Rhun ap Iorwerth: A fyddech yn ychwanegu gwyddonwyr y bobl sydd wedi bod yn chwarae rhan bwysig yn pwysleisio'r risgiau at y rhestr honno o bartneriaid yr ydych eisiau gweithio gyda hwy, yn enwedig ar gyfer monitro yn y dyfodol? Hoffwn i chi ymuno â mi i longyfarch Surfers Against Sewage am y gwaith y maent wedi'i wneud yn tynnu sylw at y problemau sy'n ein hwynebu yma. Mae argymhelliad 4 yn pwysleisio, onid...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, dwi yma heddiw ac mae'r cynnig yma wedi cael ei gyflwyno i'ch annog chi i gyffroi am hydrogen.
Rhun ap Iorwerth: Rwyf am i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru fod yn fwy brwd ynglŷn â hydrogen. Gallaf ddweud wrthych yn awr beth yr hoffwn ei glywed gan y Gweinidog. Yn syml iawn, rwyf am i'r Gweinidog ddweud, 'Rwyf o ddifrif ynglŷn â bod eisiau i Gymru fod yn chwaraewr yn y sector hydrogen sy'n datblygu.' Rwy'n benderfynol, gyda strategaeth glir a buddsoddiad wedi'i dargedu'n dda, y gallwn fanteisio i'r...
Rhun ap Iorwerth: Rydym yn sôn am bontio yma o economi tanwydd ffosil i economi carbon isel, a hydrogen yw'r allwedd mewn gwirionedd. Gall gefnogi pob maes blaenoriaeth, os edrychwch arno, o fewn rhaglenni Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig mewn technoleg werdd, arloesi, twf glân, adferiad gwyrdd a'r seilwaith sydd ei angen yn yr ymdrech tuag at sero net. Ac wrth gwrs, ceir elfennau sydd wedi'u...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma y prynhawn yma, a diolch i'r Gweinidog am ei hymateb hi. Gwnaf i ddim siarad yn hir. Dwi'n meddwl bod y cyffro yno ac yn cael ei rannu ar draws y meinciau yma ynglŷn â'r sgôp sydd yna i ddatblygu sector newydd yn fan hyn ac i fod yn flaenllaw ynddo fo. Mi glywsom ni'r Gweinidog yn rhestru'r holl elfennau hynny o...
Rhun ap Iorwerth: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth coed i amgylchedd iach? OQ58230
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna.
Rhun ap Iorwerth: Credaf fod pob un ohonom o blaid plannu llawer mwy o goed mewn egwyddor, er bod gennyf bryder gwirioneddol, mae'n rhaid dweud, ynghylch penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i brynu tir amaethyddol da i blannu coed arno. Ond nid dyna yw ffocws fy nghwestiwn heddiw; mae'n ymwneud â diogelu'r coed sydd gennym eisoes. Yng Nghaergybi, mae dicter gwirioneddol ynglŷn â'r cynlluniau sydd...
Rhun ap Iorwerth: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi disgyblion sy'n cymryd eu arholiadau eleni o ystyried effaith COVID? OQ58231
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna. Dwi'n datgan diddordeb fel tad i un disgybl lefel A, ond dwi yn gwybod fy mod i'n siarad ar ran llawer o ddisgyblion a'u rhieni sydd wedi pryderu'n fawr am yr arholiadau lefel A eleni yng nghyd-destun COVID. Dyma i chi ddisgyblion sydd erioed wedi sefyll arholiad allanol o'r blaen achos bod eu TGAU nhw a'u AS nhw wedi cael eu canslo, ac eto mae mwy na'r arfer o'u...
Rhun ap Iorwerth: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau canser Llywodraeth Cymru? OQ58285
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ateb yna. Dwi newydd fod yn noddi digwyddiad yn dathlu 20 mlwyddiant Cancer Research UK, a tra'n dathlu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud drwy ymchwil i wella cyfraddau goroesi canser, mi oedd yna rybudd ein bod ni mewn perig o weld y cynnydd yn dod i stop rŵan. Mae effaith y pandemig, sy'n golygu bod pobl yn aros 16 gwaith yn hirach nac oedden nhw cyn COVID am rai profion...
Rhun ap Iorwerth: 'Mae angen ymdeimlad o frys arnom'.
Rhun ap Iorwerth: Dyna dywedodd prif weithredwr Cancer Research UK heddiw, achos mae gen i ofn dydyn ni ddim wedi gweld y synnwyr hwnnw o frys gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.
Rhun ap Iorwerth: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rwy'n gwybod ei fod yn rhannu fy rhwystredigaeth ynglŷn â'r ffordd yr ymdriniwyd â hyn, yr hyn sy'n ymddangos fel petruster gan Lywodraeth y DU am yr elfennau hyn o reoli ffiniau a goblygiadau hynny, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru, i lywodraeth leol a hefyd i gymuned Caergybi. Mae'n destun gofid eto ein bod ni'n clywed am yr hyn sy'n ymddangos yn fwy o...
Rhun ap Iorwerth: Ers 2018, y polisi yng Nghymru ydy bod gofal llygaid a'r math o ofal sy'n cael ei gynnig yn seiliedig ar y lefel o risg. Mi oedd yn arloesol yn hynny o beth, efo cleifion i gael eu gweld yn ôl faint o risg maen nhw'n ei wynebu. Ac mae'r ffactor risg uchaf ar gyfer y rheini sy'n wynebu'r risg o newid di droi nôl, neu irreversible harm. Ac i bobl sydd â problem efo'u golwg, mae hynny yn...
Rhun ap Iorwerth: Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'm cyd-aelodau o'r pwyllgor am gael cydweithio efo chi ar yr adroddiad yma? Diolch i'r tîm clercio a thîm cefnogi'r pwyllgor a'r tîm ymchwil, ac wrth gwrs i bawb wnaeth rannu efo ni fel pwyllgor eu profiadau nhw a'u harbenigedd nhw wrth inni drio deall yn well effaith aros yn hir am driniaeth. Rydyn ni mewn perygl ar hyn o bryd o dderbyn, bron iawn, mai aros...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y gwelliannau hynny'n ffurfiol. Mae hon yn ddadl bwysig iawn. Mae'n amserol iawn, a dwi'n falch iawn bod y cynnig wedi cael ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr. Mi fues i draw i ddigwyddiad ym Mae Caerdydd yn gynharach y mis yma—roedd y Dirprwy Weinidog yn siarad yno—wedi'i drefnu gan Diabetes UK Cymru, wedi'i noddi gan James Evans, lle roedd y...
Rhun ap Iorwerth: Dwi'n cloi fy nghyfraniad rŵan. Mae'n rhaid gwneud y sifft yna o wario'n ddrud ar drin pobl achos ein bod ni wedi methu eu trin nhw mewn pryd tuag at wario llai o arian drwy atal y problemau yn y lle cyntaf, a dyma ni enghraifft wych.
Rhun ap Iorwerth: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad am y datganiad ansawdd. Mae'n gam arwyddocaol, dwi'n meddwl. Does yna ddim deufis ers oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn cyflwyno cynnig o flaen y Senedd yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi sylw i faterion iechyd yn ymwneud â merched, a dwi'n falch ein bod ni yma rŵan yn gweld y datganiad yma heddiw. Mae'n rhyfeddol ac yn gywilyddus, mewn difri, ei bod hi wedi...