Vikki Howells: 6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog a'u teuluoedd yng Nghymru? OAQ51358
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ymuno ag eraill i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd. Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wobr aur gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am ei ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog. Dyna'r cyngor cyntaf a'r unig gyngor yng Nghymru i wneud hynny hyd yma. A wnewch chi longyfarch Rhondda Cynon Taf, a sut y...
Vikki Howells: 'Nid oes unrhyw un heddiw a fyddai’n amau bod llygredd aer yn ddrwg cymdeithasol ac, o fod yn ddrwg cymdeithasol, y dylid delio ag ef ar unwaith ac yn sylweddol.' Dyna eiriau Gordon Macdonald, cyn-löwr, AS a Llywodraethwr Newfoundland a aned yn Sir y Fflint. Roedd Macdonald yn siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond roedd yn gwneud hynny yn 1955. Fel y dengys ei eiriau, nid yw cydnabod peryglon...
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn wrth fy modd pan glywais yn y gyllideb ddrafft eich bod yn ystyried treth tir gwag. Mae hyn yn broblem go iawn yn fy etholaeth, gyda darnau bach o dir gael eu cadw am ddegawdau yn aml, safleoedd hen gapeli neu neuaddau gweithwyr fel arfer, er enghraifft, gyda chost rhoi camau ar waith yn rhwystr i awdurdodau lleol. Yn ogystal â'r golled economaidd sy'n...
Vikki Howells: Lywydd, ddydd Gwener, 1 Rhagfyr roedd hi'n 75 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Beveridge ar 'Social Insurance and Allied Services'. Cafodd hwn ei gomisiynu yn ystod yr ail ryfel byd gan bwyllgor atebol i Arthur Greenwood, y Gweinidog ar y pryd a oedd â chyfrifoldeb dros ailadeiladu ar ôl y rhyfel. Roedd ei dasg yn ddeublyg: yn gyntaf, roedd yn anelu at gynnal arolwg o gynlluniau yswiriant...
Vikki Howells: Hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gyhoeddi eich cynllun gweithredu economaidd hir-ddisgwyliedig, ac o weld y ffordd y mae'n drawsbynciol ar draws pob agwedd ar Lywodraeth, rwy'n credu y bu'n sicr werth aros amdano. Rwy'n croesawu, yn benodol, yr ymrwymiad i ddatblygu strwythurau newydd i gefnogi agweddau sylfaenol allweddol ar economi Cymru. Mae hyn yn...
Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i wella cyfleoedd gwaith i drigolion Cwm Cynon?
Vikki Howells: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog datblygu cysylltiadau cryf rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru? OAQ51466
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd yn ddiddorol iawn darllen y ddwy ddogfen. O fy mhrofiad fy hun, roedd gan yr ysgol y bûm yn dysgu ynddi gysylltiadau cryf iawn gyda Phrifysgol De Cymru, cysylltiadau a oedd yn fuddiol iawn i'n disgyblion. Credaf hefyd fod gan rwydwaith Seren—a grybwyllwyd eisoes—er ei fod yn canolbwyntio ar ein myfyrwyr mwyaf galluog a thalentog, fanteision...
Vikki Howells: Fel y mae'r gwaith pwysig hwn gan y pwyllgor newid hinsawdd yn ein hatgoffa, caiff 15 y cant o Gymru ei gorchuddio gan goedwigaeth. Mae ein coetiroedd yn ecosystem bwysig; yn arf amgylcheddol hollbwysig, yn gyfle ar gyfer hamdden iach ac yn adnodd economaidd gwerthfawr. Mae sut rydym yn eu rheoli yn hanfodol i'r math o Gymru rydym am ei chreu.
Vikki Howells: Croesewais y cyfle i gyfrannu at ddechrau'r ymchwiliad hwn a chymeradwyaf y pwyllgor a'u clercod ar adroddiad defnyddiol iawn. Bwriadaf gyfeirio'r rhan fwyaf o fy sylwadau heddiw at argymhelliad 5 ar y ffordd y gall coetiroedd ein gwasanaethu fel arf effeithiol ar gyfer adfywio ac ar gyfer ymgysylltu â chymunedau lleol. Credaf fod hyn yn allweddol. Mae hefyd yn adleisio elfen bwysig o waith...
