Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fis Awst diwethaf, fe wnes i lansio comisiwn i ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg. Fe wnes i gymeradwyo hefyd gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg pob un o’r 22 awdurdod lleol, sy’n nodi sut mae’r awdurdodau lleol yn bwriadu gwella addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. O ran cau'r ysgol benodol mae'r Aelod yn sôn amdani, gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw yn gynharach y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r penderfyniad wedi'i ohirio o ran ei gymryd mewn i effaith ar gyfer eleni, fel bod cyfle'n cael ei gymryd i edrych a oedd cynllun amgen ar gyfer sicrhau sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae'r adolygiad hwnnw wedi...
Jeremy Miles: Rwyf wedi bod yn glir gyda phob cyngor—nid wyf am enwi unrhyw gyngor yn benodol—rwyf wedi bod yn glir gyda phob cyngor fy mod yn disgwyl iddynt gyflawni'r uchelgeisiau y maent wedi'u hamlinellu yn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac yn amlwg dyna yw bwriad y cynghorau eu hunain hefyd. Rwyf hefyd wedi dweud y byddwn yn ystyried i ba raddau y mae rhwymedigaethau'r cynlluniau...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1.5 miliwn mewn cyllid grant eleni i gefnogi'r gwaith o gyflawni mentrau STEM, gyda'r prif nod o gefnogi a datblygu gweithgareddau cyfoethogi STEM, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac annog pobl i ddilyn pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch.
Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn hynod bwysig hwnnw, Altaf Hussain. Mae angen inni arfogi ein dysgwyr. Boed yn dewis dilyn trywydd gyrfaoedd mewn pynciau STEM neu beidio, mae angen inni arfogi ein holl ddysgwyr i wynebu dyfodol o newid technolegol ac economaidd cyflym, ac mae sgiliau digidol a'r math o hyblygrwydd a chreadigrwydd sy'n mynd gyda rhai o'r rheini, ochr yn ochr â'r wybodaeth ei hun, yn...
Jeremy Miles: Mae adrannau'r economi ac addysg yn cydweithio'n agos iawn i sicrhau bod anghenion sgiliau'n cael eu diwallu, gyda rôl allweddol ar gyfer partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae cyfrifon dysgu personol yn un enghraifft yn fy maes i, gydag ymyriadau wedi'u targedu mewn meysydd fel sero net a gyrru cerbydau nwyddau trwm eisoes yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus.
Jeremy Miles: Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae'r cydweithio hwnnw o fewn y Llywodraeth ac yn fwy eang o lawer na hynny yn rhan wirioneddol bwysig o'n dyfodol ni o ran y ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru. Rwy'n credu bod cydweithio rhwng addysg bellach, addysg uwch a phrif chwaraewyr y sector fel Airbus yn gyfres gyffrous iawn o ddatblygiadau ar y gorwel, lle mae gennych chi ymchwil dechnegol,...
Jeremy Miles: Ie. Holl bwynt y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yw casglu data'r diwydiant ar gyfer y gwaith cynllunio y mae colegau addysg bellach yn gallu ei wneud er mwyn darparu. Ond hefyd, mae'r berthynas rhwng colegau addysg bellach eu hunain a'r sectorau penodol yn gwbl hanfodol i'w galluogi i ymateb yn hyblyg ac mewn ffordd sy'n mynd i'r afael ag anghenion y farchnad lafur leol ac sy'n cynnig yr...
Jeremy Miles: Yn sicr. 'Dyfodol Byd-eang' yw ein strategaeth ar gyfer dysgu ieithoedd rhyngwladol, a chyhoeddais ein strategaeth ddiwygiedig tuag at ddiwedd y llynedd. Mae honno'n amlinellu sut y byddwn ni a'n partneriaid 'Dyfodol Byd-eang' yn parhau i gefnogi ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion am dair blynedd arall.
