Jeremy Miles: Roedd fy natganiad llafar ar 22 Mawrth yn amlinellu fy mwriad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwyf wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i wireddu'r uchelgais hwn.
Jeremy Miles: Wel, mae amryw o gwestiynau pwysig iawn yng nghwestiwn yr Aelod. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y cefndir cymdeithasol yng Nghymru yn wahanol i'r cefndir cymdeithasol, ar gyfartaledd, yn Lloegr—hynny yw, bod lefelau o dlodi yn uwch yng Nghymru am resymau, efallai, sydd yn rhannol hanesyddol. Nid yw'r pwerau o ran trethi ac ati a gwariant ddim gyda ni i'n galluogi ni i fynd i'r afael â'r...
Jeremy Miles: Rwy’n credu bod hynny’n rhan o’r ateb. A dweud y gwir, rwy’n credu’n gryf y bydd y cwricwlwm newydd yr ydym yn ei gyflwyno yng Nghymru, sydd wedi’i deilwra i anghenion dysgwyr unigol ac sy’n rhoi pob dysgwr yn y sefyllfa orau bosibl i gyflawni ei botensial ei hun, yn gam enfawr ymlaen i ni mewn gwirionedd. Bydd pawb ohonom yn siarad ag ysgolion yn ein hetholaethau a’n...
Jeremy Miles: Mae Cymwysterau Cymru wedi ceisio darparu canlyniadau graddau ar gyfer Safon Uwch a TGAU cymeradwy sydd oddeutu hanner ffordd rhwng haf 2019 a haf 2021, ar lefel genedlaethol. Ac mae’r canlyniadau a gyflawnwyd gan ddysgwyr yn dangos eu gwytnwch, ac rwy’n eu llongyfarch i gyd ar eu cyflawniadau.
Jeremy Miles: Wel, rwyf am dderbyn y gwahoddiad i ailadrodd fy llongyfarchiadau i bobl ifanc yng Nghymru, sydd wedi bod drwy gyfnod anodd iawn. Mewn rhai ffyrdd, rwy’n credu mai’r flwyddyn ddiwethaf hon oedd y fwyaf aflonyddgar o ran y profiad yn yr ystafell ddosbarth, ac felly roedd dychwelyd at arholiadau yn y cyd-destun hwnnw yn dasg arbennig o heriol yn fy marn i. Ond rwy’n credu bod y...
Jeremy Miles: Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion ni. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi egluro yn y Senedd ddoe mai dim ond y Llywodraeth yn San Steffan sydd â'r grym ariannol i fynd i'r afael gydag effeithiau andwyol y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.
Jeremy Miles: Mae eisoes yn digwydd mewn rhai ysgolion yng Nghymru. Mae ysgolion yn cefnogi teuluoedd mewn pob math o ffyrdd i sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad at gefnogaeth ehangach. Un o’r ystyriaethau wnaeth y Prif Weinidog sôn amdano ddoe, wrth gwrs, oedd bod angen sicrhau bod unrhyw gysylltiad rhwng teuluoedd ac unrhyw gorff cyhoeddus yn caniatáu i bobl ddeall yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael...
Jeremy Miles: Wel, mae hwnnw'n ateb mwy hirdymor i'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio'n gywir fel un sydd ar fin digwydd i ysgolion, ac rwy'n gobeithio, fel rwy'n siŵr y bydd ef, pan fydd y datganiad yn cael ei wneud ddydd Gwener, y bydd Prif Weinidog y DU yn glir ynghylch yr ymrwymiad y mae'n ei roi i fusnesau ac i unigolion am y cymorth tuag at gostau ynni, sy'n sicr yn angenrheidiol er mwyn sicrhau...
Jeremy Miles: Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae’n gywir i ddweud, wrth gwrs, fod costau gwisg ysgol yn bryder sylweddol i lawer o deuluoedd. Ysgrifennais at ysgolion dros doriad yr haf, tuag at ddiwedd y toriad, i ddweud wrthynt y byddwn yn edrych eto, fel y mae'n dweud, ar y canllawiau sydd wedi bod ar waith ers tair blynedd, i bob pwrpas, ar hyn o bryd, ond mae maint y mater yn...
Jeremy Miles: Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod myfyrwyr addysg uwch yn gallu cael cymorth sy'n eu galluogi i dalu eu costau byw o ddydd i ddydd. Mae ein system cymorth i fyfyrwyr yn darparu cymorth sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol, gyda’r lefelau grant uchaf yn cael eu targedu at y myfyrwyr sydd â’r angen mwyaf.
