Delyth Jewell: Cyn dechrau, hoffwn ddiolch ar goedd i'r Gweinidog a'r Llywodraeth, a datgan fy nghefnogaeth i'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd wrth ymestyn y cyfyngiadau ar symud. Ar y darn hwn o ddeddfwriaeth, mae'r Gweinidog a'i thîm wedi gwneud llawer iawn o waith eisoes, ac rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan John Griffiths, â minnau'n aelod o'i bwyllgor. Pan gyflwynwyd y Bil am y tro cyntaf,...
Delyth Jewell: Prif Weinidog, ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd eich Llywodraeth newid polisi yn ymwneud â phrofi pobl yn symud o'r ysbyty yn ôl i gartrefi gofal. Tan ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd preswylwyr cartrefi gofal yn symud yn rheolaidd rhwng ysbytai a chartrefi gofal heb gael eu profi, ond mae hynny wedi ei ddatrys erbyn hyn. Ond rwyf i wedi siarad ag un rheolwr cartref gofal sy'n credu ei bod...
Delyth Jewell: Gweinidog, mae data SYG yn awgrymu bod nifer y marwolaethau yn sgil COVID-19 mewn cartrefi gofal gryn dipyn yn uwch na'r hyn a gofnodir, ac rwyf wedi edrych ar ddata Aneurin Bevan ac mae'n dangos bod cynnydd yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i farwolaethau nad ydynt yn farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal eleni. Nawr, nid dyna'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl wrth symud o'r gaeaf i'r...
Delyth Jewell: Gweinidog, rwyf fi eisiau gofyn rhywbeth am y sector addysg uwch, plîs. Mae'r prif sylw wedi bod ar sicrhau parhad mewn addysg yn y sector ysgolion, yn enwedig bod angen blaenoriaethu beth mae disgyblion blwyddyn 12 yn ei wneud ar gyfer lefel A, ond gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd, wrth gynllunio'r dyfodol, ar sicrhau amharu cyn lleied â phosibl ar ddilyniant dysgu yn y meysydd dysgu...
Delyth Jewell: Rwyf i hefyd yn diolch i chi, Gweinidog, am fod mor adeiladol ac am groesawu sylwadau craffu yn yr argyfwng hwn. Hoffwn i ategu'r hyn a ddywedodd David Melding am ddigartrefedd. Rwy'n credu bod yr argyfwng hwn yn dangos nad yw llawer o'r anghyfiawnderau beunyddiol yr ydym mor gyfarwydd â nhw yn anochel. Felly, o ran y pwynt yr ydych newydd ei wneud ar ddiwedd ateb David Melding, a wnewch chi...
Delyth Jewell: Diolch i chi am hynny, Gweinidog. Gan droi at lywodraeth leol, mae awdurdodau lleol wedi dweud ei bod yn anodd iddyn nhw gynllunio sut y byddan nhw'n dosbarthu cyfarpar diogelu personol oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod ymlaen llaw faint y byddan nhw'n ei gael, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni pryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddweud wrthyn nhw ymlaen llaw faint o stoc y byddan...
Delyth Jewell: Mae Llywodraeth y DU yn treialu ap olrhain cysylltiadau sy'n gofyn i ddefnyddwyr a oes ganddynt unrhyw symptomau, ac os oes, yn gofyn iddynt hwy ac unrhyw un y maent wedi dod i gysylltiad â hwy hunanynysu am 14 diwrnod. Nawr, does bosibl nad profi, olrhain ac ynysu gyda'i gilydd yw'r allwedd i atal lledaeniad y feirws, ac er mwyn i'r ap fod yn effeithiol, mae'n rhaid i 60 y cant o'r...
Delyth Jewell: Weinidog, cyhoeddwyd yn dawel mewn datganiad i’r wasg yr wythnos hon fod Llywodraeth Cymru wedi ymuno â rhwydwaith Llywodraethau Economi Llesiant ochr yn ochr â Seland Newydd, Gwlad yr Iâ a’r Alban. Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ers misoedd ar Lywodraeth Cymru i ymuno â'r rhwydwaith hwn, felly rydym wrth ein bodd eich bod wedi gwrando arnom ni ar hyn. Rwy'n siŵr y cytunwch...
Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dymuno'n dda iddo wrth iddo ddechrau ar y swydd newydd hon. Mae'n debyg mai atgyweirio'r niwed y mae ein heconomi a'n cymdeithas yn mynd i'w wynebu yw'r her fwyaf sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i hwynebu ers iddi gael ei sefydlu gyntaf, felly rwy'n falch iawn o weld y rôl newydd hon yn cael ei chreu i gydgysylltu'r broses adfer. Rwy'n...
