Altaf Hussain: Diolch, Weinidog. Ym mis Mawrth 2020, nododd Llywodraeth Cymru fod cyfanswm holl gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn £1.5 biliwn, ac roeddent wedi cynyddu 42 y cant i £2.13 biliwn erbyn mis Mawrth 2021. I roi hyn yn ei gyd-destun, yn y flwyddyn ariannol hon, roedd y grant cynnal refeniw a ddyrannwyd gennych i awdurdodau lleol yn £3.9 biliwn. Rwy’n derbyn bod angen i awdurdodau lleol...
Altaf Hussain: Weinidog, mae’r Bil hwn wedi’i gefnogi gan yr RSPCA, y Dogs Trust a Chymdeithas Milfeddygon Prydain, ac mae pob un ohonynt yn cydnabod y bydd y ddeddfwriaeth yn gwella safonau lles, yn anad dim drwy sicrhau mai dyma'r wlad gyntaf yn Ewrop i wahardd allforio anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi. A yw’r Gweinidog yn derbyn bod y cyflawniad hwn, ynghyd â’r mesurau i fynd i’r afael...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae ymgyrch gynyddol yng Nghymru nawr, dan arweiniad pum elusen lles anifeiliaid, yn galw am wahardd rasio milgwn. Mae'r Dogs Trust, Blue Cross, Greyhound Rescue Wales, Hope Rescue a'r RSPCA yn credu ar y cyd fod rasio milgwn yn achosi dioddefaint creulon ac echrydus i'r cŵn. A wnaiff y Gweinidog sicrhau datganiad ysgrifenedig yn cadarnhau sefyllfa Llywodraeth Cymru ar rasio...
Altaf Hussain: Weinidog, un o'r camau gweithredu yn y cynllun yw archwilio ffyrdd y gellir cael gwared ar ddulliau adnabod personol diangen, megis enw, oedran, a dynodwyr rhywedd o'r ddogfennaeth, yn enwedig mewn arferion recriwtio. Gallai hyn hefyd fod o gymorth i leihau'r risg o wahaniaethu yn erbyn rhywun o gefndir lleiafrifol ethnig. I ba raddau rydych chi wedi llwyddo i gyflawni'r cam gweithredu hwn? A...
Altaf Hussain: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig ac amserol hon. Fel AS y mae fy rhanbarth yn cwmpasu bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r trafodaethau hyn yn bwysig iawn i fy etholwyr, etholwyr sy'n cael eu cythruddo'n fawr gan y digwyddiadau a arweiniodd at, ac yn ymwneud â llofruddiaeth drasig Logan Mwangi. Mae Gareth eisoes wedi amlinellu llinell...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn. Diolch. —gyda'r canlyniad trasig a ganiataodd i fachgen ifanc gael ei lofruddio gan yr union bobl a oedd i fod i ofalu amdano a'i feithrin. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r drasiedi hon, ond nid wyf wedi cael fy argyhoeddi fod hyn yn wir, ac nid wyf wedi cael fy argyhoeddi na fydd yr un peth yn digwydd mewn awdurdodau lleol eraill yn...
Altaf Hussain: Ein busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn ein heconomi, ac mae o fudd i'r genedl fod cwmnïau'n cael eu cynnal ac yn tyfu. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Banc Datblygu Cymru ynglŷn â'r risg i hyfywedd busnesau dros y chwech i 12 mis nesaf, a’r potensial ar gyfer cymorth a allai fod ar gael? Diolch.
Altaf Hussain: Weinidog, yn yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi ailadrodd yr angen ichi amlinellu canlyniad yr uwchgynhadledd ar ganser a gynhaliwyd dros fis yn ôl i’r Senedd, ac a ddisgrifiwyd fel un ddigynsail ac arwyddocaol, lle cytunwyd ar nifer o gamau allweddol. Pa gynnydd a wnaethoch ar fwrw ymlaen â’r cytundeb hwn, a pham fod y Llywodraeth hon wedi methu ymateb yn gyflym i’r brys amlwg...
Altaf Hussain: Fel aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon ar ein hadroddiad ar drais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol. Cyn imi ystyried rhai o’r negeseuon a’r heriau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad hwn, hoffwn ddiolch i gadeirydd ein pwyllgor, Jenny Rathbone, i'n holl staff sydd wedi cefnogi’r ymchwiliad hwn, ac yn...
