Gareth Davies: Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Weinidog. Gellir mynd i'r afael â'r mwyafrif helaeth o'r problemau sy'n wynebu Cymru heddiw drwy gael mwy o wyddonwyr, peirianwyr a mathemategwyr. Mae mathemategwyr wedi dyfeisio ffordd well o drefnu llawdriniaethau gyda'r nod o leihau nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo. Mae arnom angen mwy o feddygon, radiograffwyr a thechnegwyr labordy er mwyn...
Gareth Davies: Darllenais adroddiad gwirio ansawdd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y bore yma, ac roedd ei gynnwys yn frawychus—yn wirioneddol frawychus. Ac rwy’n bryderus iawn am ddiogelwch fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd, ac rwy'n bryderus hefyd am fy etholwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r ysbyty ac arweinyddiaeth y bwrdd iechyd wedi gwneud cam â'r cleifion a'r staff dros...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma ar bwnc mor hanfodol bwysig. Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed wedi bod dan bwysau difrifol ers blynyddoedd lawer, ond mae'r pandemig wedi gwaethygu'r problemau, fel y nodwyd yn eang yn ystod y ddadl heddiw, o ran amseroedd aros, ond hefyd o ran cynyddu'r niferoedd sydd...
Gareth Davies: Gwnaf, wrth gwrs.
Gareth Davies: Roeddwn yn talu sylw, ond roeddwn am amlygu'r angen gwirioneddol am yr adolygiad i wasanaethau CAMHS, sydd wedi'i ohirio ers amser maith ac mae'n hen bryd ei gael. Felly, Weinidog, byddwn yn croesawu rhywfaint o frys gyda'r adolygiad CAMHS hwnnw, a byddwn yn awyddus i glywed datganiad gennych maes o law ynglŷn â sut rydych yn bwrw ymlaen â hynny. Fel y soniwyd, soniodd James am brofiadau...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a dyma fi eto. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Samuel Kurtz heno. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bûm yn arolygu fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd i ganfod beth yw eu pryderon mwyaf, yn ogystal â'u blaenoriaethau allweddol ar gyfer y Senedd wrth inni gefnu ar y pandemig. Un o'r themâu mwyaf syfrdanol a ddaeth i'r amlwg oedd y nifer fawr o...
Gareth Davies: Fel rhywun a fu'n gweithio ar reng flaen ein GIG ers dros ddegawd, gallaf dystio'n bersonol i'r straen enfawr sydd wedi bod ar ein systemau iechyd a gofal. A phan gafodd feirws marwol ei daflu i mewn i'r pair, mae'n wyrth lwyr na wnaeth y system dorri. Ond i ymroddiad fy nghyn-gydweithwyr yn y GIG y mae'r diolch na ddigwyddodd hynny, nid oherwydd unrhyw arweiniad o'r brig. Mae'r rhan fwyaf...
Gareth Davies: Diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Ac, er fy mod i'n croesawu'r datganiad a chyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol ar anabledd dysgu, mae arnaf i ofn bod y cynllun unwaith eto'n gyfres o ddyheadau a geiriau cynnes, nid cynllun yn unrhyw wir ystyr y gair. Yr hyn y mae'r ddogfen yr ydych chi wedi'i chyhoeddi yn ei ddangos yw bod Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai...
Gareth Davies: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Chyngor Sir Ddinbych ynghylch ariannu pont Llannerch newydd rhwng Trefnant a Thremeirchion? OQ58085
Gareth Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y gallwch ddychmygu, mae fy etholwyr yn teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd y sefyllfa hon. Bron i flwyddyn a hanner ar ôl dinistrio pont hanesyddol Llannerch, mae cymunedau Trefnant a Thremeirchion yn parhau i fod wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd, gan orfodi teithiau hirach yn y car a dim llwybr teithio llesol. Nid yw fy etholwyr yn poeni am y ddadl...
Gareth Davies: Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Nid wyf yn cytuno’n llwyr â holl gynsail y cynnig, ond mae’n dal yn bwysig, ar yr un pryd, ein bod yn cael y ddadl. Dywedaf o'r cychwyn cyntaf y dylai datgarboneiddio fod yn brif flaenoriaeth i ni, gan ein bod yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac mae fy etholwyr eisoes yn dioddef effeithiau tymereddau sy'n...
Gareth Davies: Nid wyf yn siarad y prynhawn yma i achub cam Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno â chynnig Plaid Cymru y prynhawn yma a safbwynt y rhai sy'n tynnu eu llinynnau yn Llywodraeth Cymru. Ni fydd Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd dros y tair blynedd nesaf am nad yw'n cael cyllid yr arferai ei gael, ac nid yw Llywodraeth y DU ychwaith wedi tanseilio gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio...
Gareth Davies: Na. Byddwn wedi derbyn pe bawn yn derbyn ymyriad.
Gareth Davies: Roedd yn frawychus felly pan fethodd ar bob cyfrif wrth i Gymru ddod yn gymwys unwaith eto ar gyfer cronfeydd strwythurol. Hyd yn oed ar ôl i'r UE gael ei ehangu drwy dderbyn hen wladwriaethau cytundeb Warsaw o ddwyrain Ewrop, er bod biliynau o ewros yn cael eu pwmpio i orllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd ein gwlad yn dal i fod mor dlawd, neu hyd yn oed yn dlotach, na llawer o'r hen wledydd...
Gareth Davies: —ein gwelliant heno. Diolch yn fawr iawn.
Gareth Davies: Angerddol, Lywydd.
Gareth Davies: Prif Weinidog, gwelsom gynnydd enfawr yn nifer y plant ar gofrestr amddiffyn hyd yn oed cyn y pandemig, felly Duw a ŵyr sut mae'r sefyllfa nawr mewn gwirionedd. Oherwydd rydym ni'n gwybod bod y gwasanaethau cymdeithasol o dan straen aruthrol, yn brin o staff ac yn gorweithio, dydyn ni wir ddim yn gwybod beth sy'n cael ei fethu neu pwy sy'n cael ei fethu. Rydym ni'n gwybod bod gofal...
Gareth Davies: Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Y gwirionedd trist yw, yr oedd Ysbyty Glan Clwyd, yn ôl yn yr 1980au a'r 1990au, yn un o'r ysbytai a oedd yn perfformio orau nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU, felly mae'n drist gweld sut y daeth tro ar fyd, a dweud y lleiaf. Dim ond ychydig o gwestiynau sydd gennyf i y prynhawn yma. A ydych chi'n credu'n ddiffuant y gall y mesurau hyn yr...
Gareth Davies: Nid yw'n syndod y prynhawn yma na allaf gefnogi ehangu'r Senedd, ac felly byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig sydd ger ein bron heno; nid yw'n brynhawn bellach, yw hi? Felly, yr hyn sydd ger ein bron heno yw cynllun ar gyfer mwy o wleidyddion, nid cynllun ar gyfer gwell democratiaeth. Ac rydym yn Senedd ifanc, a phrin fod y paent yn sych ar y waliau i nodi ein newid o Gynulliad...
Gareth Davies: Yn anffodus, mae gofal iechyd yn Nyffryn Clwyd, yn llanastr gwirioneddol ac mae wedi bod felly ers blynyddoedd lawer bellach, wrth i Lywodraethau Llafur olynol fethu cael rheolaeth ar faterion recriwtio. Nid oes ond raid ichi edrych ar wefan Betsi Cadwaladr. Rwy'n credu, ar hyn o bryd, fod yno oddeutu saith neu wyth tudalen o swyddi gwag, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt, a bod yn onest, yn staff...