Peredur Owen Griffiths: Yn gyntaf, buaswn i'n licio diolch yn fawr i chi i gyd am y cyfle i siarad prynhawn yma, a llongyfarchiadau yn wir i'r Aelodau i gyd am gael eu hethol. Buaswn i hefyd yn licio diolch i'm hetholwyr am ddangos eu ffydd ynof fi i'w cynrychioli nhw fel Aelod rhanbarthol.
Peredur Owen Griffiths: Mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi gwerthfawrogiad o'r newydd ynom ni o'n mannau gwyrdd, pwysigrwydd a harddwch Cymru a'r awyr agored yng Nghymru, a'r angen am adferiad gwyrdd. Fodd bynnag, fis Mehefin diwethaf, pan welsom fannau gwerthu bwyd brys drwy ffenest y car yn ailagor, cafodd ein mannau gwyrdd eu difetha gan sbwriel. Mae taflu sbwriel yn broblem hollbresennol ledled Cymru, yn...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad.
Peredur Owen Griffiths: Mae'n bwysig bod pobl sy'n dymuno gwneud cais ar gyfer y cynllun hwn yn cael cynnig cymaint o gymorth â phosibl, ac, fel sydd wedi'i grybwyll eisoes, mae'r dyddiad cau'n prysur agosáu ddiwedd y mis hwn. Yn y Senedd ddiwethaf, ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Lywodraeth Cymru gyda'u hargymhellion. Eu hargymhellion oedd i Lywodraeth Cymru ailadrodd ei...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. Hoffwn i hefyd ategu fy niolch i'r arwyr sydd gennym ni yn ddi-glod, sef yr arwyr di-dâl ledled Cymru sy'n gofalu am ein hanwyliaid bob dydd.
Peredur Owen Griffiths: Mae ymchwil gan Ofalwyr Cymru yn dangos bod gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am aelodau o'r teulu neu ffrindiau anabl, sâl neu oedrannus wedi arbed £33 miliwn i Lywodraeth Cymru bob dydd ers dechrau pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw'r ddarpariaeth o £3 miliwn yn ystod 2021-22 i gyd—wedi ei rhannu'n ddau gam, gyda cham cyntaf o £1.75 miliwn wedi ei rannu ymhellach rhwng 22...
Peredur Owen Griffiths: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfer gwasanaethau iechyd yn ne-ddwyrain Cymru yn sgil pandemig COVID-19?
Peredur Owen Griffiths: Mae Heddlu Gwent yn cwmpasu rhanbarth Dwyrain De Cymru yr wyf i'n ei chynrychioli. Yn y blynyddoedd diwethaf, nhw oedd yr unig heddlu i gofnodi cynnydd i ddamweiniau traffig ar y ffyrdd. Mae edrych yn fanylach ar y ffigurau hyn yn dangos bod digwyddiadau lle cafodd rhywun ei anafu yn ddifrifol wedi mwy na dyblu o 82 yn 2015 i 179 yn 2019. Rwyf i wedi bod yn rhan o ymgyrch lleihau cyflymder ar...
Peredur Owen Griffiths: Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi clywed lot am yr argyfwng tai yng Nghymru a'r ffocws gan y cyfryngau yn benodol ar effaith ail gartrefi mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae pwysigrwydd y mater hwn yn amlwg, ond rhaid mynd i'r afael â'r broblem ehangach sydd gennym yng Nghymru.
Peredur Owen Griffiths: Er nad oes cymaint o gartrefi gwyliau yn Nwyrain De Cymru ag sydd mewn rhannau eraill o'r wlad, mae craidd y mater yma yr un fath: ni all pobl fforddio prynu cartrefi yn y lle maent yn ei ystyried yn gartref. Mae prisiau eiddo a chyflogau cyfartalog yn codi, ond pan fydd y cyntaf yn codi'n gyflymach na'r ail, mae gennym broblem. Ni all pobl leol fforddio tai yn eu cymdogaethau. Nid yw'r...
Peredur Owen Griffiths: —gan ddiffyg ewyllys wleidyddol, sut y caiff Llywodraeth ei barnu os byddant yn methu gweithredu yn wyneb argyfwng tai? Diolch.
Peredur Owen Griffiths: Heb os, mae COVID wedi cael effaith sylweddol ar gyllid cyhoeddus ac nid yw awdurdodau lleol wedi bod yn eithriad. Mae'r ffordd y mae'r sector cyhoeddus wedi dod at ei gilydd ac wedi darparu adnoddau i helpu gyda’r frwydr yn erbyn y pandemig wedi bod yn ysbrydoledig. Rwy'n ymwybodol hefyd nad yw rhai cynghorau yng Nghymru wedi gallu gwario peth o'u cyllidebau gan fod gweithgarwch wedi'i...
Peredur Owen Griffiths: 6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i fusnesau y mae ymbellhau cymdeithasol wedi effeithio arnynt yn ystod y pandemig? OQ56712
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o fusnesau wedi ailagor yn dilyn y cyfyngiadau symud diwethaf. Maen nhw wedi gwneud hynny gyda llai o gapasiti. Mae hyn yn ddieithriad yn golygu llai o incwm. Rwyf wedi cael sylwadau gan stiwdio ioga yn Nwyrain De Cymru sydd wedi ailagor yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, ond dim ond traean o'u cleientiaid arferol maen nhw'n gallu eu croesawu drwy'r drws....
Peredur Owen Griffiths: 2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder? OQ56703
Peredur Owen Griffiths: Diolch. Un o'r pethau rhyfeddaf am ein trefniant datganoli yw bod bron i 40 y cant o gyfanswm y cyllid ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru yn dod o Gymru, er nad oes gennym reolaeth yn y maes polisi hwn. Os goddefir yr ymadrodd, mae fel cael y gwaethaf o'r ddau fyd. Fel y dywedodd adroddiad 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru', 'Dylai cyfiawnder fod wrth wraidd y llywodraeth.' A all y Cwnsler...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr i Gareth Davies, o Ddyffryn Clwyd, lle ces i fy ngeni, am gyflwyno'r cynnig yma.
Peredur Owen Griffiths: Hoffwn siarad i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd. Fi yw llefarydd Plaid Cymru ar gymunedau a phobl hŷn, ac fel y cyfryw, mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb brwd ynddo. Mae'r cynnig hwn yn amserol o gofio am nifer o benawdau a welsom yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gwelsom ymchwil sy'n dangos bod pobl hŷn yn teimlo fwyfwy eu bod wedi'u gwahanu oddi wrth y...
Peredur Owen Griffiths: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant sydd angen gofal lliniarol yn cael y gofal gorau posibl? OQ56741
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Mae dwy ran i fy nghwestiwn. A all Llywodraeth Cymru amlinellu faint o'r £8.4 miliwn a fuddsoddir yn y sector gofal diwedd oes bob blwyddyn yng Nghymru sy'n mynd tuag at wasanaethau gofal lliniarol pediatrig? Yn ail, mae Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith yn cael llai na 10 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hon yn gyfran sylweddol is nag y mae hosbisau plant yn Lloegr a'r...