Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Gynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon a gyhoeddwyd fis Ionawr 2017?
Suzy Davies: Fe sonioch am y blaengynllun yno, ond yn ôl swyddogion, mae cynllun datblygu lleol cyngor Abertawe, sydd braidd yn ddadleuol, rhaid cyfaddef, yn debygol o gael ei ohirio yn awr, ac mae rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif yn anelu i fynd i’r afael â chapasiti, wrth gwrs, mewn ysgolion sy’n orlawn a’r rhai sydd â lleoedd gwag. Os caiff y cynllun datblygu lleol ei ohirio, pa effaith...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Cynulliad am y cyfle i fod yr Aelod cyntaf i ddefnyddio’r darn newydd hwn o fusnes? Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyn-reolwr swyddfa, Mark Major, a ddaeth â’r pwnc i fy sylw pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad. Dechreuodd ymgyrch chwe blynedd gyda datganiad barn yn 2011, yn gofyn am gefnogaeth i wneud addysgu sgiliau achub bywyd brys yn orfodol yn...
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi hyn heddiw, a diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad wyf yn gwrthwynebu’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud? Yr hyn rwy’n ei ddweud yw ei fod yn mynd i gymryd llawer gormod o amser. Mae’n cymryd dwy awr i hyfforddi plentyn i achub bywyd; mae’n cymryd 10 munud i ladd rhywun sy’n dioddef trawiad ar y galon. Felly, rwy’n...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Wel, mae’n ddrwg gennyf eich siomi, Weinidog, ond fi sy’n mynd i gloi’r ddadl. Parch cydradd—am hynny y buom yn siarad heddiw, nes iddo golli ei ffordd yn yr ychydig funudau diwethaf. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi bod hon wedi bod yn ddadl eithaf cydsyniol, ac am reswm da iawn hefyd: mae parch cydradd yn dda i’r economi, mae’n dda i’r colegau a’r...
Suzy Davies: Iawn. Diolch.
Suzy Davies: Da iawn. [Chwerthin.] Weinidog, mae eich pwynt ynglŷn â chwalu rhwystrau rhwng yr ysgol a’r coleg yn un da iawn mewn gwirionedd, a buaswn yn cytuno â chi ar hynny. Mewn gwirionedd, fe ddywedoch y pethau iawn i gyd hyd y diwedd yn y fan honno, ond mae angen i ni eu gweld yn digwydd yn awr. Rwy’n erfyn arnoch yn wir: rhowch y gorau i gwyno a chynlluniwch. Cynlluniwch ar gyfer gwario’r...
Suzy Davies: Brif Weinidog, rwy’n gobeithio y bydd cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ebrill yn ffrwythlon o ran hyrwyddo ein pysgod cregyn i’r holl fyd, nid i'r Undeb Ewropeaidd yn unig. Ond, fel y gwyddoch, mae lefel y paraseitiaid a geir mewn cocos o fornant Porth Tywyn, oddi ar arfordir Gŵyr, yn uwch na'r disgwyl. Wrth gwrs, os ydym ni’n mynd i fodloni’r galw byd-eang, rydym ni angen ein...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad hefyd? Nid wyf i’n mynd i gwyno am unrhyw arian sy’n mynd tuag at y celfyddydau, ond rwy'n credu bod rhai cwestiynau pwysig y mae angen eu hateb, er gwaethaf eich atebion i nifer o unigolion sydd wedi eu gofyn heddiw. Rwy’n derbyn eich pwynt yn llwyr bod y penderfyniadau ynghylch sut y dylid gwario'r...
Suzy Davies: Wel, Aelodau, rwy’n meddwl ein bod yn sefyll ar drothwy rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol. Rwy'n meddwl bod angen dewrder neilltuol i wynebu newidiadau gwleidyddol byd-eang ac wedyn penderfynu dod â rhywbeth da ohonynt. Weithiau, gall dod â’r peth da hwnnw allan fod yn seismig ynddo ei hun, gan fabwysiadu ffordd newydd o feddwl. Nawr, gyda rhai o fy nghydweithwyr, rwyf newydd ddod yn...
