David Melding: A gaf fi ddweud fy mod wedi fy nghyffroi’n fawr—roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol mewn gwirionedd—pan gyflwynodd comisiwn Brandt eu hadroddiad? Rwy’n gwybod na fydd hyn yn ei wneud ronyn yn fwy apelgar i blaid benodol ond wrth gwrs, Edward Heath oedd un o’i brif aelodau. Sefydlodd y comisiwn y targed o 0.7 o’r cynnyrch gwladol gros y dylid ei neilltuo ar gyfer cymorth rhyngwladol....
David Melding: Mae Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar gymorth uniongyrchol i Lywodraethau. Nid yw’n digwydd rhagor. Rydym yn rhoi cymorth i bartneriaid rhyngwladol fel UNICEF, i sefydliadau, i elusennau Prydeinig sy’n gweithio yno, ac i fentrau cydweithredol a’u tebyg cyrff cymunedol eraill yn y gwledydd hyn. Nid ydym yn rhoi arian i Lywodraethau tramor fel cymorth.
David Melding: A gaf fi ddweud y bydd y grŵp Ceidwadol yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru hefyd oherwydd ein bod yn credu bod angen i ni gael mynegiant unedig, ar ran y pleidiau eraill o leiaf? Rydym yn dehongli’r alwad am bolisi rhyngwladol cynhwysfawr fel un sy’n gweithio drwy sefydliadau Prydeinig megis y swyddfa dramor a’r Cyngor Prydeinig, rhag ofn y bydd pobl yn meddwl ein bod wedi mynd i ganlyn...
David Melding: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros y GIG yng Nghanol De Cymru?
David Melding: Fel cadeirydd grŵp Plaid Geidwadol Cymru a'r unig Aelod a etholwyd gyntaf yn 1999, anrhydedd trist yw traddodi’r deyrnged hon. Pan ddaeth Rhodri yn Brif Weinidog ym mis Chwefror 2000 roedd datganoli yn strwythur digon simsan. Roedd wedi ei gymeradwyo gan yr etholwyr o drwch blewyn yn unig, roedd diffyg arweinyddiaeth bendant ac nid oedd wedi creu Llywodraeth sefydlog. Darparodd Rhodri yr...
David Melding: 2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r diffyg ffrwythau a llysiau yng Nghymru? OAQ(5)0150(ERA)
David Melding: Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a chroeso’n ôl, gyda llaw. Dyma fy nghyfle cyntaf i ddweud hynny wrthych. Nid ydym ond yn cynhyrchu oddeutu 10 y cant o’r hyn a ddefnyddiwn, felly mae’r diffyg gymaint â 90 y cant, yn sicr o ran ffrwythau a llysiau y gellir eu tyfu yn ein hinsawdd. Gyda 2 y cant o dir amaethyddol Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffrwythau a llysiau, er bod...
David Melding: 6. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ôl troed ecolegol amgylcheddau trefol Cymru? OAQ(5)0144(ERA)
David Melding: Prif—Prif Weinidog? Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Oedd, roedd hwnnw’n ddyrchafiad cyflym. Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio cymaint o adnoddau ag a wnawn yng Nghymru, byddai angen 2.5 planed arnom. Roeddwn yn edrych ar yr adroddiad ‘Ecological and Carbon Footprints of Wales’ gan Sefydliad Amgylcheddol Stockholm yn 2015, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, rwy’n falch o...
David Melding: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwreiddio egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei gwaith? OAQ(5)0145(CC)
David Melding: Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r safonau cyfranogiad cenedlaethol yn nodi beth y gall plant ei ddisgwyl gan y gwasanaethau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Cafodd y safonau hyn eu hadolygu y llynedd yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac o ganlyniad, roedd angen diweddaru canllawiau er mwyn i awdurdodau lleol wella eu gwaith hunanasesu. Rwy’n meddwl tybed a yw’r canllawiau...
David Melding: 8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o adroddiad Breuddwydion Cudd Comisiynydd Plant Cymru? OAQ(5)0144(CC)
David Melding: Ac rwy’n croesawu cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn fawr iawn. Credaf fod honno’n ffordd arloesol a chreadigol o wella lles bywydau llawer o blant sy’n derbyn gofal. Tybed hefyd faint o argraff a wnaed arnoch gan ganfyddiadau’r comisiynydd fod angen i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, yr adran dai a’r adran addysg gydweithredu a chydlynu eu gwaith i wella annibyniaeth y rhai sy’n...
David Melding: A gaf fi ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Mae gorfodi deddfau lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd yn briodol yn bwysig iawn—mae’r rhain yn gyfrifoldebau pwysig. Ac wrth gwrs, gyda gorfodaeth effeithiol, ceir hunangydymffurfiaeth a chydymffurfiaeth naturiol gynyddol. Dyna, mae’n debyg, yw’r hyn rydym ei eisiau. Mae’r pwerau hyn wedi cael eu harfer gan...
David Melding: Llawer iawn o fisoedd.
David Melding: A gaf fi ddechrau drwy fod yn gwrtais a chanmol menter Plaid Cymru yn defnyddio’r hyblygrwydd newydd yn adnoddau’r Cynulliad i gomisiynu prosiectau ymchwil? Yn gyffredinol, rwy’n meddwl ei fod yn syniad da ac er tegwch, rydych wedi cyflwyno eich syniadau a gallwn gael dadl ardderchog, rwy’n siŵr, ar y cynnig hwn. Felly, rwy’n credu bod angen mwy o hyn, ac rydych yn haeddu ymateb...
David Melding: Gwnaf.
David Melding: Wel, mae’n dod â mi’n daclus at y pwynt nad yw’n farchnad effeithlon na pherffaith.
David Melding: Gallaf glywed Aelod UKIP yn mwmian, ‘Nid oes ateb perffaith chwaith’, ac mae’n debyg bod hynny’n crynhoi’r anhawster rydym ynddo. Ond mae prisiau ynni yn uchel ac maent hefyd yn anodd iawn eu deall pan fyddwch yn cael eich bil ynni. Oni bai eich bod wedi gwneud mathemateg ddwbl ar gyfer Safon Uwch, nid wyf yn meddwl bod gennych obaith, ac efallai y bydd angen i chi fod wedi astudio...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi’n cytuno y dylem ni fod yn anelu am gytundeb da—cytundeb da i’r Deyrnas Unedig, cytundeb da i Gymru, a chytundeb da i'r Undeb Ewropeaidd—ac rwy'n hyderus iawn mai dyna fydd yn digwydd. Ond, a gaf i eich cyfeirio chi at ragolwg economaidd y DU a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, a nododd—ac roedd hyn ar y tueddiadau cyn Brexit—bod ein...