Rhianon Passmore: A wnewch chi gymryd cwestiwn?
Rhianon Passmore: A fuasech yn cydnabod, fel y sonioch chi’n gynharach, fod £210 miliwn hyd yn hyn, ynghyd ag £20 miliwn, wedi mynd tuag at ardrethi busnes annomestig yng Nghymru? Mewn perthynas â Lloegr, mae llai na thraean wedi cael rhyddhad ardrethi o’r fath. A fuasech yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn hynny o beth, a hefyd yr ymgynghoriad presennol? Ac o ran y lluosydd...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, dywedodd Andrew Evans, ar ôl iddo gael ei benodi’n brif swyddog fferyllol Cymru, ac rwy'n dyfynnu: Mae fferyllwyr yng Nghymru yn chwarae rhan ganolog yn ymgyrch llywodraeth Cymru i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion yn brydlon ac yn nes at eu cartrefi. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fferyllwyr a phroffesiynau iechyd a gofal eraill, gan adeiladu ar y gwelliannau...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ba un a wnaed unrhyw gynnydd ar ddatganoliad Llywodraeth Dorïaidd y DU o'r holl bwerau sydd eu hangen i Lywodraeth Cymru i sicrhau proses dendro lwyddiannus o fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau? Mae pobl Cymru eisiau gweld Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwbl gyfrifol am y...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, gwnaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU wyriad chwerthinllyd o'i hobsesiwn ideolegol â chyni cyllidol yn ddiweddar pan gyhoeddodd y byddai swyddogion yr heddlu yn cael bonws o 1 y cant wedi ei ariannu o'r cyllidebau presennol. Dywedodd Steve White, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr y byddai'r cyhoeddiad hwn yn gadael llawer o swyddogion yn ddig ac yn siomedig. Nid oeddem...
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y tasglu gweinidogol ar gyfer cymoedd y de? (OAQ51222)
Rhianon Passmore: A gaf i longyfarch y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC, am y ffordd frwdfrydig ac egnïol y mae wedi lansio ei dasglu Cymoedd gweinidogol? Mae'r tasglu wedi datgan y bydd hefyd yn archwilio cysyniad parc tirlun y Cymoedd i helpu cymunedau lleol i adeiladu ar lawer o asedau naturiol, gan gynnwys y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni cymunedol a thwristiaeth. A wnaiff y Prif...
Rhianon Passmore: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd safon ansawdd tai Cymru? (OAQ51196)
Rhianon Passmore: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ffigurau a ryddhawyd, fel y dywedoch, yn gynharach y mis hwn, yn dangos bod 86 y cant o’r holl dai cymdeithasol wedi bodloni safon ansawdd tai Cymru erbyn 31 Mawrth, sef cynnydd o saith pwynt canran, yn wahanol i Loegr lle y bu dadfuddsoddi. Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol, ac yn...
Rhianon Passmore: Dychmygwch fy syndod o weld bod y ddadl hon gan y Torïaid gerbron y Senedd yn cynnig haelfrydedd tybiedig—yr un grŵp o Aelodau gyferbyn sy’n cefnogi’r polisi cyni ideolegol, obsesiynol y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei orfodi ar ddioddefwyr yn ddidrugaredd: er enghraifft, diddymu budd-dal tai ar gyfer rhai 16 a 17 oed, a lle y maent mewn grym, fel yn Lloegr, cael gwared ar y...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. Fel y nodwyd, o ran gwella cyfleoedd bywyd, lles a photensial pobl ifanc, sut rydych yn gweld ffactoreiddio’r ochr i’r geiniog lle’r ydych yn mynd i gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i dalu am y polisi arfaethedig bendigedig hwn?
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i bortffolio'r economi a'r seilwaith mewn perthynas â rhwydwaith rheilffyrdd Cymru?
Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd. Roedd Carl Sargeant, yr Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn ffrind i mi, mae yn ffrind i mi, a bydd yn ffrind i mi am byth. Nid oes geiriau yn ddigon trist i fynegi'r golled. Bernie, gwraig Carl, a Jack a Lucy, ei fab a'i ferch, rwyf eisiau ichi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hunain. Mae llawer o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru hwn a oedd yn caru ac yn...
Rhianon Passmore: 2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae rhaglen cyni Llywodraeth y DU wedi'i chael yng Nghymru? OAQ51268
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Bydd Canghellor Llywodraeth Dorïaidd y DU, Philip Hammond, yn cyflwyno ei gyllideb ar 22 Tachwedd yn siambr Tŷ'r Cyffredin. Yn ddiweddar, cafodd Gweinidogion cyllid Cymru a'r Alban gyfarfod ar y cyd gyda swyddogion y Trysorlys yn y cyfarfod cyllid pedair ochrog yn Llundain. Yn y cyfarfod hwnnw, gwnaeth Weinidogion cyllid Cymru a'r Alban alwad eglur a diamwys i...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod 86,238 o landlordiaid wedi eu cofrestru erbyn hyn, sy'n golygu bod amcangyfrif o 3,762 yn gosod adeiladau yn anghyfreithlon. Mae cofrestru fel landlordiaid yn costio £33.50 os caiff ei wneud ar-lein, ac £80.50 ar bapur, waeth faint o adeiladau sydd ganddyn nhw. Lansiwyd y cynllun ar 23 Tachwedd 2015, gan roi 12 mis i...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos, drwy ei dull rhagweithiol o reoleiddio, gorfodi a mentrau ehangach, y gellir gwneud cynnydd mawr i ddiogelu amgylchedd Cymru. Gwelir hyn yn amlwg yn uchelgais rhagweithiol Llywodraeth Lafur Cymru i Gymru ailgylchu 70 y cant o'r holl wastraff erbyn 2025 a bod yn ddi-wastraff erbyn 2050, gyda dros 60 y cant o'n gwastraff dinesig yng...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn awgrymu bod gan aelwydydd lle ceir plant gyfradd uwch o amddifadedd incwm na'r boblogaeth yn gyffredinol, gyda 24 y cant o aelwydydd o'r fath mewn amddifadedd, o'i gymharu ag 16 y cant yn gyffredinol. Mae Aelodau yn y Senedd hon yn ymwybodol iawn bod credyd cynhwysol, y taliad misol sengl sy'n disodli'r chwe budd-dal oedran gweithio...