Jeremy Miles: Wel, mae cyfraddau cymorth i fyfyrwyr mewn gwirionedd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â'n polisi, a byddaf yn gwneud datganiadau am hynny yn yr wythnosau nesaf. Eisoes yng Nghymru mae gennym y system cymorth myfyrwyr fwyaf blaengar yn unrhyw ran o’r DU, ac rwy’n falch iawn o hynny, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hynny, system sydd, fel y gwyddoch, yn cynnwys cymysgedd o...
Jeremy Miles: Mae sicrhau bod yr ystad ysgolion yn addas at y diben yn hanfodol i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Dyna pam, ers 2014, ein bod wedi buddsoddi £1.22 biliwn drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn erbyn cyfanswm o wariant gyda'n rhanddeiliaid ar y rhaglen o £2.2 biliwn.
Jeremy Miles: Wel, bydd yr Aelod yn gwybod bod y Llywodraeth hefyd yn gobeithio y gallwn wneud mwy ym maes prydau ysgol am ddim, ond mae'r estyniad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ei gwestiwn yn un lle byddai angen i ni wneud y mathau o doriadau mewn rhannau eraill o'n cyllideb y mae'r Aelod yn gofyn i mi fanylu arnynt y dylai ysgolion eu gwneud yn eu cyllidebau hwy. Felly, mae'r her yn sylweddol iawn. Yn...
Jeremy Miles: Mae addysg am yr amgylchedd yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau a gwyddoniaeth a thechnoleg yn cynnwys cyfeiriadau penodol at yr amgylchedd i sicrhau bod dysgwyr yn ymdeimlo â phwysigrwydd natur a bioamrywiaeth.
Jeremy Miles: Wel, fel cyn-adaregwr ifanc fy hun, rwy'n rhoi sylw manwl i'r hyn y mae'r RSPB yn ei ddweud wrthym ynglŷn â chysylltiad pobl ifanc â byd natur. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn cydnabod, o'n profiad ni ein hunain, pa mor bwysig a phleserus yw hynny pan yn ifanc. Mae dwy brif raglen yr ydym yn eu hariannu ac yn parhau i'w cefnogi yng nghyswllt addysg amgylcheddol mewn ysgolion. Mae...
Jeremy Miles: Mae'r cynnydd mewn chwyddiant yn cael effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus a bydd yn effeithio ar gyllidebau ysgolion. Rydym yn gwybod bod cronfeydd wrth gefn ysgolion mewn sefyllfa well ar hyn o bryd, ac rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gydag ysgolion i reoli eu cyllidebau yn sgil yr amgylchiadau presennol.
Jeremy Miles: Ar fater cronfeydd wrth gefn yn benodol, rwy'n derbyn pwynt yr Aelod fod yna ddarlun amrywiol mewn gwahanol ysgolion, ac os nad oes gennych gronfeydd wrth gefn, ni fyddai hyn yn berthnasol i'r ysgol honno. Ond y darlun cyffredinol ar draws y system yng Nghymru yw bod cronfeydd wrth gefn ysgolion, yn ôl y data diwethaf sydd ar gael, sydd bellach bron yn flwyddyn oed, wedi cynyddu o £31...
Jeremy Miles: Nac ydw.
Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jenny Rathbone am ddod a'r ddadl fer hon i Siambr y Senedd. Mae gwaith ac angerdd Jenny yn y maes hwn, ac ym maes ehangach polisi bwyd, yn amlwg yn gyfarwydd iawn i ni, ond hoffwn ddiolch iddi hefyd am ei chefnogaeth a'r cyngor y mae wedi'i ddarparu wrth inni gyflawni'r maes polisi allweddol hwn. Rwy'n credu bod yr angerdd a'r...
Jeremy Miles: Yn sicr. Rwy'n cytuno ei fod yn gyfle pwysig inni fabwysiadu dull ysgol gyfan o weithredu ar fwyta'n iach. Rwy'n credu ei fod yn bendant yn un o'r cyfleoedd allweddol. Y cyfle cyntaf sydd gennym i ymgorffori bwyd iach a maethlon yn rhan o ddiwylliant yr ysgol yw'r diweddariad i'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion, diweddariad yr ydym yn awyddus i'w gefnogi gyda sgwrs genedlaethol, gan...