Vikki Howells: Rwy'n croesawu natur gynhwysfawr y cynllun cyflawni hwn. Pan fûm i yn sesiwn dystiolaeth y tasglu yn Aberpennar, cafwyd amrywiaeth o syniadau gan bobl leol ynghylch sut y gallwn ni wneud y Cymoedd yn lle gwell byth i fyw a gweithio ynddo. Caiff yr amrywiaeth hwn ei gyfleu yn dda yn y cynllun cyflawni sydd, ochr yn ochr â'r pwyslais disgwyliedig ar welliant economaidd, swyddi a sgiliau, yn...
Vikki Howells: 1. What are the Welsh Government’s priorities for improving public transport links for Cynon Valley residents in 2018? OAQ51518
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn arwain ymgyrch leol yng Nghwm Cynon i wella gwasanaethau ar ddydd Sul. Ac o ganlyniad i’r ymgyrch honno, dyblodd Arriva nifer y gwasanaethau o Aberdâr yn ystod mis Rhagfyr, a chroesawyd y newyddion hwn gan lawer o fy etholwyr, a allodd fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lawer ymhellach i ffwrdd o...
Vikki Howells: Rwy'n siarad heddiw o blaid y gyllideb derfynol a bennwyd gan yr Ysgrifennydd dros Gyllid fis diwethaf. Mae'r gyllideb hon yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae cymunedau ledled Cymru yn dibynnu arnyn nhw. Gwelir y cyflawniad hwn ar wedd sydd hyd yn oed yn fwy rhyfeddol wrth inni ystyried effaith niweidiol polisïau Llywodraeth bresennol...
Vikki Howells: Wel, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth ateb hynny fyddai ein bod ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rydym wedi cael tystiolaeth gan aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n dweud y bydd cael gwared ar y clustnodi hwn mewn gwirionedd yn caniatáu ar gyfer lefelau mwy hyblyg o gymorth. Felly, rwyf i o'r farn fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni...
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar cyfarfûm â Chyngor ar Bopeth yn fy ardal leol i drafod eu gwaith yn ymgyrchu ynglŷn â mesuryddion talu ymlaen llaw. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwbl ymwybodol mai pobl sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yw rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, ac maent yn aml gannoedd o bunnoedd y flwyddyn ar eu colled. Mewn gwirionedd, Rhondda Cynon Taf sydd â'r...
Vikki Howells: Ym 1994, 10 mlynedd ar ôl streic y glowyr, trodd Llywodraeth y DU eu sylw at y pwll dwfn olaf yn ne Cymru. Targed eu fandaliaeth economaidd oedd Pwll Glo'r Tower. Roedd Pwll Glo'r Tower yn Hirwaun yn broffidiol—cafodd ei ganmol gan John Redwood, o bawb, am ei gynhyrchiant. Fodd bynnag, penderfynodd Llywodraeth San Steffan daro ei hergyd derfynol yn erbyn y glowyr a fu unwaith mor...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y strategaeth cynhwysiant ariannol i Gymru? Cefais adroddiad defnyddiol iawn yn ddiweddar gan fy nghanolfan Cyngor ar Bopeth leol am yr effeithiau ar gymuned Aberpennar yn sgil cau banc olaf y dref. Gan fod Aberdâr hefyd wedi gweld yr effaith gyda thri banc mawr yn cau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—gan...
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich sylwadau bod pobl yn ganolog i gyflawni polisi trafnidiaeth. Yn fy etholaeth i, ceir dadl ynghylch pa un a cysylltiadau bws neu trên fyddai’n gwasanaethu un gymuned leol orau o dan unrhyw gynllun metro yn y dyfodol. Pa fecanweithiau a fydd wedi’u cynnwys er mwyn ymgynghori â chymunedau, fel y gellir llunio gwasanaethau i fodloni anghenion a...