James Evans: Diolch, Lywydd, a hoffwn gofnodi fy niolch i chi am gael eich ailbenodi i'ch swydd ac i'r Prif Weinidog hefyd am gael ei ailbenodi i'w swydd. Hoffwn hefyd nodi fy ngwerthfawrogiad a fy niolch i'm rhagflaenydd, Kirsty Williams, am ei gwaith a'i hymroddiad i bobl fy etholaeth ac i'r Senedd hon, ac i bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed am fy ethol yn Aelod newydd o’r Senedd ar eu rhan. Diolch yn...
James Evans: Gweinidog, hoffwn eich llongyfarch a'ch croesawu i'ch swydd. Rwy'n eich adnabod chi a gweithiais yn agos iawn gyda chi pan oeddwn yn aelod o Gyngor Sir Powys, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda chi nawr. Gweinidog, rwyf i a'm plaid yn croesawu'r ffaith bod rheoliadau COVID yma yng Nghymru yn parhau i gael eu llacio. Gyda niferoedd COVID-19 ar eu hisaf erioed, mae holl wledydd y Deyrnas...
James Evans: Diolch, Gweinidog, am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni. Rydym wedi clywed yn y Siambr heddiw ac wedi darllen straeon torcalonnus yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol am bobl o bob oed yn aros am atgyfeiriadau, diagnosteg a thriniaeth oherwydd yr oedi a fu yn sgil COVID-19. Mewn llawer o achosion, mae'r anhwylderau hyn yn hawdd eu trin pan wneir hynny'n ddigon cynnar, ond wrth i amser fynd...
James Evans: Diolch. Ac rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol yn enw Darren Millar. Ar draws y cymunedau ffermio yng Nghymru, o ardaloedd yr ucheldir i'r rhanbarthau arfordirol ac i fy ardal fy hun yng nghanol Cymru ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae ein cymunedau amaethyddol a'n ffermwyr yn gweithio'n ddiflino i fwydo'r genedl a sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu a bod ein tirweddau'n cael eu...
James Evans: Mae ein ffermwyr yn chwarae rhan enfawr yn cynhyrchu bwyd i fwydo'r genedl. Mae ffermwyr yn angerddol am eu tir, yn ymrwymedig i weithio tuag at yr arferion gorau, gan gynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf gyda'r safonau uchaf mewn perthynas â lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd. Fodd bynnag, mae polisïau amaethyddol Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd wedi dangos dirmyg tuag at ffermwyr...
James Evans: Er bod un digwyddiad llygredd yn un yn ormod, mae polisi cyffredinol yn brifo'r diwydiant ar adeg pan fo angen cymorth arnynt. Mae'r pecyn cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn druenus o annigonol, gan roi beichiau cost mawr ar ein ffermwyr er mwyn iddynt ymaddasu i'r newidiadau hyn. Er gwaethaf sicrwydd—. Ar ddim llai na rhwng saith a 10 achlysur, sicrhawyd y ffermwyr gan y...
James Evans: Roedd y ganran a bleidleisiodd yn etholiad diweddar y Senedd yn isel, 47 y cant ledled Cymru. Ceir dryswch cyffredinol o hyd ynglŷn â pha bwerau y mae gan y Senedd reolaeth drostynt ar hyn o bryd, ac mae angen gwneud gwaith helaeth i gael pobl i ymgysylltu â'r broses sydd gennym yma a'r gwaith a wnawn i wella bywydau pobl Cymru. Mae hon yn her nid yn unig i ni yma, ond i Lywodraethau...
James Evans: Diolch, Lywydd. Fe geisiaf fod mor gryno ag y gallaf. Mae'n wych cael cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Fel Cymro balch, mae chwaraeon yn chwarae rhan enfawr yn fy mywyd, ac fel cenedl ac o'n llwyddiannau yn y gorffennol, fe obeithiwn—croesi bysedd—am lwyddiannau yn y dyfodol. Ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, rydym yn dwli ar chwaraeon, o'n clybiau criced cymunedol, clybiau rygbi a...
James Evans: Cyn imi ddechrau, nid wyf yn derbyn unrhyw bregeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ail gartrefi pan fo gan rai ohonynt gartrefi yn Ffrainc, ac rwy'n credu bod gan y Democrat Rhyddfrydol yma ddau gartref hyd yn oed, ond dyna ni; gadawaf hynny yno. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae tai'n agos iawn at fy nghalon, a gan fy mod yn aelod cabinet llywodraeth leol dros dai, gwn yn iawn am y problemau y...
