Rhun ap Iorwerth: Mae yna gymaint o bethau, wrth gwrs, yn cyfrannu at y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, y math o bwysau a orfododd etholwraig i fi i aros 24 awr am ambiwlans a hithau wedi torri ei chlun. Rŵan, mae'r cynllun pum pwynt ar gyfer y gwasanaethau iechyd a gofal, a gafodd ei gyhoeddi gan Blaid Cymru heddiw mewn partneriaeth efo nifer o gyrff iechyd, yn cyffwrdd â rhai o'r elfennau a allai helpu...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Yn ei hanfod, dwi innau hefyd yn croesawu'r bwriad yn y fan hyn i wneud buddsoddiad yn y gweithlu. Mae'r gweithlu iechyd, wrth gwrs, yn eang iawn, mae o'n amrywiol iawn, ac mae gwasanaeth iechyd a gofal cynhwysfawr a chynaliadwy yn gorfod tynnu at ei gilydd yr ystod eang yna o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n dda ein bod ni rŵan yn siarad am...
Rhun ap Iorwerth: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i gyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group am ei ymgynghoriad i gau ei safle yn Llangefni? TQ720
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ateb yna. Mae'n anodd rhoi mewn geiriau faint o ergyd fyddai hyn pe bai'r ffatri'n cau. Mae dros 700 yn gweithio yno, yng nghalon Môn. Mae cyfran uchel iawn yn byw yn lleol iawn, yn ddigon agos i gerdded i'r gwaith. Mi fyddai colli'r swyddi'n treiddio drwy holl gymuned Llangefni a thu hwnt, a dwi'n meddwl am bawb sy'n cael eu taro gan hyn, yn weithwyr a'u teuluoedd, ac, wrth...
Rhun ap Iorwerth: Rhoddwyd rhestr hir o resymau am y penderfyniad i mi gan brif weithredwr 2 Sisters: Brexit, chwyddiant, prinder gweithlu, COVID, prisiau ynni. Roedd yna elfennau'n ymwneud â chyflwr, maint a lleoliad y ffatri ei hun hefyd, meddai. Ond gallwn weld bod y ffactorau trosfwaol hynny'n rhai sydd o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid inni edrych at Lywodraeth y DU am ymateb...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, dadl ydy hon am y berthynas rhwng y byd digidol a'r byd o'n cwmpas ni, am y rhyngweithio sydd yna rhwng ein defnydd ni o dechnoleg ddigidol a'n pryderon ni am newid hinsawdd. Mi ddywedaf i, reit ar y dechrau, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol, dwi'n eiddgar i'n gweld ni yn gwneud mwy o ddefnydd o blatfformau digidol, i ddatblygu...
Rhun ap Iorwerth: Rhag ofn nad yw'r neges yn ddigon clir: mae anfon llythyr A4 yn allyrru tua 25g o garbon deuocsid; mae e-bost gydag atodiad yn 50g—dwbl—a heb atodiad, 0.3g. Ac e-byst ac atodiadau sydd i gyfrif am 300 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Felly, meddyliwch yn ofalus am gynnwys yr e-bost neu'r atodiad, neu hyd yn oed am anfon yr e-bost o gwbl. I mi, mae'r cysyniad o fod yn fwy...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma, dwi'n credu sydd wedi bod yn un bwysig o ran cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith pobl sydd ddim wedi meddwl am hyn o'r blaen ac atgyfnerthu'r ffaith ein bod ni, fel Senedd, yn barod i gymryd camau i geisio ymateb i broblem sydd ond yn mynd i fynd yn waeth. Dwi'n cydnabod dyw'r Gweinidog ddim wedi'i argyhoeddi bod yn rhaid i hynny...
Rhun ap Iorwerth: Mae dau fater ar waith yma. Mae'n ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol ar gyfer gwyrddu, sy'n bwysig iawn, fel sydd wedi'i gydnabod yma. Mae technoleg ddigidol yn allweddol i bopeth sydd angen inni ei wneud i wella ein gweithredoedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond ar yr un pryd, rhaid inni roi ein sylw i wyrddu digidol. Byddaf yn dal ati i edrych ar yr opsiynau ar gyfer...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wythnos yn ôl, mi oeddem ni'n trafod cynnig gan Blaid Cymru yn galw am ddatgan creisis iechyd yng Nghymru. Yn yr un modd ag y mae arweinydd Llafur wedi galw sefyllfa'r NHS yn Lloegr yn greisis, a Llafur yn yr Alban yn galw sefyllfa'r NHS yn yr Alban yn greisis, mi oeddem ni'n eiddgar i weld Llafur mewn Llywodraeth yng Nghymru yn cydnabod y creisis yma. Gwrthod...
Rhun ap Iorwerth: Nid yw’n gyfrinach ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai’r cam cyntaf i greu’r sylfeini ar gyfer GIG cynaliadwy yw talu gweithwyr yn deg. Honnodd y Prif Weinidog yn ddiweddar y byddai gwneud cynnig cyflog gwell yn golygu mynd ag arian oddi wrth iechyd, ond mae honno’n ffordd mor ffug o edrych ar y sefyllfa, gan mai darparu dyfarniad cyflog credadwy a sylweddol—nid rhywbeth untro,...
Rhun ap Iorwerth: Y rhan arall o hyn yw'r taer angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r cynnydd a welsom mewn gwariant ar asiantaethau—£260 miliwn wedi'i wario ar asiantaethau yn 2022. Nid yw hwnnw'n ffigur bychan. Bu cynnydd o 40 y cant mewn cyfnod byr iawn o amser, a golyga hynny fod arian yn llifo o'r GIG i goffrau cwmnïau preifat fel elw. Rydym yn dymuno gweld, ac yn llwyr gefnogi rolau a gaiff eu...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad byr?
Rhun ap Iorwerth: Mae'n ddrwg gennyf os na chafodd ei wneud yn glir mai cynllun yw hwn a gydgynhyrchwyd gyda'r cyrff iechyd proffesiynol sy'n dweud nad yw Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar y rhain.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
Rhun ap Iorwerth: Fe bwysleisiaf eto ein bod wedi cynllunio'n union faint ac o ble y byddai'r arian yn dod—y £175 miliwn y byddem yn ei gyflwyno o gronfeydd heb eu dyrannu ac ailflaenoriaethu. Rydym wedi ei nodi'n glir iawn.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. I bawb ohonom gael ein gwynt atom, fe ddechreuaf drwy roi ychydig o sylw i gyfraniad Gareth Davies, a siaradodd fel y gwnaeth am ymroddiad Margaret Thatcher i Gymru. Mae gennyf well cof am y ffordd y dinistriodd hi Gymru yn ei chyfnod fel Prif Weinidog. Wyddoch chi beth, ar y meinciau hyn, y Blaid Lafur a ninnau, rydym yn rhannu dirmyg tuag at yr hyn a...
Rhun ap Iorwerth: Gyda phleser.
Rhun ap Iorwerth: Rydych chi wedi sicrhau bod hynny'n cael ei gofnodi heddiw. Bydd gwaddol Margaret Thatcher ar gof a chadw am byth gyda'r difrod a achoswyd i gymunedau Cymru. Yn ôl at gyfraniad Rhianon Passmore, rydym yn rhannu delfryd gyffredin am egwyddorion y GIG, yr egwyddorion y seiliwyd y GIG arnynt, a chyda'n gilydd, rydym eisiau diogelu'r egwyddorion allweddol hynny. Roedd hi'n iawn hefyd i ddweud...
Rhun ap Iorwerth: Wrth gwrs.