Rhun ap Iorwerth: Yn syml iawn, be dwi'n gofyn i'r Prif Weinidog i'w wneud heddiw ydy cynnal adolygiad go iawn o'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen efo'r cynllun ar gyfer croesiad y Fenai. Dwi'n nodi bod comisiwn Burns wedi cael cais i edrych ar y gwahanol opsiynau. Dwi wedi cyflwyno dadl i'r comisiwn hwnnw dros atgyfodi'r cynllun. Wrth gwrs, yr adolygiad ffyrdd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd yn bennaf oedd...
Rhun ap Iorwerth: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi, yn rhoi eglurhad o'r broses a ddilynir—yn fuan, gobeithio—i gyhoeddi rhoi statws porthladd rhydd i borthladd neu borthladdoedd yng Nghymru, penderfyniad a wnaed ar y cyd, wrth gwrs, gan Lywodraethau'r DU a Chymru. A hoffwn roi ar y cofnod, unwaith eto, fy niolch i gyngor Môn a Stena am lunio cais cryf iawn, iawn sydd â buddiannau pobl...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y datganiad ac am ei rannu efo ni ymlaen llaw. Ond mae’n rhaid dweud ei fod o’n ddatganiad rhyfeddol mewn sawl ffordd, ac mae gen i ofn nad ydy i’w weld yn adlewyrchu realiti’r gwasanaeth deintyddol, na phrofiadau cleifion ar unrhyw lefel, bron. Mae’n un arall o’r datganiadau yna sy’n rhoi’r argraff un ai bod popeth yn iawn neu fod problemau mewn llaw, pan fo’r...
Rhun ap Iorwerth: 'Mae deintyddiaeth wedi bod yn un o'r gwasanaethau anoddach i'w hadfer yn dilyn pandemig COVID-19 ac yn esbonio, yn rhannol, pam mae pobl yn cael trafferth cael mynediad at ofal deintyddol y GIG.'
Rhun ap Iorwerth: Mae’n gwbl disingenuous, mae gen i ofn. Wrth gwrs bod COVID wedi dod â heriau anferth i ddeintyddiaeth, fel yr holl wasanaethau iechyd a gofal. Mi oedd y rhai mewn deintyddiaeth yn broblemau oedd yn rhai dwys iawn, iawn cyn i COVID daro. Ac mae pethau'n mynd yn waeth; dwi am ddyfynnu eto.
Rhun ap Iorwerth: Rwyf wedi clywed datganiadau yn ddiweddar yn dweud bod deintyddiaeth y GIG bellach yn system ddwy neu dair haen, a'r ffaith yw bod system ddeintyddol breifat wedi bod erioed—dewis arall sefydledig. Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n syfrdanol clywed Gweinidog Llafur yn cyfeirio at y rhaniad real iawn hwnnw rhwng y bobl ffodus ac anffodus mewn ffordd mor ddidaro. Mae'r...
Rhun ap Iorwerth: Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y newidiadau i gytundebau a’r bwriad o ehangu mynediad at wasanaethau NHS. Mae’n dweud bod 140,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld. Ar y wyneb, wrth gwrs, mae hynny’n swnio’n dda, ond mae’n gwbl blaen nad yw hyn yn gynaliadwy. Roeddwn i’n siarad ddoe efo deintydd sy’n gwbl ymrwymedig i’r NHS, a oedd wedi llwyddo i daro’r targed a...
Rhun ap Iorwerth: Rwy'n mynd i gyfeirio yn fy eiliadau olaf un, Dirprwy Lywydd, at y datganiad olaf gan y Gweinidog. 'I gloi, i roi sicrwydd i Aelodau mai deintyddiaeth yw un o fy mhrif flaenoriaethau, dwi eisiau datblygu gwasanaeth deintyddol y GIG yng Nghymru sy'n deg i ddeintyddion'— mae'n amlwg nad yw hynny'n wir; maen nhw'n gadael yn eu heidiau— 'sy'n cyflawni ar gyfer risg ac anghenion y...
Rhun ap Iorwerth: A gaf innau ategu sylwadau'r Dirprwy Weinidog o ran ein diolch i'r gweithlu iechyd a gofal am eu gwaith diflino nhw? Diolch am y datganiad heddiw. Mae yna egwyddorion pwysig iawn yma y gallwn ni i gyd eu cefnogi, gobeithio—pwysigrwydd cefnogi pobl i fyw yn annibynnol yn eu cymunedau, a'r angen i drawsnewid gwasanaethau go iawn er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r gronfa yma, wrth gwrs,...