James Evans: Gweinidog, gyda'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd wrth inni ddechrau dod allan o bandemig y coronafeirws, mae goryrru yn dod yn un o'r problemau mwyaf yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad am waith partneriaeth GoSafe ac a ellir darparu mwy o arian i ariannu...
James Evans: Weinidog, mae llawer o bobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn cymudo o’r etholaeth i weithio yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a thu hwnt, a'r unig ffordd y gall y bobl hynny fynd i'w gweithle yw drwy yrru oherwydd bod fy etholaeth mor wledig a'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, cynigiodd Llywodraeth Cymru y syniad o dreth ffordd bosibl, a phe bai’n cael...
James Evans: Diolch, Lywydd. Ac nid oes unrhyw un gyferbyn yn y Blaid Lafur na Phlaid Cymru wedi sôn am bethau cadarnhaol Brexit, ac mae'n drueni. Mae'r Gweinidog yn sôn am danseilio democratiaeth. Nid wyf am gymryd unrhyw bregethau gan Lafur ynglŷn â thanseilio democratiaeth, oherwydd dyna mae eich plaid wedi bod yn ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf. Bum mlynedd yn ôl i heddiw, heriodd pobl Cymru...
James Evans: —bwerau newydd eang wedi'u trosglwyddo o'r UE ac rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn credu mai'r rhai a etholir yma yng Nghymru yw'r rhai gorau i benderfynu ar y rheini ar ran y Cymry. Dyna y mae Plaid Cymru am ei gael, felly gobeithio eich bod yn cefnogi hynny. O amaethyddiaeth i chwaraeon i ansawdd aer, o reoli perygl llifogydd i goedwigaeth, mae gan Lywodraeth Cymru arfogaeth bellach i...
James Evans: Iawn, fe ddof i ben yn awr, Lywydd. Felly, gadewch inni wneud y gorau o'r bleidlais hanesyddol hon—
James Evans: —ac adeiladu Cymru—. Gadewch inni adeiladu Cymru y mae pobl ein gwlad yn ei haeddu: Cymru fyd-eang, Cymru gref a ffyniannus, Cymru mewn Prydain gref, fyd-eang, Cymru sy'n cyflawni blaenoriaethau'r bobl. Diolch, Lywydd.
James Evans: Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am godi'r pwnc pwysig hwn heddiw yn y Siambr. Y clafr yw un o'r problemau iechyd mwyaf sy'n wynebu ffermydd defaid yn fy etholaeth. Fel ffermwr fy hun, rwyf wedi chwistrellu ivermectin i mewn i ddefaid ac rwyf hefyd wedi dipio. Rwyf hefyd wedi cael pigiad ivermectin yn fy mys fy hun. Felly, gwn yn union beth sydd ei angen i drin y clafr yn gyflym....
James Evans: Aeth wythnos arall heibio, mae ein heconomi ni dan bwysau, mae rhestrau aros y GIG dan bwysau, mae ein sector addysg ni dan bwysau, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn awyddus i wastraffu amser hanfodol yn siarad am ddiwygio pellach i'r undeb. Mae'n ddrwg gennyf i, ond mae gan fy etholwyr i, y Senedd hon a Llywodraeth Cymru faterion llawer pwysicach i ymdrin â nhw. Dros y...
James Evans: Mae diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed a ledled Cymru, o'r pwys mwyaf i'n hamcanion hirdymor i wella'r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r pleidiau ar draws y Senedd hon yn cytuno bod yn rhaid i ni wrthdroi colli bioamrywiaeth, a gweithio i sicrhau ein bod ar flaen y gad yn fyd-eang yn creu amgylchedd ffyniannus ar...
James Evans: Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon, ni fyddaf yn mynd dros yr amser, fel y gwneuthum y tro diwethaf inni gael dadl, a dyrannaf funud o fy amser i Laura Anne Jones, Peter Fox a Mabon ap Gwynfor. Mae'r Aelodau yn y Siambr a'r rhai sy'n gwylio o bell yn anghytuno ynglŷn â llawer o bethau. Y tro hwn, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar rywbeth y credaf y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch—yr angen mawr i...
James Evans: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi datblygu economaidd yng nghanolbarth Cymru?