Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna gan y Gweinidog. Roeddwn i eisiau gofyn hefyd ynglŷn â'r prinder o dabledi gwrthfiotig. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael ateb eithaf cynhwysfawr yn fanna gan y Gweinidog. Dau gwestiwn arall gen i, eto ynglŷn â'r cyfathrebu. Roeddwn yn falch o weld y datganiad yn dod neithiwr. Dwi wedi rhannu hwnnw ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i, yn fy etholaeth i, a...
Rhun ap Iorwerth: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i fygythiadau o weithredu diwydiannol ar draws GIG Cymru, ac ar ei chynlluniau i geisio osgoi'r fath o weithredu drwy negodi? TQ696
Rhun ap Iorwerth: Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu sawl anghydfod. Mae sawl undeb wedi pleidleisio i fynd ar streic. Staff ambiwlans, wrth gwrs, yw'r rhai diweddaraf i baratoi i fynd ar streic. Mae'r Gweinidog wedi dweud eto mai toriadau Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cyfan, ac rwy'n cytuno ynglŷn â'u fandaliaeth economaidd a niwed eu toriadau i wariant cyhoeddus sy'n cael eu gyrru gan ideoleg. Ond er...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n colli fy llais, dwi'n meddwl. Allwn ni ddim gorbwysleisio arwyddocâd y datganiad yma. Mae cyhoeddi’r gyllideb yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn seneddol bob amser, wrth reswm, ond mae’r arwyddocâd yn fwy fyth eleni, wrth i Lywodraeth Cymru orfod cyllido yng nghyd-destun sefyllfa economaidd enbyd o anodd. Dwi’n cyd-fynd efo’r Gweinidog cyllid...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Hoffwn ofyn i chi am ba wlad rydych chi'n siarad amdani mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Ond ydych chi'n cydnabod y bu disgwyliad oes yn gostwng am y tro cyntaf ers llawer, llawer cenhedlaeth?
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. A gaf innau, yng nghwestiynau iechyd olaf y flwyddyn, ddefnyddio'r cyfle yma i ddymuno 'Nadolig Llawen' i'r Gweinidog, i'r Senedd, ac i bawb sy'n gweithio ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal? Ac mae'n teimlo'n gyfarchiad gwag, braidd, pan ydyn ni'n edrych ar yr heriau y mae'r gwasanaethau hynny'n eu hwynebu. Doeddwn i wir ddim yn gwybod beth i'w ofyn heddiw. Mi allwn i...
Rhun ap Iorwerth: Roedd 'gobaith' yn air a gafodd ei ddefnyddio yn fanna. Mae gen i ofn mai'r Gweinidog yn gobeithio am y gorau ydy hynny; dydy'r NHS ddim yn mynd i ddod dros ei broblemau os ydy'r Gweinidog jest yn gobeithio am y gorau. Ac efo mwy o staff ambiwlans, wrth gwrs, methu cael cleifion i mewn i'r ysbytai mae'r ambiwlans; dydy mwy o staff ambiwlans ddim yn mynd i ddatrys pethau.
Rhun ap Iorwerth: Yn fy ail gwestiwn, serch hynny, rwy'n troi at y gwahanol anghydfodau cyflog—nyrsys yng Nghymru yn streicio am y tro cyntaf yr wythnos hon, staff ambiwlans a bydwragedd i streicio hefyd. Rwy'n awyddus i ddod o hyd i ffordd drwy hyn, ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i ymatal rhag cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon. Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud bod ei dwylo wedi'u clymu. Gadewch imi...
Rhun ap Iorwerth: Mae'n rhaid i fi bwysleisio pwysigrwydd y ddadl yma gan ein meinciau ni y prynhawn yma. Mi ganolbwyntiaf i ar y cysylltiad amlwg iawn rhwng tlodi a phroblemau iechyd. Rydyn ni'n mynd trwy gyfnod ariannol enbyd o anodd ar hyn o bryd. Mae hynny'n amlwg o'r gyllideb ddrafft y cyhoeddwyd ddoe, cyllideb efo cyfyngiadau mawr arni hi mewn amseroedd gwirioneddol galed, a does yna ddim syndod yn y...
