Rhun ap Iorwerth: Hoffwn yn fawr gael help Llywodraeth Cymru i warchod y coetir hynafol ym mharc arfordirol Penrhos yng Nghaergybi. Cafwyd caniatâd tua degawd yn ôl i adeiladu parc gwyliau yno; nid wyf yn credu y dylid bod wedi rhoi caniatâd bryd hynny, ac yn sicr bellach, yng nghyd-destun ein dealltwriaeth newydd o ddyfnder yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth a gwerthfawrogiad o fannau cyhoeddus gwyrdd,...
Rhun ap Iorwerth: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn ymchwiliad COVID-19 y DU? OQ58457
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Ac mi wnaeth y Prif Weinidog gadarnhau i fi mewn llythyr ar 15 Medi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i fod yn gyfrannwr craidd i fodiwl cyntaf yr ymgynghoriad. Mi ddylai ein bod ni'n cael ymchwiliad cyhoeddus ar wahân i Gymru, wrth gwrs. A fy mhryder i ydy mai fel cyfrannwr mae Llywodraeth Cymru'n gweld ei rôl, pan dwi eisiau i Lywodraeth Cymru fod yn destun yr ymchwiliad yma.
Rhun ap Iorwerth: Rwyf i wir yn ofni na fyddwn ni'n gweld craffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, yn dda ac yn ddrwg, y mae Cymry yn ei haeddu. Yr hyn sydd gennym ni, ar ôl gwrthod ymchwiliad penodol i Gymru, rydym ni'n gweld Gweinidogion eu hunain yn comisiynu cynghorau iechyd cymuned i gasglu barn y cyhoedd ar yr ymateb i COVID. Mae'r ymchwiliad y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i gomisiynu i heintiau a...
Rhun ap Iorwerth: Fel y dadleuais, mae'n gwbl briodol ein bod yn ceisio manteisio ar botensial porthladd rhydd, ond yr hyn y gelwais amdano yw gonestrwydd ynglŷn â beth y gallai'r risgiau fod a'r angen i liniaru hynny. Roedd yn siomedig fod y Ceidwadwyr, gan gynnwys yr AS lleol, yn fodlon derbyn £8 miliwn yn hytrach na £25 miliwn ar gyfer porthladd rhydd ar Ynys Môn, ac rwy’n falch bellach ein bod, drwy...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser cyflwyno dwy ddogfen gerbron y Senedd heddiw, sef yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol y Senedd ar gyfer 2021-22, a'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd. Gadewch i fi droi, yn y lle cyntaf, at yr adroddiad blynyddol. Mi fydd Aelodau yn gyfarwydd efo'r drefn o gynnal dadl flynyddol ar ein gwaith dros y flwyddyn....
Rhun ap Iorwerth: Mi symudaf i ymlaen rŵan at y cynllun ieithoedd swyddogol newydd ar gyfer y chweched Senedd. Mi fydd y rheini sy’n gyfarwydd â’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y bumed Senedd yn gweld yn syth ein bod ni wedi gwneud newid eithaf sylweddol i ddiwyg y cynllun ar gyfer y chweched Senedd. Mae hyn mewn ymateb i sylwadau gan Aelodau a staff ynglŷn â hyd y ddogfen, o bosib, ac ambell...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y ddau gyfraniad a gawson ni gan Sam Kurtz a Peredur Owen Griffiths. Dim ond ychydig o sylwadau oedd gen i, felly, i ymateb. Diolch yn fawr iawn i Sam Kurtz. Ydy, mae hi'n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn dangos arweiniad yn bendant. Rydyn ni eisiau dangos yn fan hyn, onid ydyn, pa mor naturiol mae dwyieithrwydd yn gallu gweithredu mewn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma. Diolch i'r deisebwyr, wrth gwrs, am gasglu'r enwau er mwyn tynnu sylw eto at y sefyllfa argyfyngus rydyn ni'n ei hwynebu, o ran niferoedd swyddi gwag a'r angen i ymestyn y ddeddfwriaeth ar lefelau nyrsio diogel o fewn ein gwasanaeth iechyd ni. A dwi'n ailadrodd y gair yna: 'diogel'. Mae hyn yn ymwneud â diogelwch cleifion. Rhywun o'ch teulu chi...
Rhun ap Iorwerth: Wrth gwrs, nid yw profiadau'r pandemig ond wedi atgyfnerthu'r hyn yr ydym yn ei wybod eisoes am y GIG a'r gweithlu nyrsio—gweithlu a oedd yn dioddef o brinder staff, cyflogau isel, digalondid, un a weithredai mewn amgylchedd wedi ei amddifadu o fuddsoddiad ac adnoddau. Nid oes ryfedd mai un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yw cynaliadwyedd y gweithlu nyrsio. Mae llawer mwy o nyrsys yn...
