Mohammad Asghar: 2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu targedau ailgylchu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0663(FM)
Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond mae 'llwyddiannus' yn dod i hyn: bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fod ei Llywodraeth wedi gosod targed i awdurdodau lleol ailgylchu 58 y cant o wastraff erbyn 2016. Ym mis Ebrill, adroddwyd bod tri chyngor—Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen—i gyd wedi methu eu targed, ond y byddent yn osgoi cael eu dirwyo hefyd. A oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar sefydlu tîm criced Cymru? Mae'n stori tylwyth teg a ddigwyddodd y penwythnos diwethaf. Ddydd Sul, enillodd dîm criced Pacistan, a oedd y tîm criced yn y safle isaf yn y byd, gwpan y byd ac roedd cryn dalentau. Daeth y bechgyn o ran anghysbell o'r wlad; nid oedd neb wedi...
Mohammad Asghar: 4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella’r gwaith o hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid? OAQ(5)0177(EI)
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer marchnata Cymru’n effeithiol fel cyrchfan i dwristiaid. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dweud nad yw’r gyllideb farchnata bresennol o £10 miliwn ar gyfer Croeso Cymru yn ddigonol i wireddu potensial y diwydiant yng Nghymru. Mae’r gyllideb ar gyfer Visit Scotland, er...
Mohammad Asghar: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi practisau meddygon teulu yng Nghymru?
Mohammad Asghar: 8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella bywydau pobl yng Nghymru sy'n byw gydag anableddau? OAQ(5)0680(FM)
Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Dywedodd adroddiad diweddar gan Estyn y dylai colegau wneud mwy i baratoi pobl ifanc ag anableddau dysgu ar gyfer byw'n annibynnol. Canfuwyd ganddynt mai dim ond ychydig sy’n gosod nodau realistig i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwaith, a galwyd ar golegau i osod cynlluniau dysgu unigol ac i gynllunio rhaglenni sy'n herio mwy ar...
Mohammad Asghar: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Rwyf wedi bod yn bryderus am y prosiect hwn o'r cychwyn. Bedair blynedd yn ôl, rhoddais yn fy nghylchlythyr lleol i’m hetholwyr, sy'n dangos—bedair blynedd yn ôl, 2013—. Byddaf yn darllen un neu ddau o’m pryderon ynglŷn â’r prosiect hwn: datblygwr yn chwyddo’r ffigur y mae’n ei roi ar nifer y swyddi; digwyddiadau amlwg,...
Mohammad Asghar: 4. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i werthuso'r gwaith o weinyddu'r cynllun Glastir yng Nghymru? OAQ(5)0152(ERA)
Mohammad Asghar: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gall oedi mewn perthynas â thaliadau’r cynllun Glastir effeithio’n niweidiol iawn ar gyllid ffermydd. Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, erbyn 9 Mai eleni, roedd 22 y cant o’r hawliadau am waith a wnaed o dan y cynllun Glastir y llynedd yn dal i fod heb eu talu, a bwriad Llywodraeth Cymru oedd talu 90 y cant o’r hawliadau yn unig erbyn diwedd...
Mohammad Asghar: 10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fesurau i fynd i'r afael â llygredd afonydd yng Nghymru? OAQ(5)0153(ERA)
Mohammad Asghar: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o ddyletswyddau Cyfoeth Naturiol Cymru yw monitro iechyd afonydd Cymru a rhoi camau gweithredu ar waith yn erbyn y rhai sy’n eu llygru. Mae ffigurau’n dangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael bron i 6,900 o adroddiadau ynglŷn â llygredd afonydd rhwng 2013 ac 2016. Ymchwiliwyd i oddeutu 60 y cant o’r adroddiadau hyn, ond arweiniodd...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan y byddai llinell gymorth 24 awr newydd ar gyfer cyn-filwyr gwasanaethau’r lluoedd arfog o bob rhan o’r Deyrnas Unedig sy’n dychwelyd i fywyd sifil yn cael ei lleoli yn Nantgarw. Bydd y llinell gymorth hon yn darparu siop un stop gan gynnig canllawiau ar dai, cyflogaeth, cyllid ac iechyd meddwl...
Mohammad Asghar: Mae gan Gymru weithlu a chymdeithas sy’n heneiddio. Bydd traean o’r gweithlu dros 55 neu 50 oed yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae’n ffigur trawiadol. Fodd bynnag, mae buddsoddi mewn sgiliau ac addysg i oedolion yn canolbwyntio’n drwm ar oedolion ifanc. Mae hyn wedi bod er anfantais i bobl 25 oed a throsodd. Yn y dyfodol, bydd angen i fusnesau gael gweithlu â sgiliau uwch byth, a bydd...
Mohammad Asghar: Wel, ar ôl Mike Hedges, yn union yr un fath: effeithiau aruthrol llwyddiant ein tîm cenedlaethol—y tîm pêl-droed—wrth gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016 a hyrwyddo Cymru yn y byd. Nawr, rwy’n credu bod criced hefyd yn gamp sy'n cael ei chwarae yn gyffredin ymhlith gwledydd y Gymanwlad, ac mae rhai o'r gwledydd sydd yn llawer llai na Chymru yn cynrychioli ar lwyfan y byd ac yn...
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ar y buddiannau a ddarperir gan ardaloedd menter yng Nghymru? Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai parc modurol newydd yn cael ei greu yng Nglynebwy ac addawodd y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn ar y cynnydd yn hyn o beth. Ym mis Tachwedd 2015,...
Mohammad Asghar: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei wneud o hysbysiadau cosb benodedig? OAQ(5)0148(FLG)
Mohammad Asghar: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, dau hysbysiad cosb benodedig yn unig a roddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a 13 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Fodd bynnag, rhoddwyd 840 o hysbysiadau gan Gyngor Dinas Casnewydd, o gymharu â llai na 300 mewn blynyddoedd blaenorol. Rhoddwyd dros 1,400 o hysbysiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y...
Mohammad Asghar: Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd prosiectau adfywio i wella’r economi ac amodau cymdeithasol yn yr ardal. Mae hyn yn arbennig o wir yn fy rhanbarth sef de-ddwyrain Cymru, sydd â llawer o gymunedau a wynebodd ddegawdau o ddirywiad, yn anffodus. Gall cynlluniau adfywio llwyddiannus, sy’n dod â swyddi a buddsoddiad i ardaloedd sydd wedi dirywio, sicrhau swyddi a manteision eraill a all...