Jeremy Miles: Cymru sy'n cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r lefelau uchaf o gymorth grant nad oes angen ei ad-dalu yn targedu'r bobl sydd ei angen fwyaf. Rŷn ni'n cydweithio'n agos â'r sector i sicrhau eu bod nhw'n ystyried pob opsiwn i gefnogi myfyrwyr y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Ein blaenoriaeth ni yma yng Nghymru yw sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at gefnogaeth sy'n caniatáu iddyn nhw gwrdd â costau dyddiol, a hefyd bod gan ein sefydliadau addysg uwch ni fynediad at lefelau addas a digonol o arian ar gyfer hynny. Fel rwy'n dweud, mae gennym ni yma yng Nghymru eisoes y pecyn mwyaf cefnogol o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol....
Jeremy Miles: Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai’r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â'r achos penodol hwnnw, a byddaf yn ymchwilio iddo. Mae gennym fecanwaith, system, yng Nghymru sy’n galluogi darparwyr cyrsiau mewn unrhyw ran o’r DU i gael eu hachredu, fel y mae’r Aelod yn amlwg yn gwybod, ac nid yw’n seiliedig ar ddaearyddiaeth; mae’n seiliedig ar feini prawf ac achredu gwrthrychol, sydd...
Jeremy Miles: Wel, rwyf am ddechrau drwy ddweud nad yw bod yn rhiant yn rhagofyniad ar gyfer poeni am les ein plant yng Nghymru. [Aelodau’r Senedd: 'Clywch, clywch.’] ac mai fy mlaenoriaeth fel Gweinidog, a rennir yn eang iawn yn y Siambr hon, yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn ac yn cael eu galluogi i fyw bywydau iach a diogel. Rydym yn gweithio gyda’r NSPCC i sicrhau bod yr...
Jeremy Miles: Ceisiaf fod mor niwtral ag y gallaf. Credaf fod yr Aelod yn gwneud anghymwynas â phobl ifanc Cymru gyda'r ffordd y mae'n gofyn y cwestiynau hyn. Rwy’n berffaith barod i ateb cwestiynau, fel y gwneuthum y tro diwethaf. Fe'i gwahoddais i dynnu fy sylw at ddeunydd penodol yr honnai, y tro diwethaf inni siarad, ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion. Nid yw wedi gwneud hynny. Hoffwn ei...
Jeremy Miles: Fel wnes i sôn yn gynharach, mae hon yn sefyllfa heriol iawn i fyfyrwyr am y rhesymau mae Sioned Williams yn sôn amdanyn nhw. Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gronfa galedi i sicrhau bod darpariaeth ar gael i'r rheini sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol. Mae maint y cronfeydd hynny yn amrywio o sefydliad i sefydliad. Rwyf wedi gofyn i HEFCW roi sicrwydd i mi fod yr hyn sy'n cael ei...
Jeremy Miles: Rwy'n cwrdd gyda llywydd NUS Cymru yn y dyddiau sydd i ddod i drafod hyn gyda nhw, oherwydd gwnes i weld y dystiolaeth gafodd ei rhoi i'r pwyllgor. Fel bydd yr Aelod yn gwybod, rŷn ni wedi edrych yn fanwl ar yr hyn sy'n cael ei gynnig yn yr Alban, a dyw e ddim yn edrych efallai ar y wyneb mor hael ac y mae ef—. Mae'n edrych yn fwy hael efallai ar yr wyneb nag yw e go iawn. Rŷn ni hefyd yn...
Jeremy Miles: Mae pedwar diben gorfodol y Cwricwlwm i Gymru yn darparu’r weledigaeth a’r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Mae’r dibenion, a’r sgiliau craidd sy’n eu cefnogi, yn gosod disgwyliadau uchel i sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg eang a chytbwys, gan gynnwys y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Jeremy Miles: Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fod darpariaeth sgiliau bywyd yn gwbl ganolog i'n cwricwlwm newydd mewn ysgolion. Rydym am i addysgwyr gael rhwydd hynt i allu datblygu eu cwricwla i gefnogi dysgwyr i ddatblygu’r union fathau hynny o sgiliau bywyd. Mae’r pedwar diben sydd wrth wraidd y cwricwlwm wedi’u seilio ar ystod o 33 o nodweddion sy’n creu amrywiaeth o wahanol sgiliau...
