Joel James: Diolch, Llywydd, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich ailethol ac, yn yr un modd, i'r Prif Weinidog. Prif Weinidog, y llynedd, cafodd Stryd Fawr Treorci ei henwi yr orau yn y DU a chafodd ei chanmol am ei siopau annibynnol a'i hysbryd cymunedol. Fodd bynnag, mae'n peri siom nad yw'r llwyddiant hwnnw wedi'i wasgaru'n gyfartal ar draws Canol De Cymru. Yn ddiweddar, cafodd...
Joel James: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae'r Gymraeg wedi'i chwarae yn natblygiad Caerdydd fel prifddinas Cymru? OQ56567
Joel James: Prif Weinidog, nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd ei dargedau ar gyfer cyd-astudiaethau tai a'r tir sydd ar gael am nifer o flynyddoedd, ac, o ganlyniad, mae hyn wedi arwain at gyflwyno llawer o geisiadau hap-fasnachol i'r cyngor eu hystyried, a llawer o'r rhain yn flaenorol yn cael eu gwrthod ar gyfer eu cynnwys yn ei gynllun datblygu lleol. Ymhlith y ceisiadau...
Joel James: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ym 1936, gadawyd Tŷ'r Cymry gan Lewis Williams, ffermwr o Fro Morgannwg, i siaradwyr Cymraeg Caerdydd. Yn ystod y blynyddoedd mae wedi datblygu i fod yn esiampl ddisglair o gefnogaeth i'r iaith, ond hefyd yn ganolfan ddiwylliannol. Yn anffodus, fel y dangosodd adroddiadau newyddion diweddar, mae dyfodol yr adeilad hwn yn ansicr ac nid yw bellach yn rhan o...
Joel James: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y rôl y mae cyfleusterau meddygol cymunedol wedi'i chwarae yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ56565
Joel James: Diolch i chi, Weinidog. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad i bawb sy'n gweithio yn y maes hwn ac sydd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i helpu i ddiogelu a gwasanaethu eu cymunedau yn ystod y pandemig ofnadwy hwn. Fel yr amlygwyd ddoe yn y Siambr, ac mewn sesiwn friffio ddiweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain, roedd rhai meddygfeydd yng Nghymru mewn...
Joel James: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion ar gyfer ffordd gyswllt Porth Gogledd Cwm Cynon?
Joel James: Weinidog, yn ystod y cyfrif etholiadol ym mis Mai, bu swyddogion cynghorau a gwirfoddolwyr yn gwirio ac yn cyfrif pleidleisiau ar gyfer pleidlais etholaethol y Senedd, pleidlais ranbarthol y Senedd, etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, a phleidleisiau ar gyfer isetholiadau cynghorau a chynghorau cymuned. Yn y dyfodol, nid yw'n afrealistig i ddisgwyl senario lle gallai pob un o'r...
Joel James: Hoffwn achub ar y cyfle i gyfleu fy nghydymdeimlad â'r Prif Weinidog a'i deulu yn ystod y cyfnod hwn. Gweinidog, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae bron i 27 y cant o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew, ac mae hon yn gyfradd sydd 4 y cant yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban. Mae'r pryder iechyd hwn yn waeth mewn ardaloedd o amddifadedd uwch, lle mae plant yn llawer mwy tebygol o fod yn...
Joel James: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr effaith y bydd yr adolygiad o adeiladu ffyrdd yng Nghymru yn ei chael ar economi Cymru?
Joel James: Weinidog, mae'r sgwrs ynghylch deallusrwydd artiffisial yn aml wedi canolbwyntio ar ei effaith ar y gweithlu a sut y gall arwain at lai o swyddi. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod dros 96 y cant o'r holl weithgynhyrchu yng Nghymru yn dod o fentrau busnes bach, ac rydym ni fel gwlad ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant o gymharu â chystadleuwyr ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Mae technoleg...
Joel James: 2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut y mae rhaglen Cymru-Affrica wedi cryfhau masnach ag Affrica? OQ56759
Joel James: Diolch, Gweinidog. Fel y byddwch yn gwybod, Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf erioed yn 2008, ac, ers 2015, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy raglen Cymru ac Affrica i Masnach Deg Cymru hyrwyddo sefydliadau i ddod yn bartneriaid masnach deg a darparu allgymorth addysgol ar fanteision masnach deg. Mae Masnach Deg Cymru yn adrodd ar hyn o bryd eu bod yn gweithio gyda dim ond...
Joel James: Diolch, Gweinidog, am roi'r cyfle i ni ymdrin â'r gwelliannau i'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg, deddfwriaeth sy'n addo cael effaith sylweddol ar addysg yng Nghymru. Er bod y trafodaethau cychwynnol ar y Ddeddf hon yn rhagflaenu fy etholiad i, rwyf i ar ddeall, yn dilyn—[Anghlywadwy.]
Joel James: Iawn. Yr unig beth yw, oni bai ei fod trwy'r meicroffon, ni fyddaf yn gallu clywed yr hyn y byddwch chi'n ei ddweud. Beth bynnag, a ddylwn i ddechrau o'r dechrau?
Joel James: Gallaf, gallaf eich clywed chi nawr—perffaith. Iawn, diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am roi cyfle i ni roi sylw i'r gwelliannau i'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg, deddfwriaeth sy'n addo cael effaith sylweddol ar addysg yng Nghymru. Er bod trafodaethau cychwynnol ar y Ddeddf hon yn rhagflaenu fy etholiad, rwyf i ar ddeall, yn dilyn ymgynghoriad cynnar...
Joel James: 2. Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio technoleg arloesol i wella ansawdd aer yng Nghymru? OQ56760
Joel James: Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Bws Caerdydd a Stagecoach eu bod yn ôl-osod 49 o’u bysiau sy'n creu fwyaf o lygredd gyda thechnoleg glanhau egsôst er mwyn lleihau eu hallyriadau nitrogen ocsid 97 y cant, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn Lloegr, maent bellach gam ar y blaen ac wedi dechrau cyflwyno dyfeisiau hidlo aer a all dynnu cymaint â 65g o...
Joel James: Yn y cynllun adnewyddu a diwygio, dyrannwyd £5 miliwn i gefnogi gweithgareddau'r Haf o Hwyl, wedi'i anelu at iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, i'w cymell i wneud gweithgarwch corfforol a chymdeithasu. Mae hon yn agwedd arbennig o bwysig ar y cynllun adnewyddu a diwygio gan ei fod yn mynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â gordewdra a sut y mae'n cyfrannu at ddiffyg hunanhyder...
Joel James: Eleni, dathlodd eglwys Sant Edward Gyffeswr yn y Rhath ganmlwyddiant ei hadeiladu yn 1921. Adeiladwyd yr eglwys yn wreiddiol yn 1915, ond fe'i dinistriwyd gan dân yn 1919, ac roedd ei hailadeiladu yn 1921 yn ffynhonnell o obaith i'r gymuned yn dilyn erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf a'r dinistr a achoswyd gan bandemig ffliw Sbaen. Gan mlynedd yn ddiweddarach, fel yn 1921, mae'r byd ynghanol...