Samuel Kurtz: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i annog diwydiant i leihau allyriadau niweidiol?
Samuel Kurtz: Diolch am eich ateb, Weinidog. Ond ar bwnc blaenoriaethau gwariant, hoffwn godi mater cadwraeth adeiladau hanesyddol Cymru gyda chi, gan fod llawer ohonynt yn y gorllewin. Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â chastell Pictwn, adeilad canoloesol a drawsnewidiwyd yn blasty yn y ddeunawfed ganrif gan y teulu Philipps. Mae hanes y castell ei hun wedi'i wreiddio yn ein diwylliant, ein...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Weinidog, fe ddechreuaf gyda physgodfeydd, os caf, gan fod gwahoddiadau wedi'u hanfon bellach at randdeiliaid i ymuno â grŵp cynghori'r Gweinidog ar gyfer pysgodfeydd Cymru, grŵp newydd yr wyf fi a rhanddeiliaid yn gobeithio y bydd yn arwain at well ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector yma yng Nghymru. O gofio bod hwn yn grŵp newydd sy'n awyddus i dyfu'r...
Samuel Kurtz: Diolch. Weinidog, rwyf am dynnu eich sylw hefyd at y nifer o deuluoedd sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin sy'n chwilio am loches yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch, rhaid i'r anifeiliaid anwes teuluol sy'n dymuno ymuno â'u perchnogion yng Nghymru fodloni meini prawf penodol er mwyn gwneud hynny: rhaid iddynt gael eu brechu rhag y gynddaredd, cael microsglodyn, cael triniaeth llyngyr, a meddu ar...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am hynny, Weinidog, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny'n ysgrifenedig gyda chi. Yn olaf, hoffwn dynnu eich sylw at y digwyddiad 'Dathlu Cymru Wledig' diweddar, a gynhaliwyd ar faes y Sioe Frenhinol yn gynharach y mis hwn, digwyddiad y nododd datganiad i'r wasg eich Llywodraeth ei fod yn gyfle 'i ddysgu'r gwersi o lwyddiannau niferus y CDG'— cynllun datblygu gwledig a...
Samuel Kurtz: Rwy’n falch fod gennym gyfle arall i godi mater cadw adran damweiniau ac achosion brys sydd ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy dalu teyrnged i ymdrechion pobl leol sir Benfro, sydd wedi cydgysylltu a threfnu’r ddeiseb ddiweddaraf...
Samuel Kurtz: Weinidog, nid fy etholwyr i nac etholwyr Paul yn unig yw’r rhain, maent yn etholwyr i chi hefyd. Nid ydynt yn cefnogi'r cynigion i gael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys. A fyddech cystal â chynnig rhywfaint o sicrwydd i fy etholwyr i, Paul, Joyce, Jayne, Cefin, a chithau, na fydd bywydau’n cael eu peryglu pe bai gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn symud ymhellach...
Samuel Kurtz: Diolch. Rwy'n ddiolchgar ichi am dderbyn yr ymyriad. Rydych wedi sôn am ddiabetes math 1 a math 2, ond un sydd i gyfrif am oddeutu 9 y cant o'r holl achosion yw diabetes math 3c, sef rhywbeth y mae fy nhad yn dioddef ohono, ac mae hwnnw'n mynd heb ddiagnosis yn llawer rhy aml i'r rhai sy'n dioddef o lid y pancreas a chanser y pancreas. Beth arall, yn eich barn chi, y gallwn ei wneud i...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am roi munud o'i amser i mi. O ran gwneud Cymru'n genedl bêl-droed flaenllaw, hoffwn dalu teyrnged i'r hyfforddwyr, sy'n aml yn rhoi o'u hamser yn rhad ac am ddim. Ac un o'r hyfforddwyr a lwyddodd i fy nenu i i gymryd rhan mewn pêl-droed flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn yn fachgen ifanc, oedd Matthew 'Minty' Lamb, a fu'n hyfforddwr...