Delyth Jewell: Diolch ichi am hynny, Weinidog. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sy'n synhwyro diflastod cynyddol ymysg rhai aelodau o'r cyhoedd ynghylch y cyfyngiadau presennol, felly er fy mod yn derbyn yn llwyr y bydd ffocws eich gwaith ar faterion polisi ehangach, byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallech hefyd ystyried sut y gellid cael map ffordd ar gyfer sut i ddod allan o'r cyfyngiadau symud. Rhai o'r...
Delyth Jewell: Mae ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod pobl sy'n byw mewn tlodi yn fwy tueddol o ddal COVID-19, yn ddi-os am amryw o resymau'n ymwneud â thai gwael a'r tebygrwydd y byddan nhw mewn swyddi lle nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosib. Mae pobl sy'n byw mewn tlodi hefyd yn fwy tebygol o gael cyflyrau meddygol sy'n gwneud y feirws yn fwy difrifol....
Delyth Jewell: Gweinidog, mae adroddiad mewnol y Trysorlys a ddatgelwyd yn cynnwys cyfeiriad at rewi cyflog y sector cyhoeddus am ddwy flynedd fel un mesur sy'n cael ei ystyried yn ymateb i'r gwariant ar y coronafeirws. Byddai hynny'n bradychu'r aberth a wnaed gan weision cyhoeddus ymroddedig yn ystod yr argyfwng—sylw a wnaethpwyd gan gadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu heddiw. Ac os oes un wers y dylem ni ei...
Delyth Jewell: Brif Weinidog, mae'r argyfwng hwn wedi profi gwerth datganoli, ond hefyd wedi amlygu nifer o broblemau strwythurol yn y tirlun gwleidyddol Cymreig. Un o'r problemau hynny ydy gwendid difrifol y wasg. Yr wythnos diwethaf, roedd papurau a oedd yn cael eu gwerthu yng Nghymru â hysbyseb ar y dudalen flaen wedi'i thalu amdani gan Lywodraeth Prydain gyda'r neges 'Stay alert' oedd ddim yn...
Delyth Jewell: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a'r adnoddau fydd ar gael i awdurdodau lleol wrth ddatblygu'r capasiti i olrhain cysylltiadau yn dilyn cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer codi'r cyfyngiadau presennol? TQ434
Delyth Jewell: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Derbynnir yn eang mai'r rhan bwysicaf o unrhyw strategaeth sy'n ceisio mynd i'r afael â COVID-19 yw'r elfen brofi, tracio ac olrhain. O'i roi'n syml, mae'n rhaid inni gael y math hwnnw o gyfundrefn brofi a thracio ar waith cyn y gallwn ystyried unrhyw gamau sylweddol i godi'r cyfyngiadau presennol. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ar hynny. Nawr,...
Delyth Jewell: Mae’r ddadl hon yn achosi penbleth athronyddol—sut y gallwn ddatgloi drws heb yr allwedd? Does bosibl nad yr allwedd i ddatgloi ein cymdeithas a chefnu ar y cyfyngiadau symud yw cael system olrhain cysylltiadau ar waith, sicrhau bod gennym stociau digonol o gyfarpar diogelu personol a chael y mesurau dibynadwy gorau i gefnogi a rhoi hyder i'r cyhoedd. Yn anffodus, mewn gormod o ffyrdd,...
Delyth Jewell: Prif Weinidog, cyhoeddodd eich Llywodraeth ddydd Sul bod y canllawiau i bobl y dywedwyd wrthyn nhw am warchod yn newid y diwrnod canlynol. Rwy'n ymwybodol bod llawer o bryder ymhlith pobl y dywedwyd wrthyn nhw i warchod i ddiogelu eu bywydau bod y newidiadau hyn wedi eu cyflwyno heb fawr o rybudd a phan fo'r gyfradd R yn dal i fod yn uchel. Y bore yma, byddwch wedi cael llythyr gan 32 o...
Delyth Jewell: Gweinidog, fis diwethaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddai gweithwyr gofal yng Nghymru yn cael taliad bonws o £500 am eu cyfraniad yn ystod pandemig COVID-19. Mae wedi dod yn amlwg erbyn hyn y bydd angen tynnu treth incwm ac yswiriant gwladol o hynny, sy'n golygu mai'r swm gwirioneddol y bydd pobl sy'n ennill dros y lwfans personol yn ei gael fydd £360, nid £500. Nid yw Plaid Cymru yn...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym ninnau hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad—
Delyth Jewell: Ydych chi'n gallu fy nghlywed i nawr?