Sam Rowlands: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar, heddiw, am allu cyflwyno ein cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Nawr, pan osodwyd Betsi mewn mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015, ni fyddai neb wedi credu ein bod, saith mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i drafod methiannau difrifol yn y bwrdd iechyd....
Sam Rowlands: Cyn imi symud ymlaen at brofiad cleifion, rwyf am gofnodi fy niolch i'r staff gwych yn Betsi, a nodi hefyd fod fy mrawd a fy chwaer ill dau yn nyrsys yn y GIG. Pan fyddaf yn siarad â staff—boed yn feddygon, nyrsys, bydwragedd, staff cymorth, staff gweinyddol—mae’r stori bob amser yr un fath: maent yn gwneud eu gorau glas, ddydd ar ôl dydd, ond nid ydynt yn cael eu cefnogi gan y...
Sam Rowlands: Yr wythnos hon yw Wythnos Iechyd Dynion 2022, wythnos sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o’r problemau iechyd sy’n effeithio’n anghymesur ar ddynion, gan ganolbwyntio ar annog dynion i ddod yn ymwybodol o broblemau a allai fod ganddynt neu y gallent eu datblygu, a'u hannog i fagu’r dewrder i wneud rhywbeth am y peth. Mae rhai o'r ystadegau ynglŷn ag iechyd dynion yn eithaf brawychus....
Sam Rowlands: A gaf fi hefyd ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r hyn a fydd, gobeithio, yn ddadl gynhyrchiol iawn, ac rwy'n fodlon dweud ar y meinciau hyn, fel y crybwyllwyd eisoes, y byddwn yn ei chefnogi? Wrth gwrs, rwyf hefyd yn gweld hon yn ddadl hynod o amserol gyda'r sector hydrogen, yn ei gyfanrwydd, yn datblygu'n gyflym ledled y byd, ac mae fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, eisoes wedi'i amlygu fel un...
Sam Rowlands: A gaf innau hefyd ddiolch i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl fer bwysig heddiw ac am ganiatáu imi gyfrannu'n fyr heno? Fel y dywedais droeon yn y Siambr, mae cerddoriaeth yn eithriadol o bwysig i'n diwylliant yma yng Nghymru, ac mae'n bwysig i bobl o bob cefndir, i bob math o wahanol bobl, ac ar wahanol adegau yn eu bywydau hefyd. Yn ogystal â hyn, mae cerddoriaeth wedi bod yn fuddiol i...
Sam Rowlands: Diolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am gyflwyno'r cwestiwn pwysig ac amserol iawn hwn, oherwydd yr wythnos diwethaf croesewais ddisgyblion o ysgol gynradd y Santes Fair, Brymbo i'r Senedd yma, ac roedd ganddynt gryn ddiddordeb mewn sesiwn holi ac ateb fywiog, ac anodd ar adegau efallai, yn enwedig pan ofynnwyd i mi am gyfyngiadau oedran mewn perthynas â llafnau. Ond roedd un o'r cwestiynau...
Sam Rowlands: A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r cwestiwn hwn hefyd, oherwydd mae gennyf innau hefyd ddiddordeb brwd mewn addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy? Ac fel y dywedodd yr Aelod, mae'n bwysig ein bod yn galluogi addysg Gymraeg ac yn annog mwy o bobl i siarad a dysgu Cymraeg.
Sam Rowlands: Ers dod yn Aelod o'r Senedd, rwyf wedi cael y pleser o ymuno â chynllun dysgu Cymraeg y Senedd, ac rwy'n mwynhau'n fawr iawn.
Sam Rowlands: Ond fel y gwyddom, Weinidog, mae llawer o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn deillio'n bennaf o waith ein hawdurdodau lleol gydag ysgolion, gan weithio gyda chonsortia rhanbarthol, megis GwE yn y gogledd. Felly, yng ngoleuni hyn, pa asesiad a wnaethoch o'r cydweithio rhwng awdurdodau lleol yn y gogledd sy'n gweithio gyda GwE, gan weithio gydag ysgolion, fel y gallant weithio fel tîm i gyflawni...