Altaf Hussain: Prynhawn da, Prif Weinidog.
Altaf Hussain: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddileu arosiadau aml-flwyddyn am driniaeth yn y GIG? OQ58907
Altaf Hussain: Diolch yn fawr Prif Weinidog. Wrth gwrs, rydym i gyd yn cydnabod y straen aruthrol sydd ar ein GIG ar hyn o bryd, ond mae arosiadau aml-flwyddyn wedi bod o gwmpas ers ymhell cyn y pandemig, yn enwedig mewn orthopedeg. Mae un o fy etholwyr wedi bod yn aros am ben-glin newydd ers 2019. Mae wedi bod yn aros mewn poen dros dair blynedd a hanner, a'r cwbl y mae'r bwrdd iechyd lleol yn ei ddweud...
Altaf Hussain: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Bob blwyddyn, mae'r gaeaf yn dod, bob blwyddyn, mae pwysau'r gaeaf arnom, a dydyn ni ddim wedi dysgu unrhyw wersi. Mae'r cyhoeddiad a wnaed yr wythnos ddiwethaf, a oedd yn dweud y gallai cleifion gael eu rhyddhau heb fod angen pecyn gofal arnynt, yn codi pryderon moesegol, cydraddoldeb a hawliau dynol difrifol. Mae meddygon wedi condemnio'r polisi hwn fel...
Altaf Hussain: Weinidog, er y camau breision a gymerwyd i lanhau ein hafonydd dros y degawdau diwethaf, llygredd yw’r bygythiad mwyaf i fioamrywiaeth o hyd. Hoffwn dynnu sylw at y broblem benodol ar afon Tawe. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad yw’r gwaith i atal carthion heb eu trin rhag cael eu gollwng yn rheolaidd i mewn i afon Tawe o waith trin dŵr gwastraff Trebanos yn ne Cymru yn...
Altaf Hussain: 4. Sut bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu'r nifer sy'n dewis pynciau STEM ymhlith myfyrwyr Gorllewin De Cymru? OQ58908
Altaf Hussain: Diolch. Yr wythnos diwethaf, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Sony Bridgend, sy'n ymddeol, fod angen i Gymru fod yn fwy arloesol, ac mai'r allwedd i'n llwyddiant fydd addysgu, meithrin a chadw talent yma yng Nghymru. Mae Mr Dalton yn credu bod dyfodol gwych i weithgynhyrchu yng Nghymru os gallwn ddysgu arloesi, datblygu technolegau gwyrdd a chanolbwyntio ar farchnadoedd heb eu cyffwrdd y tu allan...
Altaf Hussain: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Joel James am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae hefyd yn ddadl amserol, gan ein bod yn ei chael yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Carwch eich Afu, yn ogystal ag ar adeg o argyfwng iechyd cyhoeddus mewn perthynas â chlefyd yr afu. Fe wyddom fod nifer y bobl 65 oed ac iau sy'n marw o glefyd yr afu wedi cynyddu 400 y cant, sy'n syfrdanol. Mae modd atal naw o bob...
Altaf Hussain: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu gwelliannau effeithlonrwydd ynni i stoc tai cymdeithasol Cymru. Yn ddiweddar, dadorchuddiodd Cyfeillion y Ddaear Cymru eu rhestr o gymdogaethau oeraf Cymru. Gwnaethon nhw gyfrifo'r mannau argyfwng ynni mwyaf problemus gan ddefnyddio ystadegau ar ddefnydd a phris tanwydd. Cafodd y...
Altaf Hussain: Weinidog, mae'n sicr mai’r ffordd orau i lywodraeth leol gefnogi eu trigolion yw osgoi codiadau yn y dreth gyngor. Mae costau ynni cynyddol oherwydd rhyfel anghyfreithlon Putin a chostau bwyd cynyddol o ganlyniad i'r pandemig a newid hinsawdd yn taro aelwydydd yn galed. Y peth olaf sydd ei angen arnynt yw rhagor o godiadau treth. Weinidog, a wnewch chi annog cymedroldeb ymhlith eich...
Altaf Hussain: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru yn gyfeillgar i bryfed peillio? OQ58955