Rhun ap Iorwerth: Dwi'n croesawu y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, wrth inni nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol. Mae pob merch yng Nghymru a phob merch o gwmpas y byd yn wynebu risg o ganser gynaecolegol. Mae o yn cynyddu efo oed, ond mae o yn rhywbeth sy'n risg i bawb. Ond, wrth gwrs, fel efo pob canser, y ffordd i gynyddu'r siawns o oroesi, os ydy y canser yn cael cyfle i gymryd gafael, ydy i...
Rhun ap Iorwerth: Ym mis Mai, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth iechyd menywod bwrpasol ar gyfer Cymru. Dylai strategaeth o'r fath ganolbwyntio ar gau'r bylchau rhwng y rhywiau mewn gofal iechyd, gan ddarparu buddsoddiad, cefnogaeth a thriniaeth gyson i iechyd menywod. Ond mae'r ddadl heddiw eto yn dangos bod cymaint o waith i'w wneud o hyd. Hyd yn oed cyn y pandemig COVID, sydd ar adegau yn...
Rhun ap Iorwerth: Mae sgrinio'n allweddol pan ddaw hi i iechyd menywod. Mae llawer o fywydau wedi cael eu hachub drwy gael diagnosis cynnar yn deillio o raglenni sgrinio. Mi roedd y symudiad tuag at sgrinio pum mlynedd yn hytrach na thair blynedd cynt yn benderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth. Mi roedd o'r penderfyniad cywir, ond mi gafodd y peth ei ddelio ag o mewn ffordd a oedd yn gwbl...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi am siarad am fapio moroedd Cymru. Dwi'n falch o gael y cyfle i gyflwyno'r ddadl. Dwi'n ddiolchgar i Sam Kurtz a Joyce Watson am ddangos diddordeb yn y pwnc, a dwi'n hapus iawn i allu rhoi ychydig o amser iddyn nhw gyfrannu cyn i ni glywed ymateb y Gweinidog. Dydy rhywun ddim yn cael ei ddewis yn aml iawn o'r het i gael cyflwyno dadl fer, ond pan...
Rhun ap Iorwerth: Gadewch imi roi ychydig o gyd-destun. I'r rhai nad ydynt yn gwybod am Prince Madog, llong hardd yw hi ac mae'n un arbenigol iawn. Cyrhaeddodd Brifysgol Bangor yn 2001, i gymryd lle'r Prince Madog wreiddiol a oedd wedi bod yn weithredol ers 1967. Drwy gydol yr amser hwnnw, defnyddiwyd yr ased Cymreig unigryw hwn i ddysgu miloedd lawer o fyfyrwyr gwyddor môr israddedig ac uwch, mae wedi bod yn...
Rhun ap Iorwerth: Sut bethau yw mapiau manwl o'n moroedd? Gadewch imi ei ddisgrifio, gyda chymorth llyfr newydd hynod ddiddorol, astudiaeth newydd hynod ddiddorol, a gyhoeddwyd yr wythnos hon—nid wyf yma i'w hyrwyddo; mae'n ddefnyddiol i egluro beth rwy'n siarad amdano. Ond efallai eich bod wedi darllen amdano neu wedi clywed amdano yn y newyddion yr wythnos hon. Gwnaed yr astudiaeth gan yr hanesydd morol...
Rhun ap Iorwerth: Dwi am gloi drwy gyfeirio at enw'r llong arbennig yma. Pwy oedd y tywysog? Yn ôl y chwedl, mi oedd Madog ab Owain Gwynedd, yn ôl y chwedl, yn fab i Owain Gwynedd, brenin Gwynedd, a hwyliodd i gyfandir America tua 1170 ac ymsefydlu yno—dros 300 mlynedd cyn Christopher Colombus, wrth gwrs. Y chwedl ydy ei fod o a'i frawd Rhirid wedi hwylio yn ei long, Gwennan Gorn, wedi darganfod gwlad yn...
Rhun ap Iorwerth: Mae'r Prif Weinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn codi pryderon yn ddiweddar ynglŷn â staffio yn Ysbyty Gwynedd, ac mae'n amlwg fod y rotas yno yn parhau i fod yn broblem. Mae un e-bost diweddar gan staff yn cyfeirio at uned iechyd meddwl Hergest, gyda morâl staff yn is nag erioed, recriwtio a chadw gwael, nifer mawr o achosion o salwch ac amodau gwaith gwael. Canlyniad hyn: mwy a mwy o...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am adael i mi sleifio i mewn, a diolch am y datganiad. Mi wnaf i'r achos, yn ogystal â lledaenu ffyniant drwy weithio rhanbarthol yn gyffredinol, rwy'n annog Llywodraethau ar bob lefel i feddwl yn is-ranbarthol; nid dim ond y gogledd, ond mae Ynys Môn yn teimlo ei fod yn cael cyfle, ac o fewn Ynys Môn, llefydd fel Amlwch, sydd wedi dioddef cymaint, yn teimlo eu bod nhw'n cael eu...
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros orthopaedig?