Sam Rowlands: Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r cynnig heddiw, hefyd i Buffy Williams a Luke Fletcher am ei gyd-gyflwyno. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, roeddwn yn falch o allu cofnodi fy nghefnogaeth i'r cynnig heddiw, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n siŵr, nid wyf byth yn colli cyfle i siarad am ein cymunedau lleol, yn enwedig eu grymuso, fel sydd mor bwysig, fel yr amlinellwyd eisoes ar y...
Sam Rowlands: Mae'n nodi ym mhwynt 4 y cynnig heddiw fod 'awdurdodau lleol yn aml yn chwarae rôl bwysig 'o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau,' wrth weithio gyda grwpiau cymunedol. Nawr, gwnaeth Luke Fletcher bwynt da yn yr ystyr nad yw rhai o'r pwerau presennol efallai mor dryloyw nac mor hawdd ag y dylent fod i grwpiau cymunedol ymgysylltu â hwy. Ond hefyd, fel yr amlinellir ym mhwynt 2, y...
Sam Rowlands: Yn sicr, Rhianon.
Sam Rowlands: Diolch yn fawr iawn.
Sam Rowlands: Rydych chi'n hollol gywir; fel y dywedais, mae cyllid yn elfen bwysig o hyn, ac mae gan awdurdodau lleol rôl i'w chwarae yn hynny. Er hynny, credaf mai'r hyn y soniwn amdano yma yw asedau mewn gwirionedd, perchnogaeth ar bethau, nid mynd drwy awdurdodau lleol yn unig, ond ar lefel fwy lleol fyth, gyda grwpiau cymunedol, unrhyw un sy'n gweld rhywbeth y maent yn credu ei fod yn gwneud...
Sam Rowlands: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at ddeintyddion y GIG yng Ngogledd Cymru? OQ58262
Sam Rowlands: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond serch hynny, rwy'n cael fy llethu, mewn gwirionedd, gan y nifer o etholwyr sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'u hanawsterau o ran cael gafael ar ddeintyddion y GIG yn y gogledd. Mae nifer o etholwyr wedi bod mewn cysylltiad o Wrecsam sydd wedi cael gwybod y bydd yn...
Sam Rowlands: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, o’ch trafodaethau parhaus ag arweinwyr cynghorau, un o’r pethau pwysicaf ar gyfer cyngor llwyddiannus yw’r gallu i flaengynllunio yn ariannol. Wrth gwrs, mae'r cyhoeddiad y llynedd ein bod ar setliad dangosol tair blynedd yn sicr wedi'i groesawu gennyf fi a'r cynghorau yn gyffredinol. Felly, yng ngoleuni hyn,...
Sam Rowlands: Diolch, Weinidog, a diolch hefyd am gydnabod y pwysau y mae awdurdodau lleol yn debygol o'i wynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf gyda’r setliadau dangosol y maent yn debygol o’u cael. Fel y gwyddom, mae setliadau llywodraeth leol yn darparu oddeutu 70 y cant o wariant awdurdod lleol yn eu hardal, sydd, wrth gwrs, yn darparu’r gwasanaethau hanfodol y mae cynghorau a chynghorwyr am eu...
Sam Rowlands: Unwaith eto, diolch, Weinidog. Byddai’n ddiddorol clywed, efallai mewn ymateb pellach, am unrhyw beth penodol y credwch y gallai cynghorau wneud llai ohono. Cytunaf yn llwyr mai mater i’r aelodau democrataidd lleol hynny yw gwneud y penderfyniad hwnnw, ond rwy’n siŵr y byddai awgrym o beth y gallai rhai o’r disgwyliadau hynny fod yn ddefnyddiol. Wrth gwrs, mae fformiwla gyllido deg...
Sam Rowlands: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr yng Ngogledd Cymru? OQ58261