Canlyniadau 181–200 o 1000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru
(26 Med 2017)

Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i recriwtio a hyfforddi staff newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru? (OAQ51084)[W]

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru
(26 Med 2017)

Siân Gwenllian: Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Gonffederasiwn GIG Cymru ym mis Mai eleni, roedd 141 o swyddi meddygol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn wag. Mae hyn yn cynrychioli 37 y cant o’r holl swyddi meddygol sy’n wag yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mi gawsom ni ddadl yn fan hyn wythnos diwethaf wrth drafod yr adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar recriwtio meddygol. Ond er...

7. 7. Dadl: Data — Bod yn Fwy Agored a Hygyrch (26 Med 2017)

Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Rydw i yn cynnig gwelliant 4. Mi fyddaf i’n defnyddio fy nghyfraniad i i’r ddadl yma heddiw er mwyn trafod pam mae casglu data perfformiad a’i gyhoeddi mewn modd sy’n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill ym Mhrydain yn bwysig. Nid yn unig er mwyn ein galluogi ni, fel gwrthbleidiau, i allu dal y Llywodraeth i gyfrif, ond mae o hefyd yn hanfodol bwysig er mwyn i...

7. 7. Dadl: Data — Bod yn Fwy Agored a Hygyrch (26 Med 2017)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn am yr enghraifft benodol yna sydd yn darlunio’r broblem yn reit fanwl ac yn dangos yn glir pam mae angen inni fod yn llawer iawn mwy trefnus ac effeithiol yn y ffordd yr ydym ni’n casglu data a hefyd yn eu defnyddio nhw er budd y wlad yma. Diolch.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus
(27 Med 2017)

Siân Gwenllian: Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mae angen sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus ym mhob awdurdod lleol, ac mae angen i bob bwrdd asesu cyflwr economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei fro a chyhoeddi canlyniadau’r asesu, a chyhoeddi cynllun llesiant a fydd yn amlinellu amcanion lleol yn ôl nodau’r Ddeddf, ynghyd â modd o’u cyflawni....

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Tlodi Ymysg Menywod Ifanc
( 3 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 17 Gorffennaf, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi hyn: ni fyddai’n ddoeth cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer tlodi. Onid ydy hyn yn ddatganiad cwbl rhyfeddol? Dim cynllun gweithredu penodol. Dim targedau ar gyfer lleihau tlodi. Dim monitro, oherwydd nid oes yna ddim byd i’w...

8. 7. Dadl: Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg ( 3 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: Diolch i chi am gynnal y drafodaeth yma ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Mae’r ymgynghoriad, wrth gwrs, yn mynd ymlaen tan ddiwedd y mis ac mae’r ddadl yma yn ffordd dda o atgoffa pobl o’r angen i gofnodi eu sylwadau drwy’r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau. Rydym ni wedi gosod ein safbwynt ni fel plaid yn glir iawn drwy gyfrwng gwelliannau sy’n egluro’n...

8. 7. Dadl: Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg ( 3 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: A gawn ni fod yn glir o’r cychwyn cyntaf? Mae cynigion y Llywodraeth Lafur yma yn mynd i wanhau ein hawliau ni. Mae dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg yn mynd i wanhau ein hawliau ni. Mae mynd yn ôl at un corff a disgwyl i hwnnw wneud dwy swyddogaeth cwbl wahanol yn gwanio ein hawliau ni. Mae rhoi’r grym yn nwylo’r Llywodraeth yn lle’r Cynulliad wrth benderfynu pwy sy’n dod o dan...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Un Filiwn o Siaradwyr Cymraeg
( 4 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: Yn ôl adolygiad Aled Roberts o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, a gwblhawyd ar ran y Llywodraeth—mae Aled Roberts yn dweud bod y cynlluniau yn dangos bod angen gwneud llawer iawn mwy os ydym am adlewyrchu’r dyheadau yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2010 heb sôn am ofynion mwy uchelgeisiol strategaeth newydd y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn...

7. 7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 'Gwireddu'r Uchelgais — Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' ( 4 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: Rydych chi’n sôn am adeiladu consensws o gwmpas yr iaith, ond, yn anffodus, yn dilyn y drafodaeth a gawsom ni ddoe ar Fil y Gymraeg, mae’n ymddangos bod y consensws yna’n dechrau cael ei danseilio. Mae siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o’r wlad, mudiadau iaith, ac arbenigwyr cynllunio iaith, i gyd yn cytuno y bydd Bil y Gymraeg yn gam yn ôl ac yn gwanhau yn hytrach na chryfhau’r...

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Gweithlu’r GIG ( 4 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: Rydym ni’n wynebu argyfwng yng Nghymru o ran niferoedd meddygon. Mae hynny’n gwbl glir, ac mae’r argyfwng yn bodoli yn sgil methiant y Llywodraeth i gynllunio’r gweithlu, i hyfforddi meddygon newydd, yn ogystal â recriwtio o wledydd eraill. Mae Plaid Cymru yn blaid sydd yn ymdrechu i gynnig atebion i broblemau sydd yn bodoli yma yng Nghymru. Mae’r argyfwng ar ei waethaf yn y...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Tlodi
(10 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi? (OAQ51171)[W]

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Tlodi
(10 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: Fe gafwyd cadarnhad gennych chi fan hyn yr wythnos diwethaf na fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu taclo tlodi. Mae hyn yn siom enfawr ac yn fater o bryder i Blaid Cymru, ac i’r pwyllgor Cynulliad trawsbleidiol sydd wedi bod yn ymchwilio i’r maes. Rwy’n deall eich bod chi’n awyddus i weithio’n holistaidd, a gweithredu ar draws adrannau, ond, heb strategaeth ganolog,...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd
(17 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: 10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd? (OAQ51216)[W]

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd
(17 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: A’r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, mae’r gair olaf ar ddyfodol un o wasanaethau hanfodol Ysbyty Gwynedd yn gorwedd gyda’ch Llywodraeth chi. Y bwriad ydy symud y gwasanaeth fasgwlaidd brys i ffwrdd o Fangor. Felly, petai damwain yn digwydd yn Aberdaron a bod person angen sylw brys am ei fod o’n gwaedu’n ddifrifol, byddai’n rhaid iddo deithio 72 o filltiroedd—awr a thri...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Tlodi Ymysg Plant (18 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi ymysg plant? (OAQ51207)[W]

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Tlodi Ymysg Plant (18 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: Mae’r defnydd o fanciau bwyd wedi codi dros 500 y cant, gyda thraean o’r defnyddwyr yn blant. Mae 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi, ac mae yna 10 gwaith yn fwy o bobl yn derbyn sancsiynau ar hyn o bryd, â thystiolaeth bod y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn uniongyrchol gysylltiedig efo sancsiynau a materion yn ymwneud â chredyd cynhwysol. A ydych chi’n cytuno bod angen...

10. 8. Dadl Plaid Cymru: Economi Gogledd Cymru (18 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: Mae’n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl hollbwysig yma heddiw, ac, fel gog o’r gorllewin, rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad i i drafod y gogledd orllewin yn benodol. Un o fy hoff arferion i fel yr Aelod Cynulliad dros Arfon ydy sgwrsio efo chynifer o bobl â phosib ar draws yr etholaeth. A’r un peth sy’n cael ei godi efo fi—minnau hefyd, yn debyg i Llyr a Rhun. Dro ar ôl tro,...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru (24 Hyd 2017)

Siân Gwenllian: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth leoli Llywodraeth Cymru? (OAQ51234)[W]

<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.