David Rees: Diolch am eich ateb, Gweinidog, ac mae’n bwysig ein bod yn sicrhau parch cydradd i gymwysterau galwedigaethol, oherwydd i lawer o bobl, bydd hwnnw’n llwybr cryfach tuag at addysg bellach a chyfleoedd gwaith, ac mae’n galluogi pobl ifanc i ddangos y sgiliau nad yw’r llwybr academaidd, o bosibl, yn eu cynnig. Nawr, fel y cyfryw, mae gormod o rieni a gormod o bobl ifanc yn dal o’r farn...
David Rees: Diolch am gymryd yr ymyriad. Rydych newydd ei ddweud: a ydych yn dweud yn gyhoeddus, cyn i chi gychwyn ar y trafodaethau, fod 27 gwlad yr UE yn bwriadu gwneud cam â ni? Oherwydd dyna beth rydych newydd ei ddweud.
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a gaiff ei wneud o ran strategaeth economaidd a diwydiannol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0602(FM)
David Rees: Wel, diolch i chi am hynna, Prif Weinidog. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd diwydiannau gweithgynhyrchu a pheirianneg, eu cryfderau o fewn economi Cymru. Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn cydnabod yr un peth, trwy roi dur tua gwaelod eu blaenoriaethau. Edrychaf ymlaen at strategaeth Llywodraeth Cymru sy’n gwneud yn siŵr bod dur ar y brig. Ond mae...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y gostyngiad a nodwyd gennych yn yr amseroedd aros am brofion diagnostig. Mae’n bwysig iawn ein bod yn symud pobl drwodd mor gyflym â phosibl. Croesawaf hefyd y buddsoddiad yn y ganolfan yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a roddwyd ar waith i sicrhau bod diagnosteg yn gweithio gyda chlinigwyr ar y safle i wella’r gwasanaeth i bobl. A fyddwch yn creu mwy...
David Rees: Dydd Sadwrn yw Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol. O gwmpas y byd, bydd pobl yn dathlu’r diwrnod y cynhaliodd James Lind y treial clinigol ar hap cyntaf, ar fwrdd llong, ar 20 Mai 1747. Mae Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o dreialon clinigol, ac yn anrhydeddu ymchwilwyr clinigol proffesiynol a’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treialon, drwy gydnabod eu...
David Rees: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd a gaiff ei wneud i wella ansawdd aer ledled Cymru? OAQ(5)0147(ERA)
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod llygredd aer yn effeithio ar ein hamgylchedd ac ar ein hiechyd. O ran y materion amgylcheddol, rydym mewn gwirionedd yn gweld yr effeithiau ar ein rhywogaethau, ein planhigion ac yn ein trefi. Dewch i Tai-bach yn fy etholaeth er mwyn gweld rhai o’r effeithiau gweledol eich hun. Ond hefyd, mae llawer o...
David Rees: 8. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OAQ(5)0625(FM)
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n credu ei fod yn drawiadol, yr ateb yr ydych chi wedi ei roi. Ond, yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod ag uwch reolwyr yng ngwaith Port Talbot, ac roeddem ni’n trafod y cynnydd a wnaed o fewn y sector, ac yn enwedig yn y gwaith. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dod i'r casgliad, yn anffodus, bod heriau difrifol yn dal i wynebu’r sector...
David Rees: Diolch i’r Aelod. Rydych newydd ddweud am sylw Keir Starmer; a fyddech yn cytuno mai un o’r chwe phwynt a nododd oedd bod gennym yr un manteision â phe baem yn aelod o’r farchnad sengl Ewropeaidd a’r undeb tollau, ac felly nid bod yn aelod o reidrwydd ond y manteision a gawn ohono sy’n bwysig?
David Rees: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru, mewn gwirionedd, am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma, ar y diwrnod cyn yr etholiad cyffredinol ac fel y dywedodd Simon Thomas, ar fater a fu’n achos dros alw’r etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, rwy’n siomedig iawn eu bod wedi ceisio cynnwys cymaint yn y cynnig, gan fod pob rhan o’r cynnig a phob is-ran mewn gwirionedd yn haeddu ystyriaeth yn ei hawl...
David Rees: Prif Weinidog, mae profiad gwaith yn hollbwysig i bobl ifanc, ac mae'r rheini ag anawsterau dysgu a chyflyrau niwrolegol eraill efallai, fel awtistiaeth, y byddwn yn eu trafod yfory, yn aml yn ei chael hi’n anodd mynd allan i'r gweithle. Nawr, ceir rhai ysgolion sy’n cynnal lleoliadau gwaith cymathedig, ac, i’r rheini, mae'n wych gan eu bod nhw mewn amgylchedd diogel a chyfarwydd. Ond...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Iau diwethaf, gwelsom lawer o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ar draws y DU, yn cael eu hysbrydoli—yn bennaf gan Jeremy Corbyn—i gymryd rhan ac arfer eu hawliau a lleisio eu barn. A ydych yn cytuno, os yw’r Cynulliad hwn yn symud ymlaen i gynnig pleidlais i rai 16 a 17 oed—? [Torri ar draws.] Rwy’n siomedig nad yw’r Aelodau’n...
David Rees: Rwy’n credu, y prynhawn yma, ein bod wedi gweld, fel y mae’r rhan fwyaf o’r Aelodau ar draws y Siambr—Leanne Wood, Lynne Neagle, Mark Isherwood—wedi amlygu, fod pawb ohonom yn derbyn llawer o sylwadau gan deuluoedd sydd â phlant neu frodyr a chwiorydd yn byw gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Maent yn aml yn dod i’n swyddfeydd yn flin, dan straen, yn bryderus, wedi...
David Rees: A gaf fi ddiolch i’r Aelod dros Gastell-nedd am y ddadl heno ac am gynnig munud o’i amser i mi? Mae wedi siarad am Batagonia a’n symud draw yno yn y 1850au, ond a gaf fi hefyd ei atgoffa ynglŷn â ble arall y mynegwyd ein gwerthoedd sy’n seiliedig ar degwch a chyfiawnder cymdeithasol? Fe’u mynegwyd gan y llu o ddinasyddion Cymru a ymunodd â’r frigâd ryngwladol yn rhyfel cartref...
David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a'r papur a gynhyrchodd ac a gyhoeddodd ddydd Iau diwethaf? Rwy'n meddwl, wrth i’r pwyllgor gymryd tystiolaeth dros y 12 mis diwethaf, ein bod wedi nodi nifer o faterion. A gwnaethoch siarad am y Cydbwyllgor Gweinidogion—rwy’n meddwl, o'n hadroddiad cyntaf ymlaen, bod y Cydbwyllgor Gweinidogion...
David Rees: Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. Rwyf eisiau eglurhad ar un peth. Rydym yn siarad o hyd am aelodaeth o’r farchnad sengl. A oes diffiniad cyfreithiol ar gael o aelodaeth o’r farchnad sengl, er mwyn inni allu bod yn glir ynglŷn â’r hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd?
David Rees: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiadau a wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cynnig ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ(5)0161(ERA)