr berswadio'r cyngor lleol i ystyried opsiynau amgen, yn hytrach na'r opsiwn sy'n mynd rhagddo, a fydd yn symud mynediad at addysg Gymraeg ymhellach o gymunedau Ynysybwl, Coed-y-Cwm a Glyncoch, ac allan yn llwyr o Gilfynydd. Os ydym o...
Heledd Fychan: Hoffwn ddatgan yn glir iawn, o ran yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, nad oes lle i wleidyddiaeth plaid, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio'n drawsbleidiol i sicrhau a chefnogi eich gwaith. Ac rwy'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at yr angen i fynd ati i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ar sail y data a'r wyddoniaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn groes i'r modd rydych chi wedi gwrthod...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Hoffwn gyflwyno gwelliannau 2 a 3 yn ffurfiol, a nodi fy niolch innau am y cyfle i drafod ar ddiwrnod lle rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at gêm Cymru yn erbyn Twrci, ac, ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddymuno yn dda i'r garfan. Bwriad ein gwelliannau yw ychwanegu at y cynnig gwreiddiol mewn ffordd adeiladol, a hoffwn weld y Senedd yn gweithio mewn ffordd drawsbleidiol ar y...
Heledd Fychan: Ar draws fy rhanbarth i, Canol De Cymru, mae etholwyr di-ben-draw wedi bod mewn cysylltiad ar yr union fater hwn, ac mae'n amlwg fod gwasanaethau'n anghyson ledled Cymru. Ac er bod problemau'n gysylltiedig â'r pandemig wedi arwain at lai o wasanaethau a llai o gapasiti, y realiti yw bod y gwasanaethau bysiau yn gwbl annigonol cyn hynny hyd yn oed. Ni ddylid defnyddio COVID fel esgus. Mae'n...
Heledd Fychan: Fel y byddwch yn ymwybodol, Canolfan Iâ Cymru yw’r unig ganolfan iâ sy’n parhau ar gau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r ganolfan, sydd dim ond nepell o’r Senedd hon, wedi bod ar gau am 15 mis. Y gobaith oedd y byddai hyn wedi newid ar 21 Mehefin, ond penderfynwyd gohirio hyn ymhellach. Canolfan Iâ Cymru yw’r ganolfan iâ mwyaf modern yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi system rheoli...
Heledd Fychan: 8. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i adeiladu ar ymgyrch pleidlais 16 i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i ymgysylltu gyda gwaith yn y Senedd? OQ56707