Rhun ap Iorwerth: Yr hyn rydym wedi gofyn amdano yw adolygiad gwirioneddol annibynnol o'r cynnig a'r ystadegau sy'n sail iddo. Nid oedd y system fodelu a ddefnyddiwyd wedi'i chynllunio ar gyfer y math hwn o beth. Eisoes mae llawer o'r cleifion ychwanegol y mae'n debyg y gellid eu cyrraedd wedi cael sylw drwy welliannau i ganolfan Caerdydd. A ydych yn cofio'r adroddiadau diweddar ar y gwasanaeth yn tynnu sylw...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn ichi. Dwi'n gwerthfawrogi eich disgrifiad chi o'r sefyllfa a dwi'n falch eich bod chi wedi gofyn i sylwadau heddiw gael eu hystyried. Gaf i ofyn eich barn chi ar un mater o egwyddor? Ydych chi'n cytuno efo fi y byddai hi'n amhriodol i gynyddu faint o gleifion sy'n cael eu cyrraedd mewn un rhan o Gymru ar draul pobl sy'n byw mewn ardaloedd eraill? Rydyn ni i gyd eisiau...
Rhun ap Iorwerth: Dwi innau'n ddiolchgar i Aelod Mynwy am ddewis y testun yma. Mi oedd o'n gyfraniad gwirioneddol feddylgar, dwi'n credu. Dwi'n siŵr y byddai fo ei hun yn cyfaddef nad ydy'r rhain yn syniadau cwbl newydd mae o wedi'u crybwyll. Mae angen dod â'r syniadau o'r math yma at ei gilydd yn y ffordd yma i'r Senedd, achos mae angen arloesi yn y ffyrdd yma er mwyn datrys rhai o'r problemau sydd gennym...
Rhun ap Iorwerth: Rwy'n credu bod mantais wirioneddol o feddwl mewn ffordd gydgysylltiedig am wynt ar y môr oddi ar arfordir gorllewinol Cymru—y môr Celtaidd a môr Iwerddon. Rwy'n credu bod y broses cynnig am borthladd rhydd yn cynnig cyfle i wneud hynny. Nawr, fel y gallwch chi ddychmygu, rwy'n hyderus yn ansawdd cais porthladd rhydd Caergybi/Ynys Môn am yr hyn y gall ei gynnig o ran tyfu'r sector...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am yr ymgynghoriad sy'n digwydd ar hyn o bryd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, er bod hi'n anodd iawn dod o hyd i wybodaeth am yr ymgynghoriad, ynglŷn â newidiadau sy'n cael eu cynnig i wasanaethau ffrwythlondeb yng Nghymru? Dwi'n ofni, er bod yr ymgynghoriad yn dal i barhau, ac wedi cael ei...
Rhun ap Iorwerth: Fe ddechreuaf i mewn ffordd adeiladol gyda'r meysydd hynny lle rwy'n cytuno â'r Gweinidog. O ran materion heblaw am dâl, rwy'n falch bod pwyslais difrifol ar les staff a bod lleihau costau asiantaeth yn rhan o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei weld fel y ffordd ymlaen, er na allwn ddeall agwedd y Prif Weinidog yn llwyr heddiw, pan oedd yn ymddangos ei fod yn amddiffyn y strwythurau y mae...
Rhun ap Iorwerth: 6. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidogion eraill ynghylch cyllido mesurau iechyd ataliol ar draws y Llywodraeth? OQ58961
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna, ond yr un bregeth eto gen i, mae gen i ofn. Mae angen gwneud llawer, llawer mwy ar yr ataliol os ydyn ni am wneud Cymru yn genedl fwy iach, a hynny reit ar draws y Llywodraeth. Yn Ynys Môn mae yna bryderon go iawn am ddyfodol y cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, neu NERS, oherwydd diffyg buddsoddiad. Rŵan, £145,530 mae'r cyngor sir wedi'u derbyn...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: I mi, ni fyddwch yn synnu clywed, mae sicrhau mai Caergybi yw’r porthladd allweddol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ynni gwynt ar y môr ym Môr Iwerddon yn bwysig iawn. Gallai'r cais porthladd rhydd a ddatblygwyd gan Ynys Môn a Stena ar gyfer gogledd Cymru fod yn allweddol yn hynny o beth. Rwy’n siŵr y byddai’r Aelod yn falch fod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau chwarae...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael y cyfle i gyflwyno'r cynnig yma. I barhau efo'r ysbryd rydyn ni wedi ei weld yn y Senedd y prynhawn yma, mi wnaf i bwysleisio bod y cynnig yma â'r bwriad o fod yn adeiladol. Ydy, mae'n feirniadol o reolaeth Llywodraeth Cymru o wasanaethau iechyd a gofal, ac mae hynny, mae gen i ofn, yn seiliedig ar y dystiolaeth glir sydd o'n blaenau...