Jeremy Miles: Diolch i John Griffiths am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n cytuno ag ef; mae'n bryderus. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn dewis astudio ieithoedd tramor modern. Mae wedi gohebu â mi yn y gorffennol yn enwedig ynglŷn â'r dirywiad yn y ddarpariaeth Almaeneg, ac rwy'n cydnabod hynny. Y patrwm rydym yn ei weld yw, lle mae myfyrwyr yn cofrestru ar gyfer cymwysterau yn y meysydd...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r gwaith sydd ar y gweill a hoffwn ei chyfeirio at yr ateb rwyf newydd ei roi i John Griffiths ar y camau y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn yw bod y camau a gymerwn yn y maes polisi hwn, fel gydag unrhyw un arall, yn seiliedig ar y realiti yn hytrach nag ar ein golwg fyd-eang benodol ni....
Jeremy Miles: Rydym am alluogi mwy o blant i gerdded, mynd ar sgwter a beicio i'r ysgol. Rydym yn cefnogi hyn drwy ymgorffori teithio llesol yn yr arfarniad o ysgolion a cholegau newydd a ariennir drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy a thrwy ariannu gwelliannau o ran cerdded a beicio drwy ein cronfa teithio llesol a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau bob blwyddyn.
Jeremy Miles: Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a diolch amdano. Rwy'n credu bod y trothwy pellter, y gwnaeth yr Aelod gyfeirio ato yn ei gwestiwn, yn bwysig. Mae'n fater allweddol, ond mae hynny'n un o nifer o ystyriaethau ym maes trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol. Bellach, dyna yw chwarter holl wariant uniongyrchol awdurdodau lleol ar addysg, ac mae'n codi. Felly, mae'n alw sylweddol am arian cyhoeddus,...
Jeremy Miles: Rydym yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny, ac rydym yn darparu cymorth ariannol er mwyn i hynny ddigwydd hefyd. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud—mae'n bwysig iawn ein bod yn creu'r amgylchedd o amgylch ysgol sy'n hwyluso teithio llesol, yn ogystal â gosod y disgwyliad rheoleiddiol. Mae gosod y fframwaith yn un peth, ond dod o hyd i ffyrdd i wneud gwahaniaeth ar lawr...
Jeremy Miles: The duty to ensure that suitable educational provision is made available for children and young people rests with local authorities. This includes a duty to promote high standards of education, fair access to education and a general duty to ensure there are sufficient schools in their area.
Jeremy Miles: Attendance rates are currently 89.7 per cent on average. My priority is to ensure all children and young people have the opportunity to reach their potential, regardless of their background. Maintaining good attendance and engagement with children and their families is key to this.
Jeremy Miles: Faith schools across Wales offer parents the opportunity for their children to be educated in accordance with their beliefs. Local authorities should therefore aim for a balance of provision between the types of schools that they maintain, whilst ensuring high-quality teaching and learning and curriculum coverage for all learners.
Jeremy Miles: We are committed to creating an inclusive education system. Our additional learning needs reforms put learners at the heart of the process to identify and meet their needs and will help ensure all pupils requiring additional support to meet an ALN have that support properly planned for and protected.
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cyflwynwyd enw newydd ar gyfer ein rhaglen buddsoddi mewn seilwaith addysg flaenllaw, sef rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, a thrwy hyn rydym ni'n gwneud datganiad clir am ein hymrwymiadau ar gyfer yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi darparu dros £1.5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi cyflwyno 255 o brosiectau...
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, mae'r rhaglen yn wirioneddol drawsbynciol ac wedi rhoi llwyfan i ymgorffori'r Gymraeg yn ogystal â pholisïau eraill, er enghraifft teithio llesol, bioamrywiaeth, TGCh, cymuned a chwricwlwm, cyflawni a manteisio i'r eithaf ar werth o fuddsoddiadau ar draws ein hystad addysg ac, wrth wneud hynny, mae wedi darparu model cynaliadwyedd i eraill ei ddilyn. Fel un o'r cenhedloedd...