Samuel Kurtz: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion newydd ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy? TQ654
Samuel Kurtz: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n falch o weld faint o gynnydd y mae’r datganiad hwn wedi'i wneud ers ymgynghoriad cychwynnol 'Brexit a’n tir’ yn 2018, lle trafodwyd arian yn lle arian Ewrop am y tro cyntaf. Yn gyntaf, rwy'n siomedig, o ystyried y datganiad i’r wasg sy’n galw hwn yn gyhoeddiad pwysig—ac yn wir, mae'n bwysig, gan mai dyma’r cynllun a fydd ar waith yn lle...
Samuel Kurtz: Iawn, wrth gwrs. Mae gennyf lawer o gwestiynau ar hyn, Ddirprwy Lywydd, felly—
Samuel Kurtz: Wel, diolch yn fawr iawn. Ond o ran hyn, mae llawer o wahanol fathau o ffermydd yng Nghymru—sut y gall gorchudd cyffredinol o 10 y cant fod yn berthnasol i ffermydd ar arfordir Cymru, lle na all coed dyfu cystal ag ar ffermydd mewndirol? Rwy’n derbyn yr hyn y mae’r Dirprwy Lywydd wedi’i ddweud, felly rwyf am ddirwyn i ben yn y fan honno, ond hoffwn glywed mwy am y cynllun ffermio...
Samuel Kurtz: Diolch, James. Dyna un o'r pethau sy'n peri pryder gwirioneddol yn hyn—nad yw llawer o'r eiddo a fydd yn cael eu llyffetheirio gan hyn erioed wedi bod yn eiddo preswyl. Maent yn dai allan sydd wedi cael eu datblygu ar ffermydd, er enghraifft, nad ydynt erioed wedi bod yn gartrefi parhaol i bobl, ond sy'n rhan mor bwysig o'r economi leol.
Samuel Kurtz: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno hyn heddiw, ac am roi golwg ymlaen llaw i ni ar y datganiad. A allaf ddechrau drwy groesawu cyfeiriad cyffredinol y cyhoeddiad heddiw? Fel disgybl a elwodd o addysg ddwyieithog, mae'n dda gweld bod addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion cynradd yn flaenoriaeth, gan ei bod yn bwysig dal plant yn ifanc i ddatblygu'r iaith. Byddwn yn awyddus i ddeall sut y bydd y...
Samuel Kurtz: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddatgarboneiddio diwydiant yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu. Mae TB buchol wedi bod yn gwmwl tywyll dros ddiwydiant amaethyddol Cymru ers gormod o amser, gan achosi i rai ffermwyr golli eu busnesau, eu bywoliaeth a chan effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd meddwl. A dweud y gwir, nid wyf yn poeni pwy gaiff y clod am ddileu TB o fuchesi Cymru, oherwydd ei fod yn glefyd mor filain sy'n achosi caledi aruthrol, rwyf...
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, yng Nghyfarfod Llawn olaf y tymor yn cyn toriad yr haf, rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ar bwnc sy’n agos iawn at fy nghalon. Mae ein dadl heddiw yn talu teyrnged i’r gwaith caled a wneir i drefnu, rhedeg a chynnal ein sioeau amaethyddol, ein digwyddiadau diwylliannol mawr, megis yr Eisteddfod Genedlaethol, a digwyddiadau...
Samuel Kurtz: Mae ein heisteddfodau yn hollol bwysig i gryfhau ac amddiffyn ein hiaith a'n diwylliant. Fel crwt ifanc, roedd wythnosau'r haf yn llawn trafaelu ar draws gorllewin Cymru yn cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol yn llefaru cerddi ar y llwyfan, ac ambell waith, fe wnes i ennill gwpan neu ddau. Pan gafodd Eisteddfod 2020 ei gohirio oherwydd y pandemig COVID-19, dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod...
Samuel Kurtz: Y digwyddiadau hyn yw'r llinyn arian sy'n rhedeg drwy stori a naratif ein hanes a'n diwylliant. Ni ellir gorbwysleisio eu pwysigrwydd a'u cyfraniad. Felly, Aelodau, wrth i'r haul dywynnu arnom ac wrth inni gynllunio ein hymweliadau yn ystod toriad yr haf, rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig ger eich bron heddiw, ond rwyf hefyd yn eich annog chi i gyd i ymweld â'n sioeau amaethyddol, ein...