Suzy Davies: Yn fyr iawn. Mae'n araith eithaf hir, mae'n ddrwg gennyf, Simon.
Suzy Davies: Wel, dyna beth yr wyf yn dod ato, oherwydd, o ran gwerth am arian, rwy'n gofyn: pam ar y ddaear na wnawn ni ddarganfod hyn? Mae morlynnoedd llanw yn ffordd newydd o feddwl. Fel CERN, hwn fydd y cyntaf yn y byd. Mae hwn yn ddiwydiant newydd, yn ddiwydiant byd-eang, gyda goblygiadau byd-eang, ac mae gennyn ni yma yn y DU. Nid yw'n gwestiwn o 'gallem', David Melding; mae'n fater o 'dylem'. Mae...
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud nad wyf yn aml yn mynd yn grac iawn yn y Siambr hon â'r sylwadau a wneir gan aelodau o bob plaid, ond roeddwn yn grac am yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden. Nid yw’r blaid hon erioed wedi beirniadu’r parafeddygon na'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Rydym wedi bod yn feirniadol o'r amserau na lwyddwyd i’w bodloni dan fersiwn blaenorol y polisi hwn, ac roedd...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch am eich atebion hyd yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hoffwn roi cynnig arall ar gwpl o gwestiynau, gan nad ydym wedi cael atebion iddynt. [Torri ar draws.] Pryd oedd y tro cyntaf i chi glywed am y senario waethaf hon? Mae’r AS dros Ben-y-bont ar Ogwr yn cyfaddef nad oedd yn gwybod unrhyw beth am hyn, felly rwy’n meddwl tybed a oeddech chi. A allwch roi ateb...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Fe wnaethoch ddelio â hynny’n daclus iawn, mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allech roi syniad i ni pryd y gallwn ddisgwyl ymateb llawn i’r adroddiad Cymru Hanesyddol. Gobeithiaf y gallwch wneud hynny heddiw, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad i ni. Tan hynny, rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ffaith fod eich rhagflaenwyr, er gwaethaf fy...
Suzy Davies: Diolch yn fawr am eich ateb. Rwyf am symud ymlaen yn awr at rywbeth arall yr ydym wedi bod yn aros peth amser amdano, sef yr adolygiad o amgueddfeydd bychain, a gyflwynodd adroddiad ym mis Awst 2015. Cafodd ei groesawu gan y sector, ac er i’r Llywodraeth oedi am chwe mis cyn ymateb i’r argymhellion, maent yn awyddus i weld cynnydd. Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf nad yw rhai o’r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr eich ateb. Byddaf yn sicr yn ei gyfleu i’r sector, os nad ydynt eisoes wedi’i gael drwy hyn. Rwyf am symud ymlaen at rywbeth ychydig yn wahanol yn awr, sef y ffaith fod Cymru’n wlad o fusnesau bach, gyda llawer ohonynt yn bartneriaethau yn hytrach na chwmnïau, sy’n golygu eu bod yn gweithredu yn unol â rheolau treth incwm yn hytrach na’r dreth gorfforaeth. Tybed pa...
Suzy Davies: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynyddu cynhyrchiant economaidd yn ninas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0129(EI)
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, ac yn amlwg, yn lleol, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe. Er bod denu cyflogwyr mawr i ranbarth yn bwysig ar gyfer swyddi a’r economi, mae 99 y cant o’n busnesau yn fentrau bach a chanolig eu maint, a 75 y cant yn ficrofusnesau mewn gwirionedd, fel y gwyddoch eisoes, sy’n golygu bod busnesau bach yn chwarae rhan...
Suzy Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch wrthyf mewn perthynas â diogelu treftadaeth i allu hyrwyddo twristiaeth ffydd, ei bod hi’n hanfodol fod Croeso Cymru yn defnyddio ei sgiliau i hyrwyddo Cymru o amgylch y byd ac i gynnig cyngor yn ogystal. Er eich bod wedi nodi bod Cadw wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â Thyndyrn a Glyn y Groes, nid oes yr un o’r...