Rhun ap Iorwerth: Nid dyna oedd fy nghwestiwn. Roeddwn yn gofyn am drafodaethau cyflog.
Rhun ap Iorwerth: A gaf i wneud cais am gyfres rheolaidd o ddatganiadau ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei wneud i gryfhau ac ailagor Pont y Borth? Dwi wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog heddiw yma. Rydyn ni yn clywed bod gwaith i ddechrau yn fuan ar y bont. Rydyn ni yn clywed bod y bont i ailagor efo cyfyngiad pwysau yn fuan yn y flwyddyn newydd. Rydyn ni'n clywed bod yna faterion yn cael eu hystyried ar...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Cadeirydd. Rydyn ni'n gofyn heddiw i Lywodraeth Cymru gefnogi nyrsys Cymru. Rydyn ni'n gofyn i'r Senedd gefnogi ein datganiad ni bod nyrsys yn haeddu cyflog teg am eu gwaith, ac rydyn ni'n gofyn i Weinidogion ddefnyddio pob arf posib er mwyn gallu gwneud cynnig cyflog gwell i nyrsys. Rydyn ni'n wynebu streic gan nyrsys am y tro cyntaf. Mae nyrsys sy'n ofalwyr wrth reddf, yn ogystal ag...
Rhun ap Iorwerth: 'Mae pob streic yn dod i ben yn y diwedd wrth drafod', ond beth am geisio trafod er mwyn dod â'r streic i ben? Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU wedi trafod, yn ofer, ond pam ar y ddaear na wnaiff Gweinidog iechyd Llafur Cymru gynnull pawb o amgylch y bwrdd drwy fforwm partneriaeth Cymru, sydd yno ar gyfer yr union ddiben hwn? Nodais yr wythnos diwethaf nad oedd Llywodraeth Cymru hyd yn oed...
Rhun ap Iorwerth: Mae yna 3,000 o swyddi nyrsio gwag yn yr NHS yng Nghymru. Mae nyrsys yn gadael. Mae methiant i gadw staff yn argyfwng. Ac oni bai bod y cwestiynau yma o gwmpas cyflogau yn cael eu hateb, colli mwy y gwnawn ni—argyfwng yn dyfnhau. Mae mwy a mwy wedi bod yn troi at weithio drwy asiantaeth, yn cyfrannu at y bil asiantaeth enfawr o ryw £130 miliwn y flwyddyn erbyn hyn—bil na allwn ni ddim ei...
Rhun ap Iorwerth: Diolch byth nad ydym wedi wynebu prinder o bobl sydd eisiau bod yn nyrsys yn dod i mewn i'r proffesiwn. Mewn gwirionedd rydym wedi gweld cynnydd, cynnydd cadarnhaol, mewn llefydd nyrsio i fyfyrwyr yng Nghymru ym mhob blwyddyn ond un, rwy'n meddwl, dros y degawd diwethaf. Ar ei ben ei hun, mae hynny'n newyddion gwych, ond mae'n argae sy'n gollwng. Oes, mae gennym fwy yn dod i mewn i'r byd...
Rhun ap Iorwerth: Dwi'n gobeithio fy mod i’n gallu rhoi darlun eglur i chi y prynhawn yma ynghylch pam mae'n rhaid dod i setliad ar y cwestiwn o gyflogau a chefnogaeth i nyrsys. Ond gadewch imi ei gwneud hi’n fwy eglur fyth drwy eiriau a phrofiadau nyrsys a’u teuluoedd yn uniongyrchol. Y fam o Ynys Môn sydd a dwy ferch yn nyrs, a diolch amdanyn nhw, un yng Nghymru, a’r llall yn Awstralia, yn anffodus....
Rhun ap Iorwerth: Daeth Tony, nyrs iechyd meddwl plant a'r glasoed sydd wedi ymddeol, allan o'i ymddeoliad i helpu yn ystod y pandemig, a diolch byth ei fod wedi gwneud hynny. Mae bellach yn nyrs gronfa, ac mae'n dweud, 'Roedd y sefyllfa'n wael cyn imi ymddeol, ond wrth ddychwelyd i'r gwaith, cyfarfûm â nyrsys rhagorol yn disgrifio teimlo'n sâl oherwydd gorbryder cyn mynd i'r gwaith yn y bore, a chrïo ar...
