David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd. A, gan ein bod i gyd yn ymwybodol o'r rhesymau pam y cafodd ei hatal dros dro yr wythnos diwethaf, a gawn gynnig ein cydymdeimlad â theuluoedd y rhai a laddwyd, ein dymuniadau gorau i'r rhai a anafwyd a'u teuluoedd, a’n diolch i'r gwasanaethau diogelwch a’r gwasanaethau brys am weithredu’n gyflym ac yn effeithlon. Mae ein meddyliau gyda nhw i gyd. Dirprwy...
David Rees: Diolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Dirprwy Lywydd, last week Simon Thomas focused upon funding and powers, and highlighted the concerns of repatriation and the consequences that if we do get them repatriated, we won’t get the funding that goes with it. And I think that’s a crucial element that we need to make sure that...
David Rees: Yn fyr iawn. Does gen i ddim llawer o amser.
David Rees: Wel, mae'n ddrwg gen i nad yw'n deall yr agweddau economaidd a'r manteision y mae'n eu rhoi i ni, ond dyna ni—efallai mai dyna UKIP. Tynnodd Mark Drakeford sylw at faterion y trafodaethau dwyochrog, ac mae pwysigrwydd llais Cymru yn y trafodaethau hynny yn hollbwysig. Dyna pam y gwnaethom ei godi, Ysgrifennydd y Cabinet, a dyna pam yr wyf yn falch iawn o glywed eich bod yn dal i gredu ei...
David Rees: Prif Weinidog, fel y nodwyd, mae tasglu’r Cymoedd yn ystyried meysydd trafnidiaeth yr ydych chi wedi eu nodi, ac, wrth gwrs, ceir Cymoedd i'r gorllewin nad ydynt yn cael eu cynnwys hyd yn oed yn agweddau’r metro. Rwy'n falch iawn o groesawu bod y tasglu yn edrych ar yr holl Gymoedd, gan gynnwys y rhai yn y gorllewin, gan gynnwys cwm Afan, a gwn y bu cyfarfod yn yr ardal honno. Ond mae...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mark?
David Rees: Rwy’n diolch ichi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi felly yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru i ddangos sut mae wedi cael ei gynnwys yn yr ystyriaethau ar gyfer y trafodaethau?
David Rees: Mae cyd-Aelodau eisoes wedi tynnu sylw y prynhawn yma at y ffaith bod Llywodraeth y DU, ar ôl llawer o gerdded drwy'r tywyllwch, wedi, o’r diwedd, cyrraedd pwynt lle mae nawr yn dechrau gwneud rhywbeth ynglŷn â chanlyniadau'r refferendwm ar 23 Mehefin. Fodd bynnag, fel y gwyddom i gyd, dim ond un peth a ddywedodd y refferendwm hwnnw: bod yn rhaid inni adael sefydliadau'r UE. Nid oedd yn...
David Rees: Rwy'n derbyn y pwynt hwnnw, ond pan ofynnais am gael ymyrryd ar y pwynt a gododd ar y dechrau, ni wnaeth adael imi wneud hynny. Felly, cymerais y cyfle nawr i ddweud wrtho beth yr wyf yn ei feddwl am y peth—yn eithaf clir. Nawr, rydym yn deall bod risgiau. Mae risgiau oherwydd ein bod yn gadael. Mae'n rhaid inni ymdrin â'r risgiau hynny yn y trafodaethau sydd i ddod, ac rwy’n credu’n...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych chi’n cytuno bod yn rhaid i ganlyniad terfynol unrhyw drafodaethau gael ei roi gerbron y cyngor, sef penaethiaid pob gwladwriaeth—gwleidyddion; bod yn rhaid ei roi gerbron Aelodau Senedd y DU—gwleidyddion—
David Rees: [Yn parhau.]—a hefyd gerbron Llywodraeth y DU—gwleidyddion? Felly, mewn gwirionedd, gwleidyddion a fydd yn gwneud y penderfyniad, nid yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud.
David Rees: Dydw i ddim yn meddwl.
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, fel prosiectau ym Mhort Talbot, wedi adfywio rhannau o fy nhref, ac rydych wedi gweld rhywfaint o’r gwaith yn ardal y Parc Gwyrdd drosoch eich hun. Mae’r rhain wedi bod yn weledigaeth atyniadol i’r bobl leol ac i fuddsoddwyr yn y dyfodol. Byddai’r cyhoeddiad a wnaed gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder bythefnos yn ôl ynglŷn â...
David Rees: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch lleoli carchar newydd ym Maglan?
David Rees: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud i ddenu buddsoddiad i'r ardal fenter ym Mhort Talbot? OAQ(5)0571(FM)
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, sefydlwyd yr ardal fenter ym Mhort Talbot oherwydd y bygythiad gwirioneddol o gau'r gwaith dur yn dilyn penderfyniad gwreiddiol Tata i werthu ei weithrediadau yn y DU. Nid yw’r bygythiad hwnnw yn pylu, ac mae'n bwysig nawr ein bod ni’n amrywio ein diwydiant gweithgynhyrchu a diwydiannau eraill ym Mhort Talbot. Fodd bynnag, credir...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cynllun buddsoddi sydd gennych yn Llywodraeth Cymru yn enfawr, ond dylid defnyddio caffael fel arf i gefnogi busnesau Cymru, yn enwedig yn fy ardal i gyda’r diwydiant dur. Beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud, mewn gwirionedd, i gefnogi’r diwydiannau hynny drwy gaffael, a pha strategaethau rydych yn eu rhoi ar waith yn hynny o beth?
David Rees: Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn tynnu sylw at yr ystadegau ar danau glaswellt ledled Cymru a'r gostyngiad a welsom. Newyddion da iawn oedd hynny, ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach cafwyd tân glaswellt enfawr yn fy etholaeth i, a dinistriwyd llawer o ardaloedd Mynydd Dinas. A wnewch chi hefyd ymuno â mi i ddiolch...
David Rees: 4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cryfderau addysg alwedigaethol ymysg pobl ifanc 14-16 oed? OAQ(5)0125(EDU)