Alun Davies: Mae’n rhaid darparu cymorth dysgu arbenigol i bob plentyn y nodwyd bod ganddynt angen. Drwy ein rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol cysylltiedig, bydd anghenion dysgwyr yn cael eu nodi’n gynharach a bydd cefnogaeth briodol yn cael ei darparu. Rydym wedi cyhoeddi £20 miliwn o gyllid i gefnogi’r broses o weithredu a chyflwyno’r system newydd.
Alun Davies: Rwy’n credu ein bod i gyd yn cydymdeimlo â phobl sy’n cael eu rhoi yn y sefyllfa honno, a dyna pam rwyf wedi ceisio pwysleisio, drwy gydol y ddadl a’r sgwrs rydym wedi bod yn ei chael ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol, fod y Bil yn rhan o raglen drawsnewid ehangach, ac mai’r rhaglen sy’n gwbl allweddol i lwyddiant y Bil. Mae hynny’n golygu rhaglen gynllunio’r gweithlu sy’n...
Alun Davies: Nid wyf am gamu’n llwyr i mewn i’r enghraifft y mae’r Aelod newydd gyfeirio ati. Os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion am yr enghraifft honno, rwy’n fwy na hapus i’w ateb a rhoi copi o’r ateb hwnnw yn y llyfrgell i’r Aelodau eraill ei weld. Ond a gaf fi ddweud hyn? Yn y dull rydym yn ei fabwysiadu, ni ddylai fod unrhyw leihad na gostyngiad yn y...
Alun Davies: Cynnig.
Alun Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i’n falch fy mod i’n gallu cytuno gydag o leiaf brawddeg olaf Dai. Ond a gaf i ddweud hyn? [Torri ar draws.] A gaf i ddweud hyn? A gaf i ddweud hyn? A gaf i ddweud hyn, wrth ymateb ar ran y Llywodraeth? Pan fyddem ni’n trafod yr iaith Gymraeg fel arfer yn y Siambr yma, rydym ni’n clywed y fath o areithiau glywom ni gan Darren Miller a Simon Thomas, ac...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am ddiogelu fy hawl i siarad—[Torri ar draws.]. Diolch am ddiogelu fy hawl i siarad yn ein Senedd genedlaethol ni. A gaf i ddweud hyn? Rydw i hefyd yn cytuno â’r ffordd mae rhai siaradwyr y prynhawn yma wedi dweud y buaswn i ddim wedi dewis trafod un cynnig i newid un ysgol mewn un gymuned ar draws Cymru. Mi fuasai’n well gen i gael trafodaeth amboutu...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gan waith ieuenctid o ansawdd uchel swyddogaeth hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi llawer o bobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial. Mae gweithwyr ieuenctid yn addysgwyr, pa un a yw hyn yn digwydd mewn clwb ieuenctid cymunedol, ar y strydoedd, neu i gefnogi addysg ffurfiol mewn ysgolion. Mae arferion gwaith ieuenctid yn golygu bod pobl ifanc yn gallu cael...
Alun Davies: Wrth symud ymlaen, byddwn yn disgwyl i'r bwrdd gynghori ar weithredu a monitro 'Ymestyn Hawliau' yn briodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i'w cael. Rhan o swyddogaeth y bwrdd fydd rhoi sicrwydd bod y prosesau a'r arferion ar gyfer comisiynu gwasanaethau cymorth ieuenctid yn deg, yn dryloyw ac yn gyfiawn. Bydd hyn yn cynnwys...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, rwy’n credu bod Llyr wedi dod i galon y drafodaeth yma yng nghalon ei gwestiynau a’i gyfraniad hynod o bwysig. ‘Pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid?’ oedd y cwestiwn y gofynnoch chi, wrth gwrs, a dyna’r cwestiwn rydw i’n trio ei ateb yng nghraidd y datganiad yma: pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid? Mae’n bwysig nad yw gwaith ieuenctid yn cael ei yrru yn uniongyrchol...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar iawn am groeso cyffredinol llefarydd y Ceidwadwyr i benodiad Margaret Jervis a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddefnyddio. Gallaf yn sicr gadarnhau y bydd hi nid yn unig yn troi at bleidiau gwleidyddol, ond rhanddeiliaid ar draws wyneb y wlad ac ar draws gwahanol rannau o'r gymuned. Felly, byddwn yn sicr yn disgwyl ac yn rhagweld y bydd hi’n croesawu cyfraniadau gan bob...
