Darren Millar: Prif Weinidog, un peth y gellir ei wneud yw datblygu mwy o arfer ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion. Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ag Ysgol Pen-y-Bryn ym Mae Colwyn yn fy etholaeth fy hun ddiwedd y llynedd, lle y cyfarfu â rhai o'r plant a'r staff yn yr ysgol a oedd wedi bod yn arfer ymwybyddiaeth ofalgar, ac roeddent yn siarad yn angerddol am effaith ymwybyddiaeth ofalgar yn...
Darren Millar: Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar eich atebion i'r cwestiynau hyn am y problemau a wynebir gan fyrddau iechyd. Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod braidd yn haerllug eich bod chi yn eistedd yn fanna yn beirniadu’r byrddau iechyd, yn dweud wrthyn nhw bod yn rhaid cael trefn ar bethau o ran cyllid, tra eich bod yn gyfrifol am un o'r byrddau iechyd hynny sydd yn destun mesurau arbennig. Diffyg...
Darren Millar: Mae'n destun mesurau arbennig o achos rheoli cyllid.
Darren Millar: Dyna oedd un o'r rhesymau yr aeth yn destun mesurau arbennig.
Darren Millar: Arweinydd y tŷ, tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y rhaglen cynnal a chadw cefnffyrdd yn y gogledd. Achoswyd llawer o anghyfleustra i’m hetholwyr i ac i ymwelwyr â’r gogledd dros y penwythnos o ganlyniad i'r gwaith ffordd ar yr A55 yn nhwneli Conwy ac, yn wir, yn Hen Golwyn, yn fy etholaeth i fy hun. Arweiniodd at dagfeydd 13...
Darren Millar: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ba mor ddigonol yw amddiffynfeydd llifogydd arfordirol yng Ngorllewin Clwyd?
Darren Millar: A gaf fi ofyn i chi, Gweinidog, o gofio bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig—? Rydym bron i ddwy flynedd i mewn i’r mesurau arbennig hynny, ac un o’r rhesymau pam y cafodd ei wneud yn destun mesurau arbennig oedd oherwydd y perfformiad yn erbyn amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, gan gynnwys amseroedd aros orthopedig. Dros y cyfnod y mae wedi bod yn destun mesurau...
Darren Millar: Cant a deuddeg wythnos yw’r amser aros arferol.
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Rwyf am gynnig gwelliannau 4 a 5 ar y papur trefn, ond ni fyddaf yn cynnig gwelliant 2, gan ein bod yn bwriadu tynnu’r gwelliant hwnnw’n ôl, gyda’ch caniatâd, Llywydd, oherwydd byddwn yn cefnogi gwelliant 1 ar y papur trefn. Rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn siomedig fod y ddadl hon yn cael ei defnyddio i dynnu sylw at un mater penodol mewn un rhan o Gymru. Rwy’n...
Darren Millar: Rwy’n cytuno’n llwyr â’r farn honno. Mae’n rhaid i ni hyrwyddo ac mae’n rhaid i ni berswadio oherwydd ceir rhai pobl sydd angen mwy o ddarbwyllo nag a wnaethom hyn yn hyn. Mae angen i’n system gyn-ysgol yn ogystal â’n hysgolion yma yng Nghymru gael cyfle i dyfu nifer y lleoedd a chapasiti. Nid yw ein sector addysg bellach yn benodol wedi’i baratoi’n arbennig o dda ar gyfer...
Darren Millar: Prif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi mai un o'r ffyrdd o wella iechyd plant yw sicrhau mynediad priodol at nyrsys ysgol ledled Cymru? A wnaiff ef longyfarch y gweithlu nyrsys ysgol sydd gennym ni yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith rhagorol o ran imiwneiddio a negeseuon iechyd y cyhoedd yn ein hysgolion, ac, yn benodol, yr unigryw Judith Jerwood yn eich etholaeth eich hun, sy’n gweithio...
Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog, hefyd, am ei ddatganiad? A gaf i roi ar gofnod y ffaith bod fy mhlaid yn croesawu penodiad Margaret Jervis i gynnal yr adolygiad hwn o 'Ymestyn Hawliau'? Credaf fod hynny'n benodiad rhagorol, o ystyried ei phrofiad gyda Plant y Cymoedd a sefydliadau eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n unigolyn cryf iawn i ymgymryd â’r swyddogaeth...
Darren Millar: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymestyn yr hawl i gael gofal plant am ddim? OAQ(5)0129(CC)
Darren Millar: Rwy’n ymwybodol iawn o’r cynlluniau peilot, a hoffwn ddiolch i’r Llywodraeth am wneud y datganiad am y rheini’n ddiweddar iawn, ond rwy’n bryderus—yn bryderus iawn yn wir—ynghylch sylwadau’r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yr wythnos hon ynglŷn â gallu’r sector preifat sydd eisiau gweithio gyda’r Llywodraeth, fel y gwyddoch, i gyflawni’r ymrwymiad hollbwysig...
Darren Millar: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae’n bwysig fod gennym lywodraeth leol gref yng Nghymru, ac wrth gwrs mae gennym enghreifftiau gwych o awdurdodau lleol sy’n gweithio ar ran yr holl bobl sy’n byw yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, Cyngor Sir Fynwy yn arbennig. Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau sylweddol wedi bod ar gyllid cyhoeddus yn gyffredinol...
Darren Millar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am sawl datganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar wasanaethau casglu gwastraff? Un peth sydd ar feddwl llawer o’m hetholwyr, yn enwedig yng Nghonwy, yw'r broses o gyflwyno casgliadau bin bob pedair wythnos, sydd wrth gwrs wedi ei gefnogi gan y Blaid Lafur, Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol yn...
Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad GIG Cymru?
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb i Joyce Watson, cyfeiriasoch at welliannau i’r seilwaith trafnidiaeth, ac yn wir, cafwyd sawl cyhoeddiad mewn perthynas â buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’w wneud, naill ai ar ei phen ei hun neu mewn partneriaeth ag eraill yn ne Cymru—ffordd liniaru’r M4, terfynfeydd newydd ym Maes Awyr Caerdydd, system metro de Cymru ac ati. Ac...
Darren Millar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr archwiliad sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i adroddiadau y gallai ansawdd y gofal a gafodd cleifion dementia ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd fod wedi cyfrannu at o leiaf saith o farwolaethau? TAQ(5)0156(HWS)
Darren Millar: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r sylwadau hyn, a wnaed mewn llythyrau i deuluoedd cleifion yng ngogledd Cymru, yn peri cryn bryder. Ac o ystyried bod bron i ddwy flynedd bellach ers cyflwyno mesurau arbennig, a bod oddeutu dwy flynedd a hanner ers cyhoeddi adroddiad Donna Ockenden ar gam-drin sefydliadol ar ward Tawel Fan, bydd yn peri cryn bryder fod rhai unigolion yn dal...