Rhianon Passmore: Hefyd, bûm yn ddigon ffodus i gyfarfod â chynrychiolwyr y Gymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg a’r Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol yn adeilad y Pierhead yn ddiweddar, a diolch i David Melding am gyflwyno’r ddadl hon. Cefais fy nharo gan y pwyntiau a wnaed, a bod achos cryf i’w wneud, gyda phoblogaeth o dros ddwy filiwn a dros 400,000 o blant yn ne Cymru, dros gael gwasanaeth...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r penderfyniad i adeiladu ysbyty newydd â’r dechnoleg ddiweddaraf gwerth £350 miliwn yng Nghwmbrân, o’r enw Ysbyty Athrofaol y Grange? Bydd yn helpu i foderneiddio gwasanaethau iechyd ledled Gwent i’m hetholwyr yn Islwyn hefyd. Dywedodd Judith Paget, prif weithredwr bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, a dyfynnaf, Rydym ni wedi...
Rhianon Passmore: Arweinydd y tŷ, yfory byddaf yn noddi dathliad o ddiwylliant perfformiad cerddorol Cymreig yn y Senedd, gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am ganol dydd yn y Neuadd. Rwy’n gwahodd arweinydd y tŷ, chithau, Llywydd, a'r holl Aelodau i’r achlysur dathlu. Yn ogystal ag amrywiaeth o berfformiadau gan bobl ifanc, prif berfformiwr y digwyddiad fydd un o fawrion y genedl, Bryn Terfel, ac nid...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A ydych chi’n derbyn y bydd wastad angen stoc o dai cymdeithasol, ac a ydych chi’n gwrthwynebu tai cymdeithasol yn ideolegol?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Rhwng 1 Ebrill 1981 a 31 Mawrth 2016, gwerthwyd 139,000 o gartrefi cymdeithasau tai awdurdodau lleol. Dyna 45 y cant. Ni chafwyd rhai newydd yn lle dim o’r rhain.
Rhianon Passmore: Diolch i chi, Llywydd—nid oeddwn i’n sylweddoli fy mod yn mynd i gael fy ngalw. Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cyflwyno Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Yn ystod y misoedd ers hynny, cafwyd agos i gonsensws yn dod i'r amlwg o ran cefnogaeth eang i egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae gormod o sylwebyddion wedi cau eu clustiau i...
Rhianon Passmore: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth yn Islwyn er mwyn cynorthwyo adfywio economaidd? OAQ(5)0199(EI)
Rhianon Passmore: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae tasglu’r Cymoedd wedi mynegi eu dymuniad i ddefnyddio tirwedd naturiol wych Cymru i hyrwyddo ein heconomi. Yn Islwyn, mae gennym daith olygfaol ryfeddol coedwig Cwmcarn, ac mae angen ei hailagor. Mae gennym bwll glo hanesyddol gradd II Navigation, gyda’i adeiladau rhestredig gradd II. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i...
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn?
Rhianon Passmore: 7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru? (OAQ51039)
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Mae Theresia Degener, cadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, wedi ei alw'n 'drychineb dynol', yn dilyn eu hymchwiliad i'r ffordd y mae'r DU yn trin ei dinasyddion anabl. Mae Atos a Capita, y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud yn gyfrifol am gynnal asesiadau taliadau annibynnol personol, wedi ennill dros £0.5 biliwn o arian cyhoeddus ers...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â llawer, gan gynnwys y rhanddeiliaid a nodwyd gan fy nghyd-Aelod Huw Irranca, y byddai Bil Ymadael Ewropeaidd heb ei ddiwygio yn ymosodiad annheg a sylfaenol ar ddatganoli, ac yn ogystal â hyn, y gallai Gweinidogion y DU, ar ôl datganoli, ddeddfu, ac felly ansefydlogi, i bob pwrpas, yr 20 mlynedd o ddatganoli democrataidd, ac, fel Neil Hamilton, ddeall bod...
Rhianon Passmore: Yn ychwanegol at fy natganiad trawsbleidiol, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn y lle hwn ar statws gwasanaethau cymorth i gerddoriaeth ledled Cymru, yr hyn sydd ar gael i ddisgyblion ysgolion Cymru o ran cyfleoedd fforddiadwy i gael hyfforddiant offerynnol a chymryd rhan mewn cerddorfeydd, a'r budd arfaethedig i Gymru o gael strategaeth perfformio cerddoriaeth genedlaethol newydd i Gymru.
Rhianon Passmore: Diolch. Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu'r cynllun gweithredu fel cam cadarnhaol a thrawsnewidiol ymlaen i Gymru, ac mae fy nghwestiwn mewn gwirionedd yn seiliedig ar y ffaith bod gennym y canlyniadau TGAU gorau erioed i Gymru. A ydym ni’n hunanfodlon ar y daith honno wrth symud ymlaen? Ydych chi'n teimlo bod y bwlch cyrhaeddiad yr ydym bellach yn ei gau yn cau'n ddigon cyflym? Ydych chi'n...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, cyhoeddwyd hyrwyddwyr cyn-filwyr a lluoedd arfog byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017. Enwodd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, sy'n gwasanaethu fy etholwyr yn Islwyn, Brian Mawby fel yr hyrwyddwr. Llongyfarchiadau iddo. Pa effaith y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd yr hyrwyddwyr hyn yn ei chael ar sicrhau bod...
Rhianon Passmore: Rwy’n codi i gefnogi’r gwelliannau i’r cynnig a gyflwynwyd gan arweinydd y tŷ, yr Aelod dros Fro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth iechyd gwladol yn un o greadigaethau mwyaf unrhyw Lywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd yn hanes y ddynoliaeth. Mae’n cael ei gydnabod yn fyd-eang fel y model gofal gorau posibl. Rydym ni, ar y meinciau Llafur Cymru hyn, yn clodfori cyflawniadau Llywodraeth...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?