Rhun ap Iorwerth: Cyn-bennaeth ymchwil yn General Motors, Charles Kettering, a ddywedodd bron i ganrif yn ôl bellach fod 'problem wedi'i datgan yn dda yn broblem sydd wedi hanner ei datrys'. Nawr, pan ddatganodd y Senedd hon argyfwng hinsawdd, roedd yn ddatganiad fod yr her newid hinsawdd a wynebem mor eithriadol fel bod angen ei dyrchafu, ei dyrchafu yn ein seice cenedlaethol, a'i dyrchafu o ran pwysigrwydd...
Rhun ap Iorwerth: Ond mae’n rhaid derbyn bod yna greisis yn gyntaf. Mi ddisgrifiais i’r sefyllfa fel oedd hi ar y pryd yn sesiwn gwestiynau iechyd yma yn y Siambr ym mis Rhagfyr, yn cyfeirio ar y pryd at gyfres o heriau, fel oeddem ni’n eu gweld nhw y diwrnod hwnnw, o bwysau’r gaeaf, argyfwng recriwtio a chadw staff, amseroedd aros am driniaeth mewn adrannau brys, amseroedd aros ambiwlans, ac yn y...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am dderbyn ymyriad. Un awgrym fyddai sicrhau bod Gweithrediaeth GIG Cymru sydd wedi'i sefydlu yn gorff a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol—fod ganddo ddannedd. Dyna'r math o ffocws rwy'n ei olygu o ran strwythurau'r Llywodraeth.
Rhun ap Iorwerth: Os gwnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad, byddaf yn falch o egluro hynny eto.
Rhun ap Iorwerth: Yr hyn a ddywedais oedd y dylai datrys yr anghydfod cyflog fod ar frig y rhestr.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr, Lywydd. Fy ofn mwyaf y prynhawn yma fyddai y byddwn yn clywed y Gweinidog yn dweud, 'Rydym eisoes yn gwneud popeth sydd angen ei wneud i ddatrys yr argyfwng.' Yr hyn a glywsom oedd y Gweinidog yn dweud bod popeth eisoes ar y gweill, mae popeth eisoes yn cael ei wneud i ddatrys yr argyfwng. Mae'n amlwg nad yw hynny'n digwydd, ac mae'n groes i'r holl dystiolaeth sydd gennym o'n...
Rhun ap Iorwerth: Gwnaf, yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Nid oes gennyf ddigon o amser i ddisgrifio'r niwed y credaf y byddai cael y Ceidwadwyr wrth y llyw yn ei achosi i'r gwasanaeth iechyd gwladol. Fe symudaf ymlaen yn gyflym, ac yn ôl at y sylwadau a glywsom gan y Gweinidog iechyd, a oedd unwaith eto'n osgoi'r bai, dro ar ôl tro, a dywedodd fod y galw wedi bod yn ddigynsail. Wrth gwrs fod y galw'n ddigynsail, ond mae'r galw digynsail hwnnw'n...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl yma. Dwi'n falch ein bod ni'n cadw hydrogen ar yr agenda. Mae yna bron i dair blynedd, dwi'n meddwl, ers i fi arwain dadl yn y fan hyn ar hydrogen—un o'r cyntaf, dwi'n meddwl, yma yn y Senedd; dwi wedi arwain un arall ers hynny. Ac ers hynny, rydyn ni wedi gweld dechrau diwydiant hydrogen yng Nghymru. Rôn i'n falch iawn o weld...