Rhun ap Iorwerth: Gaf i ddiolch i Jack am gyflwyno'r ddadl fer heddiw yma? Dwi am fynd â chi nôl yn fyr ryw 30 o flynyddoedd. Roeddwn i'n gadeirydd cangen Prifysgol Cymru o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a ches i fy ngwahodd i fod yn rhan o ddirprwyaeth i fynd i bencadlys Barclays yng Nghymru, ar Queen Street yng Nghaerdydd, i lobïo am allu cael opsiwn Cymraeg ar cash points. Roedd cash points eu hunain yn...
Rhun ap Iorwerth: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y digwyddiad mewnol difrifol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ58933
Rhun ap Iorwerth: Rydyn ni wedi cael dau ddigwyddiad o'r math yma mewn pythefnos yn y gogledd—dau ddigwyddiad mewnol critigol. Ac mi allaf roi sicrwydd i'r Prif Weinidog ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n gritigol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ddydd ar ôl dydd, i gleifion sy'n aros yn hir am driniaeth, i staff sydd yn gweithio dan bwysau rhyfeddol ac i weithwyr ambiwlans sydd wedi cael llond bol ar aros tu...
Rhun ap Iorwerth: Blwyddyn newydd dda i bawb. Yn amlwg, dydy hi ddim wedi bod yn ddechrau da i'r flwyddyn i'r NHS. Does gen i ond diolch i'r staff am eu gwaith nhw mewn amgylchiadau sy'n mynd yn fwy a mwy amhosib.
Rhun ap Iorwerth: Nid hwn oedd y datganiad yr oeddwn i'n ei ddisgwyl heddiw; nid hwn oedd y datganiad yr oedd angen i bobl Cymru ei glywed yn fy marn i. Nid cynllun yw hwn; adroddiad ar sefyllfa yw hwn. Adroddiad yw hwn ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud i geisio paratoi'r GIG ar gyfer y gaeaf, i geisio ymdrin â'r pwysau presennol, ond a dweud y gwir rydym ni'n gwybod nad yw'r hyn a wnaeth y...
Rhun ap Iorwerth: Mae gen i ambell i bwynt arall dwi angen gofyn amdanyn nhw'n sydyn. Mae hi'n amlwg bod y cyfuniad o COVID a'r ffliw yn achosi problemau. Mae yna darged o frechu 75 y cant o bawb sy'n cael cynnig y brechiad. Dim ond rhyw 41 y cant, dwi'n deall, o staff gofal iechyd sydd wedi derbyn y brechiad—41 y cant o'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Ydy'r Gweinidog yn derbyn bod y Llywodraeth yn methu o...
Rhun ap Iorwerth: 6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith i ailagor pont y Borth? OQ58910
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i gadw at yr amserlen yna. Mi allwn ni i gyd gytuno, gobeithio, fod profiad y misoedd diwethaf wedi profi mor fregus ydy'r isadeiledd o ran croesiadau y Fenai. Mae cau Pont y Borth a'r tagfeydd wedyn ar y Britannia wedi creu anghyfleustra mawr ac wedi effeithio ar fusnes yn drwm iawn, nid yn unig yn ardal y Fenai ond ar draws yr ynys. Ac mi wnaf i...
Rhun ap Iorwerth: Mae hon yn ddadl amserol iawn, gan fod mis Ionawr yn Fis Ymwybyddiaeth Caru Eich Iau, ac mae heddiw, 11 Ionawr, yn nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Cenedlaethol ar gyfer Canserau Llai Goroesadwy. Mae'r ddadl yma yn deillio o waith y grŵp trawsbleidiol ar glefyd yr iau a chanser yr iau, sef grŵp dwi'n falch o fod yn aelod ohono fo. Drwy'r grŵp hwnnw, dwi ac eraill yn ymrwymo, wrth gwrs, i dynnu...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac mae Plaid Cymru yn falch iawn o allu cyd-gyflwyno'r cynnig yma. Mae'n bwysig iawn bod yna gefnogaeth ar draws y pleidiau yn fan hyn, a dwi yn apelio ar Aelodau ar y meinciau Llafur i gefnogi'r cynnig. Gadewch i fi fynd â chi nôl i fis Awst, tafarn y Tarw, y Bull, yn Llannerch-y-medd. Dwi ddim yn gwybod sut yn union i ddisgrifio extravaganza cymunedol y...