Alun Davies: Drwy raglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o dechnolegau digidol a ariennir yn ganolog ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym yn darparu offer ac adnoddau digidol drwy Hwb ac yn buddsoddi’n sylweddol mewn cysylltedd band eang. Fodd bynnag, mae gan ysgolion reolaeth ddirprwyedig i sicrhau bod y technolegau digidol mwyaf priodol ar gael i’w dysgwyr.
Alun Davies: Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ddelyn. Mae ysgol gynradd gymunedol Parc Cornist wedi gwneud cryn gynnydd ers cael ei henwi’n ysgol arloesi ddigidol, gan ddod yn fuddugol, wrth gwrs, yn y categori e-ddiogelwch yng ngwobrau dysgu digidol cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn 2016. Mae hyn bellach, wrth gwrs, wedi’i droi yn astudiaeth achos er mwyn i eraill ddeall a...
Alun Davies: Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn ymuno â phawb i groesawu’r ffaith ein bod bellach wedi cyflawni’r cysylltedd y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn. Credaf iddo ofyn cwestiwn yn ei gylch rai misoedd yn ôl, ac rydym bellach wedi cyflawni ein huchelgais yn hyn o beth. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad ynglŷn â sut yr awn gam ymhellach, a buddsoddi hyd yn oed mwy o adnoddau er mwyn...
Alun Davies: Rwy’n falch iawn o glywed bod ysgol gynradd Cwmdâr yn manteisio ar adnoddau di-dâl Barefoot Computing. Efallai yr hoffai’r Aelodau wybod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda BT i adolygu a datblygu’r adnoddau yn unol â’r cwricwlwm Cymreig a’r fframwaith cymhwysedd digidol. Rydym hefyd yn gweithio gyda BT i hyrwyddo’r gweithdai gwirfoddol, lle mae gwirfoddolwyr yn...
Alun Davies: Llywydd, cyn ateb y cwestiwn hwn, rwyf am ddatgan diddordeb, gan fod gennyf blentyn yn y system ysgolion ym Mhowys. Cyngor Sir Powys yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ym Mhowys, a’r Cyngor, felly, sy’n gyfrifol am bennu trefniadau derbyn a sicrhau bod y trefniadau hyn yn cael eu gweithredu’n deg.
Alun Davies: Hyderaf fod pawb a oedd yn aelodau o Gyngor Sir Powys pan wnaed y penderfyniad hwnnw yn ymwybodol o oblygiadau eu penderfyniadau. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fel cyn aelod o’r awdurdod hwnnw, fod yr awdurdod yn gyfrifol am bennu ei godau derbyn ei hun, a chanlyniadau hynny.
Alun Davies: Ar 30 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd tymor byr a hirdymor. Mae’r canllawiau hyn yn statudol ar gyfer cyrff llywodraethu’r holl ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, ac awdurdodau lleol. Mae’n nodi disgwyliadau clir ynglŷn â sut y dylid cefnogi’r dysgwyr hyn.
Alun Davies: Mae’r Aelod yn anghywir, wrth gwrs, i awgrymu na fydd y Llywodraeth yn cefnogi unrhyw ddiwygiadau i’r Bil hwn. Nid ydym wedi cyrraedd y cam o ystyried unrhyw ddiwygiadau i’r Bil ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, nid ydym wedi cyrraedd diwedd ystyriaeth Cam 1 o’r Bil. Rwy’n hapus iawn â gwaith caled y pwyllgor, o dan arweiniad medrus fy nghyfaill, yr Aelod dros Dorfaen, sydd wedi...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau agoriadol ar rai o'r themâu a phwrpas y ddeddfwriaeth, ac yna defnyddio gweddill fy amser i ymateb i Aelodau, ac i bwyntiau y mae Aelodau’n dymuno eu codi, yn fy sylwadau i gloi.
Alun Davies: Rwy'n credu yr hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma â phwyslais clir iawn ar bwynt a phwrpas y ddeddfwriaeth hon. Pwrpas y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau bod y profiad dysgu cyfoethocaf posibl ar gael i bob dysgwr yng Nghymru. Nid yw'n iawn, ac nid yw'n dderbyniol, nad yw pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth a’r gefnogaeth a'r strwythurau a'r amgylchedd a'r...
