Jeremy Miles: Mae gan Comisynydd y Gymraeg rôl bwysig fel rheoleiddiwr, a hefyd o ran gweithredu 'Cymraeg 2050'. Fel eiriolwr dros faterion Cymraeg, mae'n bwysig bod y comisiynydd yn herio'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill o bryd i'w gilydd i sicrhau cynnydd a gwella parhaus o ran ymwneud pobl â sefydliadau a'r Gymraeg. Mae'r adroddiad blynyddol yn mynd â ni ar daith drwy waith y comisiynydd, gan...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau ar y ddadl bwysig hon ar adroddiad y comisiynydd. Dwi jest eisiau cloi, os caf, drwy sôn am yr esblygu mae Alun Davies yn sôn amdano fe sydd mor bwysig ym mholisi iaith, a sut ydyn ni'n mynd ati i sicrhau ffyniant yr iaith a mynediad hafal i'r Gymraeg i bawb sydd eisiau ei dysgu hi, a chyfleoedd i bawb. Mae'r gallu a'r hyder i newid...
Jeremy Miles: Mae ein grant datblygu disgyblion—mynediad yn darparu cyllid yn uniongyrchol i deuluoedd cyfoes i brynu gwisg, cit a chyflenwadau eraill ar gyfer yr ysgol. Fe wnes i gyhoeddi taliad untro ychwanegol o £100 i bob plentyn a pherson ifanc sy'n gymwys i gael y grant eleni, gan gynyddu'r cyllid i fwy na £23 miliwn ar gyfer 2022-23.
Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn pellach, ac mae hwn yn bwynt teilwng iawn; mae e yn sefyllfa heriol, fel gwnaeth yr Aelod ddweud. Fe fues i yn ddiweddar yn ysgol Llanishen yn trafod gyda grŵp o ddisgyblion, yn cynnwys Aelod o'r Sened Ieuenctid, oedd wedi bod yn gwneud ymchwil i fewn i impact hyn ar yr ysgol, ac wedi bod yn edrych am ddatrysiadau. Ac roedd e'n ymweliad buddiol ac yn...
Jeremy Miles: Diolch i Joel James am dynnu sylw at y mater hwn. Roedd yn un o'r meysydd blaenoriaeth allweddol i ni yn ystod y pandemig COVID am y rheswm pwysig iawn y mae'n ei nodi—i sicrhau nad oedd anallu i fforddio offer neu gysylltedd digidol yn rhwystr i bobl ifanc allu manteisio ar y dysgu cyfunol a oedd yn digwydd ar y pryd. Fe wnaethom fuddsoddi dros £180 miliwn i ddiogelu ein seilwaith...
Jeremy Miles: Diolch i Vikki Howells am dynnu sylw at y gwaith da sy'n digwydd yn ysgol Capcoch yn Abercwmboi. Rwy'n gobeithio bod y grant datblygu disgyblion—grant mynediad a ddarparwn yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i lawer o deuluoedd, neu lawer o deuluoedd incwm is o leiaf, o amgylch Cymru, gan helpu, fan lleiaf, i gael gwared ar rywfaint o'r pryder sy'n gysylltiedig â phrynu gwisg...
Jeremy Miles: Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn hwnnw. Gallant ddisgwyl i'n hymrwymiad i addysg bellach barhau; roeddwn yn benderfynol y byddem yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw yn ein setliad cyllideb ar gyfer eleni. Felly, ar gyfer y flwyddyn 2022-23, fe welwch fuddsoddiad o dros £400 miliwn yn uniongyrchol i golegau ar gyfer darpariaeth a chymorth craidd, sef y cynnydd mwyaf ers blynyddoedd lawer...
Jeremy Miles: Mae'n hanfodol fod dysgu wyneb yn wyneb o ansawdd uchel yn cael ei gynnal i bob dysgwr pryd bynnag y bydd yn bosibl ac yn ddiogel i wneud hynny. Dylai unrhyw newid i ddysgu o bell fod yn ddewis olaf a dylai ddigwydd mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, er enghraifft lle nodir risg i iechyd a diogelwch neu ddiogelu.
Jeremy Miles: Wel, er eglurder, fel rwy'n deall, ni chafodd y cynnig ei wneud yn ffurfiol. Mae'n ymddangos mai awgrym a wnaed mewn trafodaeth pwyllgor ydoedd, ac sy'n amlwg wedi dod yn wybodaeth gyhoeddus, ond nid oedd erioed yn gynnig ffurfiol, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae Cyngor Sir Powys wedi rhoi sicrwydd nad yw'n rhywbeth y maent yn bwriadu mynd ar ei drywydd. Ysgrifennodd fy swyddogion at y cyngor...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n meddwl bod yr Aelod wedi methu'r pwynt braidd. Yr hyn y mae'r cwricwlwm wedi'i lunio i'w wneud yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael addysg gyflawn a'u bod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus pan fyddant yn gadael ein system addysg, gan ddeall yn llawn yr ystod o hawliau a chyfrifoldebau democrataidd sydd ganddynt; pwysigrwydd gweithredu cymdeithasol; eu grym fel unigolion, ynghyd...