Alun Davies: Rwy'n credu y byddai’r Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn awyddus i longyfarch a diolch i Lynne am y ffordd y mae nid yn unig wedi arwain yr ymchwiliad i waith ieuenctid, ond hefyd nad yw wedi rhoi'r gorau i’w arwain ar ôl i’r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad. Yn sicr, fel Gweinidog, byddwn yn dweud ei bod yn heriol eistedd yn ymyl Cadeirydd pwyllgor sydd ag ymrwymiad mor gryf i'r...
Alun Davies: Mae’r Aelod yn disgrifio rhai o'r problemau sy'n wynebu gwaith ieuenctid a gwasanaethau gwaith ieuenctid o ran sefyllfa gyffredinol cyllid llywodraeth leol ac adnoddau llywodraeth leol. Mae hynny'n cael ei ddeall yn dda ac nid yw'r Llywodraeth yn arswydo nac yn anghytuno â chasgliadau'r pwyllgor ar hyn. Rydym yn deall bod awdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd iawn, yn wynebu rhai...
Alun Davies: Rydych yn gwybod mai 'diwedd y gân yw'r geiniog'. Mae cyllid yn amlwg yn bwysig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi gwneud datganiadau ar ddyfodol Cymunedau yn Gyntaf, ac nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny. O ran 'mentrau iaith', byddant yn rhan allweddol o strategaeth yr iaith Gymraeg yn gyffredinol, sy'n ceisio cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r...
Alun Davies: Fel y bydd yr Aelod yn sylweddoli, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at fy ateb cynharach i Mike Hedges am y sgyrsiau a gynhaliwyd a'r datganiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, felly nid wyf am ychwanegu at hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rydw i ac Ysgrifennydd y Cabinet yn sgwrsio’n rheolaidd am hyn a materion eraill. Rydym yn cyfarfod yn...
Alun Davies: Ydw, rwy’n ailadrodd yr ymrwymiadau a wnes o flaen y pwyllgor, a byddaf yn fwy na pharod i ddod i’r pwyllgor eto, ar ei gais, er mwyn parhau â’r sgwrs hon ac amlinellu ymhellach sut y byddem yn disgwyl ac yn rhagweld i’r maes polisi hwn ddatblygu dros y cyfnod nesaf. Rwy'n hynod bryderus—. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed gan Julie Morgan am waith ieuenctid yn hytrach na...
Alun Davies: Rwy'n credu mai ehangu’r cwestiwn oedd y peth gorau i'w wneud, mewn gwirionedd, Hefin. [Chwerthin.] O ran canolfannau ieuenctid unigol, ni fyddai'r Aelod yn disgwyl i mi roi unrhyw ymrwymiadau na allaf eu rhoi ar gyfer ariannu sefydliadau. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae gennym dirwedd sy'n newid, fel y dywedodd yr Aelod, ac fe wnes i fwynhau’r ymweliad pan ymunais ag ef yn SYDIC yr...
Alun Davies: Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed yn bwysig iawn. Drwy Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, mae pob dysgwr yn cael cynnig o leiaf tri chymhwyster galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4 mewn cynigion cwricwlwm lleol.
Alun Davies: A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr â’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn? Mae’n bwysig fod gan bob dysgwr fynediad at gwricwlwm sy’n gweddu orau i’w llwybrau dysgu unigol ac sy’n bodloni eu hystod eang o ddiddordebau a galluoedd, a bod parch cydradd rhwng y dewisiadau hynny. Bydd yr Aelodau’n falch o glywed, yn y flwyddyn academaidd hon, fod pob ysgol a choleg...
Alun Davies: Gallaf. Rydym yn amlwg yn croesawu’r gwelliant, ond rydym hefyd yn teimlo’n rhwystredig gan ein bod yn awyddus i symud ymhellach ac yn gyflymach. Mae’r sgyrsiau rwyf wedi’u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn canolbwyntio ar sut rydym yn sicrhau bod y bwlch cyrhaeddiad yn cau, a sut rydym yn sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael y gefnogaeth briodol...
Alun Davies: Mae’r rhaglen brentisiaethau iau, a weithredir ar y cyd â Choleg Caerdydd a’r Fro, yn astudio llwybrau allweddol megis adeiladu, modurol, ac yn paratoi dysgwyr i gamu ymlaen yn uniongyrchol i raglenni prentisiaeth llawn pan fyddant yn eu cwblhau yn 16 oed.