Alun Davies: Cadeirydd. Roeddwn yn mynd yn agosach. [Chwerthin.] Rwy’n mynd i gau fy nghyfraniad agoriadol drwy gadarnhau na fyddaf yn cynnig penderfyniad ariannol heddiw. Rwyf wedi ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad y bore yma i amlinellu'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i'r asesiad effaith rheoleiddiol. Rwy’n disgwyl y bydd y fersiwn ddiwygiedig ar gael imi erbyn diwedd toriad yr haf a byddaf yn...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeiryddion y pwyllgorau a'r Aelodau sydd wedi siarad y prynhawn yma. Rwy'n meddwl bod Lynne Neagle, yn ei sylwadau agoriadol, wedi dal hanfod yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni—rhaglen weddnewidiol sy'n gweddnewid bywydau unigolion, o ran eu profiad o addysg, ond hefyd gweddill eu bywydau, yn ogystal, ac mae'r sylw olaf yr ydym newydd ei glywed gan Rhianon...
Alun Davies: Nid dyna’r ffordd yr ydym yn deddfu, wrth gwrs, ond rwy’n anghytuno â chi am yr ateb stoc. Nid oes unrhyw atebion stoc yn y Llywodraeth hon, Darren, fel atebion i gwestiynau sy'n cael eu gofyn, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod hynny. Ond gadewch inni symud ymlaen. Y broses sy'n bwysig. Y rhaglen weddnewidiol, y mae’r Bil hwn yn rhan ohoni, yw'r elfen allweddol...
Alun Davies: Rwyf hefyd am ddweud, i gloi, wrth Huw Irranca-Davies, ac adroddiad y pwyllgor CLA, fy mod wedi treulio llawer o flynyddoedd ar CLAC, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ac mae’r profiad hwnnw wedi fy ngadael bron yn methu â gwrthod derbyn yr argymhellion. Ond byddaf yn ceisio sicrhau ein bod yn symud tuag at ymagwedd fwy cadarnhaol, pan fo hynny'n bosibl o gwbl. Ac yn sicr, o ran y cod—a...
Alun Davies: Gyda dyfodiad strategaeth Llywodraeth Cymru am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rwy’n cytuno bod rhaid inni fod yn gyson ac yn gadarn, gan hoelio sylw agweddau penodol wrth hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Byddwn ni’n lansio ymgyrch cenedlaethol ym mis Medi.
Alun Davies: Rydw i’n bendant yn cytuno bod Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn hynod o lwyddiannus, a dylem ni longyfarch pob un o’r gwirfoddolwyr wnaeth hybu a chyfrannu at lwyddiant Eisteddfod yr Urdd. Rwy’n credu bod lot fawr o Aelodau wedi ymweld â maes yr Eisteddfod ac wedi mwynhau eu hymweliad. Mae Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi gofyn i Aled Roberts wneud arolwg o’r WESPs i gyd, yn cynnwys...
Alun Davies: Rwy’n gobeithio y gallwn roi anogaeth i awdurdodau lleol. Y dull a ddefnyddiais drwy gydol proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg oedd gweithio gyda phobl yn hytrach na gweiddi ar bobl. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom yma, yn y Siambr hon, i weithio gyda’n hawdurdodau lleol ein hunain. Rwy’n sicr yn awyddus i weithio gyda fy awdurdod lleol i ym Mlaenau...
Alun Davies: Yr hyn a welaf, fel y dywedais wrth ateb Huw Irranca-Davies, yw llawer iawn o ewyllys da o bob rhan o’r gymuned, gan gynnwys busnesau, a’r hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud, drwy gyhoeddi’r strategaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y toriad, yw ymgais i sicrhau bod cydweithio yn cael ei wireddu, yn cael ei annog, yn cael ei ddarparu gyda...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a hoffwn ymuno ag aelodau’r pwyllgor i longyfarch eu hunain ar y gwaith y maent wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf. [Chwerthin.] Nid ydynt wedi gwerthu eu hunain ar golled y prynhawn yma, ac yn sicr nid ydynt wedi gwneud hynny yn yr adroddiad a ysgrifennwyd ganddynt y credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn cytuno ei fod yn gampwaith go iawn,...
Alun Davies: Gwnaf, fe wnaf hynny.