Jack Sargeant: Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, mae trigolion wedi cysylltu â mi ynglŷn ag aelodau o'u teuluoedd sydd wedi dal coronafeirws tra yn yr ysbyty. Fel y gallwch ddychmygu, maent yn ddig ac yn ofnus iawn, a hynny'n gwbl briodol. Nawr, Brif Weinidog, mae hyn wedi digwydd mwy yng ngogledd Cymru nag yn unman arall, ac mae angen i bobl wybod eu bod yn ddiogel pan fyddant yn mynd i'r ysbyty. A wnewch...
Jack Sargeant: Gweinidog, mae gweithredoedd o gaethwasiaeth fodern yn dod yn realiti brawychus i lawer ac mae'r drosedd hon yn aml yn anodd iawn ei hadnabod. Un cwestiwn syml sydd gen i: mae gan y Swyddfa Gartref ran wirioneddol i'w chwarae yn hyn, ond beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i atal hyn rhag bod yn drosedd gudd?
Jack Sargeant: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn grymuso cynghorau tref yn y gogledd-ddwyrain? OQ55479
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae cynghorau tref a chymuned yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi eu cymunedau, a dylai'r Llywodraeth wneud popeth yn ei gallu i'w grymuso. Enghraifft arbennig o dda o'r gwaith gwych hwn yw'r gwaith a wneir gan Gyngor Cymuned Pen-y-Ffordd yn fy etholaeth i. Mae'r cyngor yn awyddus iawn i sicrhau bod llais eu cymuned yn cael ei glywed yn y gwaith o...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd. Ddydd Iau diwethaf, 10 Medi, roedd hi’n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Mae hunanladdiad yn cael effaith niweidiol aruthrol ar deuluoedd ac ar gymunedau, effaith sy'n para am oes. Mae'r ffeithiau am hunanladdiad yn llwm: yn 2018, bu farw 6,507 o bobl yn y DU o ganlyniad i hunanladdiad, gyda dynion deirgwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad na menywod....
Jack Sargeant: Os gallaf i ddechrau drwy gofnodi fy nghefnogaeth i gyfraniad fy nghyd-Aelod Nick Ramsay, o ran atal hunanladdiad ac iechyd meddwl. Yn ail, Gweinidog, mae'r adferiad economaidd o goronafeirws yn rhywbeth y mae angen i ni ddechrau cynllunio ar ei gyfer a mynd i'r afael ag ef nawr. Efallai bod Aelodau'n ymwybodol i mi ysgrifennu darn ar wefan Labourlist ddechrau'r haf er mwyn i hynny fod yn...
Jack Sargeant: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon ar lawr gwlad i'w helpu i gysylltu â chymunedau? OQ55542
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae un o fy etholwyr, Simon Walker o Glwb Bowlio Cei Connah, newydd gael ei ethol yn gadeirydd pwyllgor datblygu BowlsCymru. Fel y bydd llawer o bobl yn gwybod, mae bowls ar lawr gwlad yn darparu manteision enfawr i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl. Dywed Simon wrthyf mai dyma'r unig gamp y gallwch ei chwarae drwy gydol eich oes—gall plentyn naw...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar iawn i Bwyllgor Busnes y Senedd ac i'r rhai a gefnogodd y cynnig hwn gan ganiatáu i'n Senedd fod yn rhan o'r sgwrs gynyddol ynghylch incwm sylfaenol cyffredinol. Nid syniad newydd yw'r incwm sylfaenol cyffredinol, ond mae'n syniad sy'n dechrau codi ei lais. Fel bob amser, mae gwrthwynebiad i newid a bydd rhai bob amser yn mynnu nad yw ceisio...
Jack Sargeant: Lywydd, mae'r ffactor cyntaf gyda ni eisoes, a gellir ei weld o'n cwmpas: tlodi. Mae tlodi'n prysur ddod yn endemig—digartrefedd a thlodi bwyd yw'r arwyddion mwyaf gweladwy. Mae Marcus Rashford, y pêl-droediwr, wedi taflu goleuni ar y mater hwn yn ddiweddar, gan ddefnyddio ei stori bersonol ei hun i egluro pa mor ofnadwy yw mynd i'r ysgol yn llwglyd. Gall effeithiau hyn bara am oes, a...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad ar ran Llywodraeth Cymru a hefyd yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw o bob ochr i'r ddadl, a'r rhai sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw. Os caf, hoffwn gloi drwy fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd a sut y gallai incwm sylfaenol cyffredinol leddfu'r rhain. Yn...
Jack Sargeant: Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn mai'r gweithlu yn Alun a Glannau Dyfrdwy yw'r mwyaf medrus yn y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â hwy fel peiriannydd ac wedi gweld hyn â’m llygaid fy hun. Dylai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi fod yn ymwybodol o'r ffaith hon hefyd, a dylem ei hyrwyddo’n frwd. Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn sôn yn...
Jack Sargeant: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod? OQ55685
Jack Sargeant: Diolch am yr ateb yna, Gweinidog, a diolch am eich ymrwymiad parhaus i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod. Fel y gwyddoch, rwy'n llysgennad Rhuban Gwyn, ac rwy'n falch iawn o ddilyn yn ôl traed fy nhad wrth gefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn. Bydd Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni yn wahanol iawn ond nid yw'n llai pwysig. Nawr, rwyf wedi siarad â nifer o oroeswyr sy'n ofni bod y...
Jack Sargeant: Gweinidog, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar wasanaethau iechyd trawsffiniol ac, yn benodol, bryderon y mae trigolion wedi'u codi gyda mi ynghylch llawdriniaeth ddewisol. Mae trigolion yn ceisio sicrwydd y byddan nhw'n parhau i allu manteisio ar wasanaethau yn Lloegr drwy'r pandemig, yn enwedig yn Ysbyty Iarlles Caer. A wnewch chi ofyn am ddatganiad ysgrifenedig neu...
Jack Sargeant: Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo diogelwch cymunedol yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Jack Sargeant: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall partïon a chanddynt fuddiant lywio polisi cynllunio Llywodraeth Cymru? OQ55691
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch hefyd am gytuno i gyfarfod â Chyngor Cymuned Pen-y-ffordd yn fy etholaeth gyda'r Dirprwy Weinidog. Mae cyngor Pen-y-ffordd yn teimlo'n wirioneddol angerddol am eu hardal ac maent yn wybodus iawn ynglŷn â materion cynllunio. Weinidog, gwn eich bod chi'n awyddus i gymunedau gael mwy o rôl yn y broses o lunio eu hamgylchedd eu hunain; sut y mae sicrhau...
Jack Sargeant: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ55738
Jack Sargeant: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ychydig o dan flwyddyn yn ôl, daeth Prif Weinidog y DU i'm hetholaeth, Alun a Glannau Dyfrdwy, ac addawodd lawer mwy o swyddogion heddlu a strydoedd mwy diogel. Nawr, mae'r addewid hwn wedi'i dorri. Gofynnais yn ddiweddar i'm trigolion am eu profiadau o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dywedasant yn blaen wrthyf: mae llai o heddlu ar y...