Lynne Neagle: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru? OAQ51981
Lynne Neagle: Mae adroddiad newydd gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru yn amcangyfrif y gallai fod 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi erbyn 2021 oherwydd diwygiadau lles y Llywodraeth Dorïaidd. O ystyried yr heriau yr ydym yn eu hwynebu o ran mynd i'r afael â thlodi plant a'r pryder mawr a fynegwyd ynghylch y penderfyniad i roi terfyn ar y grant gwisg ysgol yng Nghymru, a...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel mae Aelodau wedi ei ddweud ac fel mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rydym ni bron ar ddiwedd ein hymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu. Mae gennym ni drafodaeth yn ei gylch yfory, a does arnaf i ddim awydd o gwbl achub y blaen ar ganfyddiadau'r Pwyllgor ynghylch hynny, oherwydd byddwn yn gwneud, gobeithio, nifer dda o argymhellion, yr wyf yn siŵr y bydd...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu arian i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus?
Lynne Neagle: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn Nhor-faen? OAQ52040
Lynne Neagle: Diolch. Fel y gwyddoch, ymwelais â gwasanaeth addysg Teithwyr Torfaen yn ysgol Gorllewin Mynwy yn ddiweddar, ac roedd yn wych gweld pa mor dda y mae'r bobl ifanc hynny'n gwneud, sut y maent yn cael cymwysterau da iawn, ac mae rhai ohonynt yn ystyried mynd i'r brifysgol. Fel y gwyddoch hefyd, rwy'n llwyr gefnogi eich ymdrechion i fynd i'r afael â chyflwyno cynnar, ond un o'r materion a...
Lynne Neagle: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant? OAQ52041
Lynne Neagle: Diolch. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, bydd Llywodraeth Cymru yn cael tua £57 miliwn fel rhan o'r ardoll newydd ar ddiodydd meddal, a thestun pryder i mi oedd gweld cyn lleied o'r arian hwnnw a werir ar fesurau i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant, sy'n wahanol iawn i'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yng ngweddill y DU. Gwn fod yna gynlluniau da'n bodoli. Mae'r Pwyllgor...
Lynne Neagle: Y gwir plaen yw, heb ddiwedd ar gyni, mae gwasanaethau cyhoeddus fel y gwyddom amdanynt o dan fygythiad. Mae'n ddealladwy fod hyn yn beth anodd i Lywodraeth Lafur sy'n malio am y gwasanaethau hyn ei wynebu, ond mae esgus y bydd newid nifer y cynghorau yn osgoi'r gwir anodd hwnnw yn gyfystyr â chuddio ein pennau yn y tywod. Hyd yma, ymddengys nad yw'r ddadl wedi mynd y tu hwnt i'r ymateb...
Lynne Neagle: Diolch. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o fy mhryderon ynglŷn â'r posibilrwydd o golli'r grant hwn, ac rwy'n ddiolchgar iddi am ei hymrwymiad ar hyn ac am gyfarfod â mi yn ei gylch ddoe. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ei bod yn ymrwymedig iawn yn bersonol i gefnogi ein disgyblion tlotaf, ond ar y mater hwn, mae arnom angen rhywfaint o eglurder a sicrwydd ar frys. Yn y pum...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru 2015 - 2020?
Lynne Neagle: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cefnffyrdd yn Nwyrain De Cymru? OAQ52110
Lynne Neagle: Diolch. Mae'r newidiadau diweddar i gylchfan Rechem yr A4042 ym Mhont-y-pŵl wedi achosi tarfu enfawr i drigolion lleol a chymudwyr, ac rwyf i wedi derbyn nifer fawr iawn o ohebiaeth gan etholwyr ynghylch yr oediadau mawr yn ogystal ag ofnau ynghylch diogelwch y ffordd. Rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion Llywodraeth Cymru am gytuno i gyfarfod â mi yn ddiweddarach y prynhawn yma i drafod...
Lynne Neagle: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r rhai sy'n gadael gofal? OAQ52156
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn, er gwaethaf heriau cyni cyllidol, mai cyngor Torfaen oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor tan neu bod yn 21 oed, neu'n 25 oed o dan rai amgylchiadau. Fel y byddwch yn gwybod, dilynwyd y penderfyniad hwnnw gan chwe awdurdod lleol arall. Bydd yr eithriad hwn yn cynnig cyfle hollbwysig i'r...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n croesawu hefyd eich bod yn cydnabod bod yr adroddiad yn amlinellu'r amrywiaeth o ddiffygion a arweiniodd at achosi niwed gwirioneddol. Mae gennyf ambell bwynt penodol yr hoffwn i holi yn eu cylch mewn cysylltiad â'r adroddiad. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r pryderon a grybwyllwyd ynglŷn â'r driniaeth y mae pobl yn ei...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad pwysig hwn. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, yn ddiweddar mae'r Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg wedi cyhoeddi ein hadroddiad i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac mae nifer o themâu sy'n codi yn ein hymchwiliad eang yn cyd-fynd â chanfyddiadau allweddol y panel o arbenigwyr. Yn gyntaf, bod y dull ysgol gyfan yn...
Lynne Neagle: Hoffwn innau hefyd roi croeso cynnes iawn i'r datganiad hwn heddiw. Mae'n gyffrous iawn gweld y cynnydd sydd wedi'i wneud a graddau'r cynigion a fydd yn galluogi ein pobl ifanc i gael llais go iawn yn y senedd ieuenctid newydd hon. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd a'i thîm am eu holl waith, oherwydd gwn fod maint y logisteg yn hyn wedi bod yn heriol iawn, ond hefyd diolch i'r bobl ifanc ar hyd a...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar elfennau allgymorth y rhaglen Dechrau'n Deg. Cyflwynwyd Dechrau'n Deg 11 mlynedd yn ôl ac fe'i hystyrir yn un o raglenni blynyddoedd cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru. Caiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol mewn ardaloedd daearyddol diffiniedig ac fe'i hystyrir...
Lynne Neagle: Yn 2014, cyflwynwyd trefniadau allgymorth mewn ymateb i bryderon fod seilio hawl i wasanaeth ar god post teulu yn arwain at allgáu llawer o'r plant a oedd fwyaf o angen cymorth. Crëwyd elfen allgymorth y rhaglen i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu pedair elfen graidd Dechrau'n Deg i ganran fach o'u poblogaeth sy'n byw y tu allan i ardaloedd dynodedig Dechrau'n Deg. Dewisom gynnal...