Rhun ap Iorwerth: Llywydd, mae'n air dwi wedi'i ddefnyddio droeon heddiw: argyfwng. Mae'r NHS mewn argyfwng yn barod. Mi oedd o cyn COVID—mae'n bwysig iawn wastad cofio hynny. Ond wrth gwrs mae'r pandemig wedi gwaethygu pethau. Ond mi all y sefyllfa fynd yn fwy argyfyngus byth. Rŵan, mae gennym ni nyrsys yn paratoi i adael y wardiau mewn anghydfod cyflog, ond, ar yr un pryd, mae mwy a mwy yn paratoi i adael...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am gyfraniadau pawb i'r ddadl y prynhawn yma. Rydyn ni wedi clywed gan Aelod ar ôl Aelod pam rydyn ni'n gwerthfawrogi nyrsys gymaint. Ydyn, rydyn ni wedi diolch iddyn nhw ar garreg y drws, fel rydyn ni wedi diolch i holl staff y gwasanaeth iechyd a gofal am eu gwaith diflino, ond mae yna bwynt yn dod lle mae'n rhaid dangos gwir werthfawrogiad, ac mae...
Rhun ap Iorwerth: Fe ddywedais fod cadw staff yn fwy heriol na recriwtio o bosibl, ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw'r holl arfau sydd eu hangen i ddod â nyrsys i mewn i'r proffesiwn, a chofiwch na fydd llawer ohonynt yn dod yn syth o'r ysgol, ond efallai ychydig yn hwyrach yn eu bywydau a gorfod rhoi'r gorau i swydd arall. Maent angen cefnogaeth y fwrsariaeth honno ar y lefel bresennol. Ar y...
Rhun ap Iorwerth: Mae unedau gofal sylfaenol brys yn un o'r atebion sydd wedi cael eu cyflwyno er mwyn trio lleihau y pwysau ar feddygfeydd. Ond, yn Ynys Môn, dŷn ni'n gweld bod naw o'r 10 syrjeri sydd gennym ni ar yr ynys wedi gwneud 278 referral i'r uned newydd yn Ysbyty Penrhos Stanley, tra bod yr un feddygfa sy'n cael ei rheoli yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, Hwb Iechyd Cybi, ei hun wedi gwneud dros...
Rhun ap Iorwerth: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau hirdymor y Llywodraeth i olynu cynllun LEADER? OQ58794
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ateb yna. Dwi innau, wrth gwrs, yn rhannu'r rhwystredigaeth bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynd yn ôl ar ei gair o ran gwariant yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud dan gynllun LEADER. Dwi'n arbennig o ddiolchgar i Menter Môn yn fy etholaeth i am y gwaith arloesol maen nhw wedi'i arwain yn tynnu...
Rhun ap Iorwerth: Rwy'n siarad ar ran Plaid Cymru fel cyd-gyflwynydd y cynnig. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn cynrychioli pobl yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig ofnadwy hwn: pobl sydd wedi colli anwyliaid, pobl sydd eisiau gwybod, pan fydd hyn yn digwydd eto—nid yn ein hoes ni, gobeithio—y gall Cymru fod yn barod, mor barod â phosibl, ac wedi'i harfogi gystal ag y gallem fod i wneud y...
Rhun ap Iorwerth: Yn syml iawn, mae angen craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru, a gofynnwn i bawb gefnogi'r cynnig hwn heddiw fel ffordd o sicrhau hynny. Diolch.
Rhun ap Iorwerth: Prynhawn da, Llywydd. Prynhawn da, bawb.
Rhun ap Iorwerth: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba gymorth sydd ar gael i fusnesau yn sgil cau pont y Borth? OQ58854
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna. Does dim amheuaeth bod cau y bont wedi cael effaith negyddol ar fusnes. Mae'r sefyllfa economaidd gyffredinol hefyd yn effeithio ar faint mae pobl yn ei wario, ond, o siarad efo busnes ar ôl busnes, pan fyddaf i'n clywed am gwymp o 35-40 y cant mewn masnach fel ryw ffigwr sydd i'w glywed yn gyffredin—rhai yn gweld cwymp mwy—mae'n amlwg bod angen ymateb i hyn. ...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar gyflwr yr NHS? Ar drothwy'r gaeaf, mae staff yn gwneud eu gorau, ond mae'r sefyllfa'n amhosib. Dwi wedi clywed am gyfres o ddigwyddiadau yn effeithio ar etholwyr yn y dyddiau diwethaf: un ddynes yn ei 80au, yn ofni ei bod hi wedi torri ei chlun, yn aros 24 awr ar y llawr gartref am ambiwlans; dynes oedrannus arall yn aros yn yr adran frys am...