Jeremy Miles: Wel, nid wyf yn siŵr a glywodd yr Aelod fy ateb blaenorol. Pwrpas y cynllun hwn yw gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu manteisio ar amrywiaeth lawn y cwricwlwm. Yn ogystal â'r amcanion ehangach y cyfeiriais atynt yn gynharach, rydym yn glir yn ein hymrwymiad i'n pobl ifanc i'w paratoi ar gyfer byd gwaith, drwy brofiadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd. Rydym hefyd am sicrhau eu bod yn...
Jeremy Miles: Nid wyf yn siŵr pa bwynt y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud; yr hyn a glywais i oedd rhestr o bethau'n beirniadu ein system ysgolion. Rwy'n credu y byddai'n well iddi dreulio ei hamser, os caf ddweud, yn dod o hyd i ffyrdd o graffu arnaf mewn ffordd sy'n cyflwyno dewis arall cadarnhaol. Os nad yw'n credu bod yr hyn a wnawn o fudd i'r system ysgolion, efallai yr hoffai gynnig safbwynt ei...
Jeremy Miles: Wel, fel mae'r Aelod yn ei wybod, roedd gennym ni gyfle yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf i weld, ar draws y Deyrnas Gyfunol, fod cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i'r her o ran chwyddiant sydd wedi digwydd i gyllidebau yma yng Nghymru, fel ar draws y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol. Nid hynny welsom ni. Fe welsom ni rhyw gynnydd yn yr hyn sydd i'w ddisgwyl, ond dyw...
Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am godi'r pwynt hwnnw. O ran y pwynt ehangach, mae'r pwynt mae hi'n ei wneud yn y cyd-destun hwn, fel yn y cwestiwn blaenorol, yn un teilwng o ran pa mor bwysig yw cludiant ar gyfer cael mynediad at addysg yn gyffredinol. Ond oherwydd y dosbarthiad daearyddol, mae'n aml yn benodol o bwysig yng nghyd-destun addysg cyfrwng Cymraeg, fel mae ei chwestiwn hi yn awgrymu. Mae...
Jeremy Miles: Mae ystod o fesurau cymorth ychwanegol ar gael i ddysgwyr ôl-16 sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg—mesurau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru drwy law eu coleg neu eu hysgol. Mae'r rhain yn cynnwys teithio am ddim, neu gyfraniad at y gost, prydau am ddim, nwyddau mislif am ddim, a mynediad at gyllid caledi lle bo ar gael.
Jeremy Miles: Wel, fel mae'r Aelod yn gwybod, ac rwy'n gwybod ei fod e'n cydnabod hyn hefyd, rydyn ni'n gwneud popeth gallwn ni i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu darparu i gefnogi'r rheini sydd eu hangen nhw fwyaf yn ein system addysg ni. O ran yr ymrwymiad i gynnal EMA, mae hynny yn ein rhaglen lywodraethu ni. Rydym ni yn falch ein bod ni wedi parhau â hynny, fel mae'r Alban wedi gwneud...
Jeremy Miles: Fel roeddwn i'n dweud wrth Adam Price yn gynharach—mewn ymateb i Adam Price—er nad ydym wedi gallu cynyddu gwerth y peth, rydym wedi gallu sicrhau bod y cynnig presennol cystal ag y gall fod. Felly, rydym wedi ehangu'r garfan gymwys i gynnwys rhai o'r bobl ifanc fwyaf bregus yng Nghymru, gan gynnwys rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau o deuluoedd y rhai sydd â statws mewnfudo...
Jeremy Miles: Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn darparu cwricwlwm cyfoethog ac eang i bob plentyn, gan sicrhau bod pob plentyn yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau a fydd yn ei alluogi i symud ymlaen i'w lawn botensial, beth bynnag fo'i gefndir. Mae'n trin pob plentyn fel unigolyn, gyda chryfderau ac anghenion gwahanol.
Jeremy Miles: 'Cynnig gobaith' yw'r union ymadrodd cywir yng nghwestiwn John Griffiths. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae Ysgol Gynradd Maendy yn ei wneud. Rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r staff, a byddwn yn falch iawn o ymweld â'r ysgol i weld drosof fy hun y gwaith gwych y gwn eu bod yn ei wneud. Y math o waith y mae'r ysgol yn ei wneud yw'r union fath o waith rydym am weld mwy a mwy o ysgolion yng...
Jeremy Miles: Wel, cyhoeddwyd yr adroddiad y cyfeiria'r Aelod ato yn dilyn y datganiad a wneuthum yn y Senedd, os cofiaf yn iawn—ond gallwch fy nghywiro—yn ôl ym mis Mawrth, a'r araith a wneuthum wedyn i Sefydliad Bevan ym mis Mehefin, rwy'n credu, sy'n nodi rhaglen lawn o ymyriadau o'r blynyddoedd cynnar i ddysgu gydol oes i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a gadarnhawyd i ni yn yr adroddiad y...