Jeremy Miles: Yn wir, ac rwy'n talu teyrnged i waith Ken Skates hefyd mewn perthynas â maes ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn arbennig. Rwy'n cytuno'n llwyr â byrdwn ei gwestiwn. Gwyddom fod sgiliau bywyd fel llythrennedd ariannol, ynghyd â gwneud penderfyniadau ac iechyd meddwl a lles emosiynol, yn elfennau hanfodol o gwricwlwm trawsnewidiol. Nid pawb, wrth gwrs, a bleidleisiodd dros y cwricwlwm hwnnw pan...
Jeremy Miles: Gwych. Un o’r cyfleoedd y gobeithiaf y bydd ysgol Bryncethin ac ysgolion eraill yn manteisio arnynt yw’r gronfa her ysgolion cynaliadwy, a lansiwyd gennyf yn ddiweddar, sy’n gyfle i adeiladu ysgolion ar sail cynllun peilot gan ddefnyddio deunyddiau naturiol—felly pren, cerrig—a gwneud hynny gan eu dylunio gyda'r bobl ifanc a staff mewn ysgolion, fel cyfle cwricwlaidd gwirioneddol....
Jeremy Miles: Mae her yr ysgolion cynaliadwy yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd drwy arloesi a chydweithio. Gan y rhagwelir y bydd prosiectau arfaethedig o fewn rhaglen buddsoddi ysgolion a nodwyd gan awdurdodau lleol, rydym yn disgwyl i amcanion allweddol rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu gael eu hystyried hefyd, y mae hybu'r iaith Gymraeg wrth gwrs yn un ohonyn nhw.
Jeremy Miles: Dwi'n gobeithio'n fawr iawn bod un o'r ysgolion, o leiaf, sy'n ennill y gystadleuaeth hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'n dibynnu ar ba gynigion a ddaw i law, wrth gwrs, ond dyna beth fyddai fy ngobaith i, yn sicr, am resymau amlwg. O ran yr her roedd yr Aelod yn cynnig am ysgolion yn y dyfodol, fel y bydd hi eisoes yn gwybod, mae gofyniad ar unrhyw ysgol newydd sy'n cael ei gynnig i'w...
Jeremy Miles: Gwelais y digwyddiad ym Maenorbŷr, ac rwy'n talu teyrnged i waith arweinwyr a staff yr ysgol yn diogelu'r bobl ifanc a sicrhau bod y trefniadau priodol ar waith. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud i’w cefnogi lle ceir enghreifftiau penodol yn codi sy'n ychwanegol at y trefniadau cyfalaf sydd eisoes ar gael i...
Jeremy Miles: Rŷn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd a gyda chonsortiwm GwE i sicrhau bod ysgolion yn Arfon yn cael eu cefnogi’n llawn i weithredu’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan gynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol ac adnoddau. Rŷn ni wedi cyhoeddi pecyn adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb ar Hwb i gefnogi ysgolion i drafod y mater sensitif hwn gyda rhieni a gofalwyr.
Jeremy Miles: Wel, mae e eisoes yn digwydd. Rŷn ni mewn proses barhaus o ddarparu adnoddau cynyddol yn y maes hwn ac mewn rhannau eraill o'r cwricwlwm hefyd. Mae'r adnoddau sydd eisoes ar gael wedi'u cyhoeddi ar Hwb, sydd ar gael i bob ysgol. Dyw pob ysgol, dwi ddim yn credu, ddim yn dewis cael mynediad ato fe, ond mae'r adnoddau yno ar-lein i bawb. Ond beth efallai fyddai'n ddefnyddiol byddai i mi...
Jeremy Miles: Mae camddisgrifio'r cwricwlwm er mantais wleidyddol yn anhygoel o amharchus. Ef yw'r ail Aelod o'i feinciau i ddefnyddio'r cyfle hwn—
Jeremy Miles: —i bardduo'r gwaith y mae athrawon yn ei wneud ar draws ysgolion i sicrhau bod ein pobl ifanc yn ddiogel ac yn iach. Rwy'n ymroddedig i hynny ac rwy'n siomedig o glywed nad ydyw ef.
Jeremy Miles: Yn ôl yr awdurdod lleol mae contractiwr wedi cael ei benodi ac mae gwaith wedi dechrau ar y safle yn ystod gwyliau'r haf. [Torri ar draws.] Mae disgwyl i'r gwaith barhau i mewn i 2023.
Jeremy Miles: Mae iechyd, diogelwch a llesiant dysgwyr a staff a chymuned yr ysgol gyfan yn amlwg o'r pwys mwyaf. Mae cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am iechyd a diogelwch mewn ysgolion ac mae dyletswydd arnynt i sicrhau diogelwch dysgwyr a staff bob amser. Mae'r Aelod wedi ysgrifennu ataf ar ddau achlysur mewn perthynas â hyn, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru...