Jeremy Miles: Pa rôl y mae’r Prif Weinidog yn rhagweld i dai modiwlar yn y broses o gwrdd ag anghenion Cymru am gartrefi?
Jeremy Miles: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd Castell-nedd yn elwa oherwydd bargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51068)
Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ar ddechrau proses y fargen ddinesig, cafwyd ar ddeall y byddai’r prosiectau sy’n rhan ohoni, sy’n defnyddio arian cyhoeddus ac arian y sector preifat, yn cael eu gwerthuso a’u cymeradwyo ar wahân. Daeth yn amlwg, mewn trafodaethau a gawsom—gyda David Rees, ac eraill yn y rhanbarth—fod y dull hwnnw o weithredu wedi newid ar ryw adeg o...
Jeremy Miles: Nid wyf yn siŵr ar ba lefel o fanylder y gallodd Dai Lloyd ddarllen adroddiad y pwyllgor, ond rwy’n awgrymu y gallai fod yn werth ei ail-ddarllen, gan ei fod yn dangos cydbwysedd llawer tecach o’r materion nag y llwyddodd i’w cyfleu yn ei araith. Mae’r fasnachfraint reilffyrdd yn enghraifft o’r modd y mae datganoli rheilffyrdd yn dioddef trawsnewid poenus: masnachfraint lle y...
Jeremy Miles: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o ran y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â bwlio lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol mewn ysgolion. Rwy'n cydnabod parodrwydd Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod â mi a Hannah Blythyn i drafod y mater hwn. Bydd hi'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan...
Jeremy Miles: Rhaid inni ymrafael â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar sail un egwyddor bwysig—bod popeth nawr ym maes y Gymraeg yn ddarostyngedig i’r egwyddor o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Ac mae’r sialens y mae’r strategaeth newydd yn ei rhoi i bob un ohonom yn drawsnewidiol. Os ydym ni o ddifrif ein bod ni am weld uchelgais y strategaeth yn realiti, bydd yn rhaid i ni gydnabod bod y...
Jeremy Miles: Wel, rwy’n credu ei fod yn bosib i’r comisiwn fod yn ddigon annibynnol i allu darparu’r gwasanaeth hynny i bobl Cymru. Rŷm ni nawr, rwy’n gobeithio, ar drothwy cyfnod o gynnydd yn y Gymraeg ac mae’n rhaid inni sicrhau bod yr offer a’r pwerau a’r adnoddau gyda ni, trwy Fil y Gymraeg, i wireddu hynny.
Jeremy Miles: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio technoleg gynorthwyol ddatblygol mewn gofal cymdeithasol? (OAQ51105)
Jeremy Miles: Diolch i chi am hynny. Mae yna ddatblygiadau newydd, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, mewn technoleg wisgadwy i gefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi; offer i helpu i reoli meddyginiaeth, i helpu i ddefnyddio offer cegin ac i rybuddio gofalwyr; a thechnoleg adnabod llais a datblygiadau eraill. Ceir technoleg robotic hyd yn oed yn Siapan sy’n helpu gyda thasgau corfforol cyffredin yn y cartref....
Jeremy Miles: 6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu argaeledd tai yng Nghymru? (OAQ51172)
Jeremy Miles: Diolchaf iddo am yr ateb yna. Ddoe, ymunais â'r Gweinidog dros sgiliau yn Hale Construction yng Nghastell-nedd yn fy etholaeth i i drafod tai modiwlaidd. Ceir diddordeb cynyddol mewn adeiladu oddi ar y safle i ddiwallu anghenion tai yng Nghymru. Mae'n dod â manteision cynaliadwyedd, gydag effeithlonrwydd ynni, a chyflymder adeiladu. Ceir diddordeb hefyd gan gwmnïau tramor yn enwedig...
Jeremy Miles: A gaf i groesawu’r datganiad gan y Gweinidog a chroesawu’r ffaith ei fod e’n bwriadu derbyn yr argymhellion i gyd oddi wrth Aled Roberts? Gwnaethoch chi sôn yn y datganiad am ba mor bwysig yw e i adnabod y galw. Rŷch chi newydd gydnabod, yn yr ateb diwethaf, pa mor bwysig yw creu galw, hynny yw ysgogi galw newydd efallai lle nad oes galw ar hyn o bryd, neu ddim cymaint ag y gallai...
Jeremy Miles: 8. Beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gefnogi busnesau Cymru i fasnachu â’i gilydd? (OAQ51157)
Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Er y bydd bob amser yn allweddol bwysig i swyddi yng Nghymru fod ein busnesau’n gallu cyflenwi i fusnesau tramor, er mwyn allforio a gwasanaethu cadwyni cyflenwi byd-eang, dylem hefyd, fel y dywedodd yn ei ateb, annog busnesau Cymru i fasnachu â’i gilydd a sicrhau’r gwerth economaidd mwyaf posibl yng Nghymru ac yn ein heconomïau rhanbarthol....
Jeremy Miles: Tybed a fuasai’r Cwnsler Cyffredinol yn derbyn yr honiad hwn fod ystyried datganoli cyfiawnder ac awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol fel cymhwysedd cwbl ar wahân yn wahaniaeth ffug mewn gwirionedd, a’i bod yn well ei ystyried fel rhan o gontinwwm lle y mae’r lle hwn yn deddfu, ac er mwyn iddynt gael eu gweithredu a’u gorfodi’n briodol, mae’n fater o gontinwwm rhwng pasio’r...
Jeremy Miles: A gaf fi adleisio diolch aelodau eraill o’r pwyllgor i dystion a ddaeth i roi tystiolaeth i’r pwyllgor? Roedd yn ymchwiliad diddorol. Rwy’n gobeithio ac yn credu bod ei gasgliadau wedi bod yn ddefnyddiol, ac rwy’n croesawu’r ffordd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed ynddo. Mae bob amser yn dda cael cymryd rhan mewn trafodaeth ar fysiau lle...
Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac rwy’n croesawu ei chyfeiriadau, nad ydynt yn syndod, at bwysigrwydd cau'r bwlch cyrhaeddiad a'r pwyslais ar gofrestru cynnar amhriodol. Oherwydd, i lawer o ddisgyblion, wrth gwrs, y rhai hynny y mae gwella eu perfformiad yn hanfodol i gau'r bwlch cyrhaeddiad, cofrestru’n gynnar yw’r opsiwn cywir. Gall y gallu, yng nghyd-destun cyfle i...
Jeremy Miles: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gefnogi'r sector cydweithredol yn y pumed Cynulliad?
Jeremy Miles: 2. Pa rôl y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhagweld ar gyfer awdurdodau lleol yn y broses o gynhyrchu a dosbarthu ynni yng Nghymru? (OAQ51212)
Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae rôl cynghorau lleol yn cyflenwi ynni wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, yn amrywio o gwmnïau gwasanaethau ynni, neu gwmnïau cyflenwi ynni, i’r rheini sydd â threfniadau cyflenwi llawnach, fel Robin Hood Energy, wrth gwrs, yn Nottingham, sy’n honni bod eu biliau’n llai, cynnydd mewn effeithlonrwydd ynni ac allyriadau...