Rhun ap Iorwerth: 6. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am gymorth arainnol ychwanegol i Gyngor Sir Ynys Môn yn sgil cyhoeddiad y 2 Sisters Food Group am gau ei safle yn Llangefni? OQ59316
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna. Mae angen ymateb o ran cyllid ychwanegol ar sawl lefel, wrth gwrs. Mae hon yn anferth o ergyd i ni yn Ynys Môn. Dwi, wrth gwrs, mewn cyswllt efo llawer o'r rheini sy'n colli eu gwaith wrth iddyn nhw wynebu dyfodol o ansicrwydd, a dwi'n gofyn am sicrwydd heddiw y bydd y Gweinidog yn edrych yn ffafriol ar unrhyw geisiadau am gefnogaeth i weithwyr a'u teuluoedd yn...
Rhun ap Iorwerth: Ychydig funudau yn ôl roeddwn i'n gofyn i'r Gweinidog cyllid am gefnogaeth i Ynys Môn yn sgil cau gwaith 2 Sisters Food Group. Mi all arian ychwanegol sy'n dod ar gael rŵan drwy'r bid twf fod yn fodd i roi cefnogaeth i'r sector bwyd yn Ynys Môn rŵan hefyd. Dwi'n eiddgar i weld a oes modd defnyddio'r arian hwnnw i ddelifro'r parc cynhyrchu bwyd—mae'r Gweinidog yn gwybod dwi wedi bod yn...
Rhun ap Iorwerth: Nid ar chwarae bach mae gofyn i Weinidog gamu lawr neu gael ei diswyddo, ond, ar ôl dwys ystyried, dyna wnes i a Phlaid Cymru rhyw dair wythnos yn ôl rŵan, achos ein bod ni'n grediniol bod yr amser wedi dod am ddechrau o'r newydd.
Rhun ap Iorwerth: Gallwn gyfeirio y prynhawn yma at gatalog o fethiannau yn y GIG o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth hon, y Gweinidog presennol a’i rhagflaenwyr: yr amseroedd aros gwaethaf erioed; y methiant ystyfnig i wneud rhywbeth gwahanol pan fu'n amlwg nad oedd yr ymdrechion i dorri'r amseroedd aros hynny'n mynd i lwyddo, a hynny o bell ffordd; argyfwng amseroedd aros ambiwlans; prinder staff; agweddau...
Rhun ap Iorwerth: Ni fydd y Gweinidog yn cael ei diswyddo heddiw gan y bydd Llafur yn ennill y bleidlais hon. Yr hyn rwyf wedi’i ddweud yw fy mod i heddiw yn gweld pwysigrwydd cael y cyfle i bwysleisio’r hyn rydym yn ymladd drosto. Ac i mi, mae'n ymwneud ag atebolrwydd. A byddwn yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth a’r rheini ar y meinciau Llafur yn croesawu’r cyfle i ddangos eu bod am fod yn atebol....
Rhun ap Iorwerth: Rwyf am sôn am un gair: 'amhosibilrwydd'. Ni chredaf ei bod yn amhosibl i ni yng Nghymru redeg gwasanaethau cyhoeddus yn well nag y gwnawn ar hyn o bryd. Ni chredaf ei bod yn amhosibl inni lunio gweledigaeth a chyflawni’r weledigaeth honno mewn ffordd sy’n darparu gofal iechyd gwell na'r hyn sy'n cael ei ddarparu yma yng Nghymru heddiw, er gwaethaf holl ymdrechion ein gweithwyr iechyd a...
Rhun ap Iorwerth: Dim ond yn fyr iawn. Ar yr union bwynt yna, gweithredu ar ran dyfodol ein cymunedau ni ydyn ni yn fan hyn. Mae gen i lythyr gan gwmni O.R. Jones o Ynys Môn. Ydyn, maen nhw'n galw am ymestyn yr arian yma ac am gael buddsoddiad hirdymor yn y bysys, maen nhw'n poeni am y swyddi fyddai'n cael eu colli pe na bai hyn yn digwydd, ond poeni maen nhw yn greiddiol am yr effaith ar gymunedau. Ydy'r...
Rhun ap Iorwerth: I thank the Minister for the statement, and I'd also like to place on record my thanks for the Minister's approach on this issue. We've come on quite a long journey, I think. When the UK Government announced its free port prospectus, it was clearly unacceptable that they proposed to offer £26 million for English free ports, only £8 million for one in Wales, and some may have been happy to...
Rhun ap Iorwerth: Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad yna? O bosib y peth mwyaf arwyddocaol ydy'r ffaith bod darn o waith ymchwil wedi cael ei gomisiynu gan y Gweinidog yn ddiweddar er mwyn trio dod i ddeall yn well beth ydy profiadau pobl o gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, a beth mae mynediad da yn ei olygu iddyn nhw. Mae'n wirioneddol yn bwysig, dwi'n meddwl, ein bod ni'n deall hyn, achos...
Rhun ap Iorwerth: 1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i daclo tlodi ar Ynys Môn? OQ59349